Skip to main content

Ymgynghoriad ar y Gyllideb 2019/20

Rhwng 6 Tachwedd a 18 Rhagfyr bydd efelychydd cyllideb ar gael i roi cyfle i chi gau'r bwlch sy'n weddill yng Nghyllideb y Cyngor – sef tua £3.8 miliwn – ac i bennu cyllideb y Cyngor yn unol â'ch blaenoriaethau chi.

A chyda setliad dros dro oddi wrth Lywodraeth Cymru sy'n well na'r disgwyl, ynghyd â dull rhagweithiol y Cyngor o fynd ati yn nhermau rheoli'i faterion ariannol, mae'r bwlch amcangyfrifedig yn y gyllideb o dros £18 miliwn bellach wedi'i leihau i tua £3.8 miliwn.

Bu raid i Gyngor Rhondda Cynon Taf arbed dros £100 miliwn o'i gyllideb refeniw ers 2011 oherwydd gostyngiadau i arian y sector cyhoeddus.

Mae gan y Cyngor bum blaenoriaeth ar gyfer y dyfodol.  Hoffen ni glywed eich barn amdanyn nhw:

Digidoleiddio – creu gwasanaethau trwy ddatblygu gweithlu ystwyth a chynyddu cyfleoedd i drigolion gyfathrebu â ni ar-lein.

Atal ac ymyrraeth gynnar – buddsoddi mewn gwasanaethau sy'n ein galluogi ni i ddatrys materion cyn iddyn nhw waethygu.

Masnacheiddio – cynnig rhai o'n gwasanaethau ni ar sail fasnachol i leihau effaith cwtogi ar y gyllideb.

Effeithlonrwydd – parhau i sicrhau arbedion effeithlonrwydd gwerth miliynau o bunnoedd bob blwyddyn – dros y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi arbed dros £60 miliwn drwy wneud hyn.

Annibyniaeth – buddsoddi mewn gwasanaethau yn y gymuned a fydd yn helpu unigolion a chyplau i barhau i fyw'n annibynnol.

Gwyliwch ein fideo isod i gael rhagor o wybodaeth am gyllideb y Cyngor a'r pum blaenoriaeth.

Yn ôl y gyfraith, mae rhaid i'r Cyngor bennu cyllideb gytbwys.  Hoffen ni glywed eich barn chi ynglŷn â sut dylen ni wneud hynny, ac mae sawl ffordd i chi wneud hynny. 

Efelychydd Cyllideb Ar-lein

Yn ôl y gyfraith, mae rhaid i'r Cyngor bennu cyllideb gytbwys bob blwyddyn. Mae'r efelychydd cyllideb yn gyfle i chi fantoli'r gyllideb yn y ffordd fwyaf addas yn unol â'ch barn a'ch dewisiadau chi. Mae’r teclyn yma yn hawdd ei ddefnyddio, ac yn rhoi’r cyfle, a chithau’n gynnes glyd gartref, i gyflwyno’ch syniadau o ran siapio cyllideb y flwyddyn nesaf.

Mae'n bosibl, er enghraifft, byddwch chi am sicrhau arbedion ym maes hamdden er mwyn caniatáu rhagor o wariant ym maes addysg. Mae'r efelychydd cyllideb yn caniatáu i chi wneud hynny, a byddwch chi bob tro yn gweld pa mor bell mae rhaid i chi fynd er mwyn pennu cyllideb gyfreithiol gytbwys. Cliciwch isod o gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.

Arolwg Ar-lein

Mae'r arolwg ar-lein yn gofyn cwestiynau i chi ar flaenoriaethau'r Cyngor, ardaloedd buddsoddi a Threth y Cyngor.

 

Cymerwch rhan yn yr arolwg ar-lein

Achlysuron Ymgysylltu â'r Cyhoedd

Galwch heibio i un o’n sesiynau i’r cyhoedd, lle byddwch chi’n siarad wyneb-i-wyneb ag Aelodau o’r Cabinet i drafod yr elfennau o’r gyllideb sy’n bwysicaf i chi.  Mae’r achlysuron yma yn rhoi cyfle o siarad â’r Cabinet yn uniongyrchol ac i gyfrannu at lywio’r penderfyniadau ynghylch cyllideb y flwyddyn nesaf.  Mae’r sesiynau yma’n hynod boblogaidd, felly cofiwch gadw’ch lle chi AM DDIMi osgoi siom.

Dyma fanylion y sesiynau:

Manylion/Achlysuron

Dyddiad

Amser

Ymgysylltu â’r Cyhoedd  - Canolfan Oriau Dydd Aberpennar

Cadwch le yma

Dydd Iau 30 Tachwedd

2pm–4pm

Ymgysylltu â’r Cyhoedd – Theatr y Parc a’r Dâr, Treorci

Cadwch le yma

Dydd Mawrth 5 Rhagfyr

6.30pm-8.30pm

Sioeau Teithiol

Byddwn ni'n dod i'ch ardal chi yn rhan o'r broses ymgynghori! Trwy gydol y cyfnod ymgynghori bydd y garfan ar draws ac ar hyd yr ardal yn clywed sut byddech chi eisiau i ni wario cyllideb y flwyddyn nesaf. Galwch heibio i ddweud 'shw mae' a chymryd rhan yn y mannau isod:

Canol Trefi

  Dyddiad

 Amser

Aberpennar

Dydd Gwener 16th Tachwedd

10am-2pm

Tonypandy

Dydd Gwener 23rd Tachwedd

10am-2pm

Pontypridd

Dydd Mercher 28th Tachwedd

10am-2pm

 

Sesiynau yn y Canolfannau Hamdden

 

Canolfan Hamdden Llantrisant

Dydd Iau 15th Tachwedd

5pm-7pm

Canolfan Hamdden Sobell

Dydd Llun 19th Tachwedd

5pm-7pm

Canolfan Hamdden y Ddraenen Wen

Dydd Iau 22nd Tachwedd

5pm-7pm

Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda

Dydd Llun 26th Tachwedd

5pm-7pm

 

Sesiynau yn y Llyfrgelloedd

 

Treorci

Dydd Llun 12th Tachwedd

2pm-4pm

Abercynon

Dydd Gwener 30th Tachwedd

2pm-4pm

Aberdâr

Dydd Mawrth 4th Rhagfyr

10am-12pm

Pont-y-clun

Dydd Mercher 5th Rhagfyr

10am-12pm

Glynrhedynog

Dydd Gwener 7th Rhagfyr

10am-12pm

Y Porth

Dydd Mawrth 11th Rhagfyr

10am-12pm

Hirwaun

Dydd Mawrth 11th Rhagfyr

2pm-4pm

Pontypridd

Dydd Iau 13th Rhagfyr

2pm-4pm

*Cafodd yr achlysuron yma eu canslo ar 11 Rhagfyr oherwydd y tywydd garw. Erbyn hyn, rydyn ni wedi'u had-drefnu.