Skip to main content

Beth mae modd i mi ei ailgylchu yn rhan o'r Cynllun Ailgylchu Byd Masnach?

Oherwydd pandemig y Coronafeirws, mae rhai newidiadau dros dro i'r gwasanaethau Gwastraff Byd Masnach - Yr wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau i'r gwasanaeth

Mae'r daflen isod yn manylu ar beth sydd yn bosibl/ddim yn bosibl ei ailgylchu fel rhan o'r Cynllun Ailgylchu Byd Masnach

Rhowch wastraff papur, metel, plastig a pholysytren mewn bagiau glas ar wahân, rhowch wastraff bwyd yn y bagiau gwastraff bwyd masnachol a rhowch yr gwastraff gwyrdd yn y sachau gwastraff gwyrdd priodol. Rhowch bob math arall o wastraff yn y bagiau brown neu’r biniau gwastraff masnachol.  Peidiwch â rhoi gwastraff ailgylchu byd masnach ym magiau ailgylchu gwastraff o’r cartref. Mae'n bosibl y bydd rhoi gwastraff ailgylchu byd masnach ym magiau gwastraff o’r cartref yn arwain at gamau gorfodi.

Casgliadau Gwydr – Byd Masnach

Mae rhoi llawer iawn o wydr mewn bagiau a biniau'r byd masnach yn eu gwneud yn drwm iawn, ac mae ymylon miniog a pheryglus yn y bagiau yn eu gwneud yn berygl i'r cyhoedd a staff. Felly dyw'r Gwasanaethau Gwastraff ddim yn casglu gwydr yn rhan o'r gwasanaeth casglu gwastraff byd masnach ymyl y ffordd. Ewch i un o'n banciau gwydr i gael gwared ar wydr o'r byd masnach.