Skip to main content

Cwestiynau Cyffredin Ailgylchu Masnach a Gwastraff

Pryd ydy'r newidiadau gwastraff byd masnach yn dod i rym?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd y rheoliadau yn newid ar 8 Ebrill.

Pam ydy'r newidiadau yma'n cael eu gweithredu?

Mae'r newidiadau'n cael eu gweithredu er mwyn atal gwastraff y mae modd ei ailgylchu rhag mynd i'r safle dirlenwi.  Y gobaith yw y bydd safon yr ailgylchu yn gwella o ganlyniad i'r 'gofynion gwahanu'.

Pwy sy'n gorfod dilyn y rheoliadau newydd?

Bydd gofyn i bob safle sy'n cael ei ystyried yn 'safle annomestig' ddilyn y rheoliadau newydd.  Mae modd dod o hyd i'r holl wybodaeth ynglŷn â newidiadau Llywodraeth Cymru ar-lein. https://www.llyw.cymru/ailgylchu-yn-y-gweithle

A fydd y Cyngor yn darparu unrhyw offer newydd i'r busnesau?

O fis Ebrill 2024, rhaid i bob safle annomestig ailgylchu papur, plastig, cynwysyddion a bwyd.  Rhaid rhoi’r gwastraff mewn bagiau ar wahân a'u cyflwyno ar wahân yn barod i'w casglu.  Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cyflwyno bagiau ailgylchu newydd fel a ganlyn:

Bagiau Glas – papur a chardfwrdd tenau

Bagiau Coch – plastig a chynwysyddion

Mae modd parhau i ailgylchu gwastraff bwyd yn ôl y drefn arferol gan ddefnyddio’r bagiau gwastraff bwyd byd masnach.

Ble alla i brynu'r bagiau newydd?

Mae modd prynu bagiau ailgylchu yn llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf.  Mae modd prynu nifer fawr o fagiau ar-lein: Angen rhagor o fagiau ailgylchu a gwastraff byd masnach?

Beth yw pris y bagiau newydd?

Mae modd dod o hyd i brisiau'r biniau a'r bagiau newydd ar ein gwefan. Ffioedd ar gyfer Casgliadau Ailgylchu a Gwastraff Byd Masnach

Oes modd cyfnewid y bagiau glas rydw i wedi'u prynu ar gyfer bagiau coch?

Mae modd parhau i ddefnyddio eich hen fagiau glas ar gyfer ailgylchu papur/cardfwrdd.  Rhaid ailgylchu plastigion a chynwysyddion yn y bagiau coch newydd o fis Ebrill 2024.  Mae hefyd modd i chi gyfnewid unrhyw rholion/pacedi o fagiau glas sydd heb eu hagor ar gyfer bagiau coch.  E-bostiwch Ailgylchuagwastraffbydmasnach@rctcbc.gov.uk er mwyn cyfnewid eich bagiau.

Sut fydda i'n gwybod beth sy'n cael ei roi ym mhob bag?

Mae canllawiau wedi'u hargraffu ar y bagiau.  Mae gwybodaeth bellach i'w gweld ar wefan y Cyngor: Beth mae modd i mi ei ailgylchu yn rhan o'r Cynllun Ailgylchu Gwastraff Byd Masnach?

Oes modd i mi brynu a defnyddio bagiau coch a glas gwahanol?

Nac oes, byddwn ni dim ond yn casglu’r bagiau hynny sy'n cael eu darparu gan y Cyngor.

A fydd fy niwrnodau casglu yn newid?

Byddwn ni'n cysylltu â chi os oes newid i'ch diwrnodau casglu.

Rydw i'n rhoi gwastraff bwyd yn y bin gwastraff cyffredinol ar hyn o bryd.  Sut ydw i'n ymuno â'r gwasanaeth gwastraff bwyd?

Os ydych chi'n cynhyrchu mwy na 5kg o wastraff bwyd yr wythnos (tua'r un maint a chadi bach), yna mae’n rhaid i chi ailgylchu’r gwastraff yma.  Mae modd prynu bagiau gwastraff bwyd byd masnach o lyfrgell Rhondda Cynon Taf neu ar-lein (os ydych chi'n prynu nifer fawr o fagiau). Angen rhagor o fagiau ailgylchu a gwastraff byd masnach?

A fydd y Cyngor yn cynnig gwasanaeth casglu gwastraff gwydr y mae modd ei ailgylchu?  Os na, sut ydw i'n mynd ati i ailgylchu gwydr?

Mae'r Cyngor yn adolygu'u cynlluniau i gasglu gwydr o safleoedd annomestig.  Yn y cyfamser, mae modd ailgylchu gwydr yn eich banc gwydr lleol: Dod o hyd i fanciau ailgylchu yn RhCT

Sut ddylwn i gael gwared ar eitemau ag arnyn nhw olion bwyd?

Os mai eitem plastig sydd dan sylw a bod modd ei olchi'n lân dan y tap, fe ddylech chi ei roi yn y bag ailgylchu coch.  Os mai eitem cardfwrdd sydd dan sylw er enghraifft twb hufen ia, bocs cŵn poeth neu gôn sglodion, does dim modd golchi'r rhain yn lân.  Felly bydd angen cael gwared ar y rhain gyda'r gwastraff cyffredinol.  Yn yr un modd, bydd angen cael gwared ar gyllyll, ffyrc a llwyau cardfwrdd neu fambŵ gyda'r gwastraff cyffredinol os oes olion bwyd arnyn nhw.

Rydw i'n ailgylchu rhagor o wastraff erbyn hyn, sut ydw i'n gallu lleihau maint fy min gwastraff byd masnach?

Mae modd lleihau maint eich bin unrhyw bryd drwy e-bostio'r Cyngor: Ailgylchuagwastraffbydmasnach@rctcbc.gov.uk 

Does dim digon o le gen i ar gyfer biniau ychwanegol ar y safle, beth ddylwn i ei wneud?

Ni fydd angen rhagor o le yn sgil y newidiadau, yn enwedig os ydych chi'n gallu dechrau ailgylchu rhagor o'r gwastraff cyffredinol.

Ydw i'n gallu mynd â gwastraff gartref gyda fi a'u hailgylchu yn rhan o'r casgliad domestig?

Yn anffodus, na.  Mae deddfwriaeth Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd yn datgan bod rhaid talu ar wahân i ailgylchu gwastraff byd masnach. Os oes gyda chi hysbysiad Trosglwyddo Gwastraff, efallai bydd modd i chi fynd â'ch gwastraff byd masnach gartref gyda chi, ond rhaid i'r gwastraff yma gael eu rhoi yn y bin neu fag gwastraff byd masnach cywir.  Fydd gwastraff byd masnach ddim yn cael ei gasglu o finiau domestig, bydd rhoi gwastraff yn y biniau anghywir yn gallu arwain at gamau gorfodi.

  • Oes rhaid dilyn y rheoliadau newydd os ydw i'n rhedeg busnes o fy nghartref.
  • Rhaid dilyn y rheoliadau newydd wrth ailgylchu unrhyw wastraff sy'n cael ei gynhyrchu tu hwnt i'ch gwastraff dyddiol arferol.

A fydd angen talu ar gyfer casgliadau cardfwrdd?

Mae casgliadau cardfwrdd yn parhau i fod yn rhad ac am ddim ar gyfer cwsmeriaid ailgylchu cyfredol.  Serch hynny, mae'r garfan yn adolygu'r cynllun casglu cardfwrdd ar hyn o bryd. Byddwn ni'n rhoi gwybod am unrhyw newidiadau fel y bo'n briodol.

Beth fydd yn digwydd os na fydda i'n cydymffurfio â'r rheoliadau newydd ?  A fydda i'n derbyn dirwy os ydw i'n cymysgu fy ngwastraff?

Os dydych chi ddim yn cydymffurfio â'r rheoliadau, efallai bydd camau gweithredu yn cael eu cymryd yn eich erbyn, gall hyn arwain at ddirwy. 

Beth yw pris y biniau a’r bagiau gwastraff byd masnach?

Mae modd gweld holl brisiau casgliadau gwastraff byd masnach ar ein gwefan: Ffioedd ar gyfer Casgliadau Ailgylchu a Gwastraff Byd Masnach

Oes rhaid i Gyngor Rhondda Cynon Taf gasglu fy ngwastraff?

Na, does dim rhaid i Gyngor Rhondda Cynon Taf gasglu eich gwastraff byd masnach. 

Ble alla i ddod o hyd i bosteri i’w harddangos yn y gweithle?

Mae portffolio o adnoddau gan Lywodraeth Cymru a WRAP Cymru y mae modd eu lawrlwytho neu’u hargraffu Yma

Beth yw nodyn trosglwyddo dyletswyddau gofal a ble mae modd i mi gael un?

Rhaid i unrhyw fusnes sy'n cynhyrchu gwastraff gydymffurfio â gofynion dyletswyddau gofal.  Rhaid bod gyda chi dystysgrif dyletswydd gofal neu nodyn trosglwyddo gwastraff (WTN) ar gyfer unrhyw wastraff sy'n cael eu casglu o safle eich busnes.  Os ydy Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gyfrifol am gasglu eich gwastraff, mae dyletswydd ar y Cyngor i roi tystysgrif i chi.  Mae modd gwneud cais am dystysgrif drwy e-bostio Ailgylchu@rctcbc.gov.uk