Skip to main content

Dyddiadau Casgliadau Ailgylchu a Gwastraff Byd Masnach

Os oes gennych chi unrhyw ymholiad ynglŷn â'ch dyddiau ailgylchu a chasglu gwastraff byd masnach, anfonwch e-bost at ailgylchu@rctcbc.gov.uk

Rhowch eich eitemau y mae modd eu hailgylchu neu'ch gwastraff allan rhwng 7pm y noson gynt a 7am ar fore'ch diwrnod casglu arferol.  Rhowch eich eitemau y mae modd eu hailgylchu neu'ch gwastraff allan yn eich mannau casglu gwastraff. Peidiwch â rhwystro unrhyw lwybrau neu fannau mynediad sydd â chyrbiau isel. 

Dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, neu gyfnodau o dywydd garw neu achlysuron eraill lle bydd rhaid cau gwasanaethau'n annisgwyl, efallai y bydd eich diwrnod casglu gwastraff yn newid.  

Am ragor o fanylion am y newidiadau yma, ewch i dudalen Gwyliau banc a newidiadau i'r gwasanaeth brys    Does DIM newidiadau i Ddiwrnodau Casglu eraill ar ôl Gwyliau Banc eraill.

Nodwch y bydd angen i Ysgolion RhCT gyfeirio at eu calendr casglu ar gyfer eu dyddiau casglu nhw.