Skip to main content

Cofrestrwch i fod yn Gwsmer Ailgylchu a Gwastraff Byd Masnach

Bydd angen i fusnesau newydd gofrestru eu manylion i ddechrau derbyn gwasanaeth ailgylchu a gwastraff byd masnach.
Cofrestrwch eich diddordeb mewn dod yn gwsmer ailgylchu a gwastraff byd masnach
 

Os byddwch chi'n defnyddio’n gwasanaeth ni, bydd modd inni roi biniau ar olwynion i chi er mwyn storio eich gwastraff masnachol cyn i ni ei gasglu – fel arfer, dyma fydd y dewis gorau. Os does dim lle gyda chi i gadw bin ar olwynion, cewch chi ddefnyddio ein bagiau gwastraff byd masnach.

Bydd rhaid i chi wneud yn siŵr bod digon o gapasiti (biniau neu fagiau gwastraff byd masnach) gyda chi ar gyfer eich gwastraff. Bydd rhaid i chi allu cau caead eich bin, a dydyn ni ddim yn casglu gwastraff ychwanegol.

Yn ogystal â'n gwasanaeth casglu gwastraff byd masnach, rydyn ni hefyd yn cynnig gwasanaeth casglu gwastraff ailgylchu byd masnach.

Os ydych chi'n byw mewn fflat neu dŷ sydd ynghlwm wrth eich busnes chi, byddwn yn casglu eich gwastraff cartref fel rhan o'ch gwasanaeth casglu domestig. Fodd bynnag, mae modd i ni gymryd camau gorfodi yn eich erbyn chi os bydd gwastraff byd masnach yn cael ei roi mewn biniau/bagiau domestig.  Nid yw gwastraff byd masnach yn cael ei dderbyn ar hyn o bryd yng Nghanolfannau Ailgylchu yn y Gymuned RhCT. 

Os byddwch chi'n dewis defnyddio gwasanaeth arall, bydd rhaid i chi wneud yn siŵr bod unrhyw gontractwr preifat y byddwch chi'n ei ddefnyddio wedi'i gofrestru'n gywir ac yn rhoi'r gwaith papur priodol i chi. Mae pob contractwr casglu gwastraff cyfreithlon wedi'i drwyddedu a'i gofrestru yn gludwr gwastraff gan Gyfoeth Naturiol Cymru / Asiantaeth yr Amgylchedd.

I wneud yn siŵr bod cludwr gwastraff wedi’i gofrestru, ffoniwch Asiantaeth yr Amgylchedd ar 03708 506506 a gofyn am Archwiliad Dilysu Cludwr Gwastraff yn y fan a’r lle.