Newidiadau i Gasgliadau Gwastraff Cyffredinol Masnach

NEWIDIADAU PWYSIG I'CH CASGLIADAU BIN AR OLWYNION GWASTRAFF BYD MASNACH

O 04/11/2024 ymlaen, bydd y Cyngor yn casglu biniau gwastraff byd masnach ar olwynion a bagiau gwastraff brown bob 3 wythnos. Bydd newid eich amserlen gwastraff cyffredinol yn arbed arian i'r Cyngor a chyfrannu at leihau ei ôl troed carbon.  Bydd y newid hefyd yn helpu busnesau i reoli eu gwastraff yn unol â Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle 2024.

Byddwn ni'n parhau i gasglu'r holl ddeunyddiau i'w hailgylchu a bwyd bob wythnos.