Skip to main content

Newidiadau Arfaethedig i Gasgliadau Gwastraff Cyffredinol Byd Masnach Cwestiynau Cyffredin

Pam mae'r newidiadau yma'n cael eu cynnig?

Yn dilyn cyflwyno Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle Llywodraeth Cymru yn 2024, rhaid i bob busnes wahanu gwastraff ailgylchu byd masnach a gwastraff cyffredinol (na ellir ei ailgylchu).  Am fod y rheoliadau newydd ar waith, dylai hyn arwain at lai o wastraff cyffredinol yn cael ei gynhyrchu gan fusnesau.

Wrth gasglu gwastraff cyffredinol byd masnach bob 3 wythnos, bydd modd i ni ddefnyddio'r un cerbydau sy'n casglu gwastraff cyffredinol domestig.  Dylai lleihau nifer y cerbydau sydd eu hangen er mwyn casglu gwastraff cyffredinol byd masnach a'u hailddefnyddio nhw â'r nod o wella'r gwasanaeth casglu gwastraff ailgylchu wythnosol sicrhau fod y gwasanaethau casglu gwastraff yn cydymffurfio â'r rheoliadau newydd gan osgoi.   Bydd hefyd yn atal Rhondda Cynon Taf rhag defnyddio cerbydau ychwanegol gan leihau ein hôl troed carbon. 

Pryd bydd y newidiadau yma'n cael eu cyflwyno?

Mae modd i'r newidiadau arfaethedig fod ar waith o ddydd Llun, 4 Tachwedd 2024.

A fydd unrhyw newidiadau i'm diwrnod casglu?

Ddim o reidrwydd.  Byddwn ni'n rhoi gwybod i chi ymlaen llaw os bydd unrhyw newid(iadau) i'ch diwrnod casglu.

Pam mae eich ffioedd wedi newid?

Mae'r ffioedd newydd yn seiliedig ar gost gwasanaeth misol yn hytrach na chost wythnosol.

Pam mae'r ffioedd yn cynyddu bob blwyddyn?

Mae costau prosesu yn ogystal â'r costau sy'n gysylltiedig â chasglu gwastraff wedi cynyddu bob blwyddyn dros y 5 mlynedd ddiwethaf.  Mae hyn hefyd yn cynnwys costau anuniongyrchol megis cost biniau gwastraff byd masnach ar olwynion a bagiau brown.  Mae'r Cyngor felly angen cynyddu ei ffioedd er mwyn talu am y costau sy'n gysylltiedig â chasglu gwastraff. 

Sut mae modd i mi leihau fy nghostau?

Drwy ailgylchu rhagor, dylai cwsmeriaid weld bod eu gwastraff byd masnach sy'n cael ei daflu yn lleihau cryn dipyn.  Mae modd i hyn arwain at leihau maint/nifer y biniau gwastraff byd masnach a/neu nifer y bagiau gwastrafff byd masnach brown sy'n cael eu defnyddio.  Dylai cost gwasanaeth ailgylchu'r byd masnach gan Gyngor Rhondda Cynon Taf arwain at arbedion sylweddol o ran costau casglu gwastraff byd masnach.

Mae modd i gwsmeriaid ailgylchu presennol leihau eu costau drwy leihau cardfwrdd gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf yn rhad ac am ddim.

Os ydw i'n dewis i barhau â'r gwasanaeth casglu gwastraff byd masnach gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, pa newidiadau fydd yn cael eu gwneud i'r cyfrif gwasanaeth casglu gwastraff byd masnach (rwyf wedi talu'n llawn hyd at 31/3/25, neu, daliad debyd uniongyrchol bob mis wedi'i drefnu)?

Os ydych chi'n dewis i barhau â'r gwasanaeth casglu gwastraff byd masnach gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, bydd eich cyfrif yn cael ei adolygu a'i ddiwygio yn ôl yr angen a bydd cofnodion a'r cyfrif yn cael ei ddiweddaru.

Beth yw costau'r gwasanaeth casglu gwastraff byd masnach?

Mae costau cyfredol y gwasanaeth casglu gwastraff byd masnach wedi'u nodi yma.  Mae costau arfaethedig y gwasanaeth casglu gwastraff byd masnach wedi'u nodi yma.

Does dim newid i gostau'r gwasanaeth casglu gwastraff ailgylchu byd masnach.

Bydd y gwasanaeth casglu gwastraff ailgylchu yn parhau yn wasanaeth wythnosol?

Bydd – fyddai dim newid i amlder gwasanaeth casglu gwastraff ailgylchu byd masnach.  Pe bai angen newid y diwrnod casglu, byddai cwsmeriaid sy'n cael eu heffeithio yn cael gwybod am unrhyw newidiadau ymlaen llaw.

Sut galla i ailgylchu rhagor?

Mae Rhondda Cynon Taf yn darparu gwasanaeth casglu gwastraff ailgylchu byd masnach i fusnesau - bagiau glas (papur/cardfwrdd) a bagiau coch (eitemau plastig/cynwysyddion - wedi'u golchi).  Mae modd trefnu gwasanaeth casglu gwastraff bwyd byd masnach ar wefan Cyngor Rhondda Cynon Taf.

Mae modd i gwsmeriaid ailgylchu presennol ailgylchu eu cardfwrdd gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf yn rhad ac am ddim.

Ble mae modd i mi gael bagiau ailgylchu?

Mae modd prynu Bagiau Ailgylchu Byd Masnach (glas - papur/cardfwrdd, coch – eitemau plastig a chynwysyddion - wedi'u golchi) mewn cyfeintiau mwy ar-lein (+ costau danfon). Mae modd prynu cyfeintiau llai o unrhyw Lyfrgell yn Rhondda Cynon Taf.

A fyddaf yn derbyn biniau ychwanegol o ganlyniad i gasglu gwastraff yn llai aml a sut byddaf yn eu storio nhw?

Os oes angen, mae modd cyflwyno cais am fin(iau) ychwanegol ar ôl gwahanu'r holl eitemau y gellir eu hailgylchu a'r gwastraff byd masnach. Bydd cost(au) ychwanegol am gasglu bin(iau) ychwanegol yn unol â ffi pob bin sydd wedi'i dderbyn.

O ganlyniad i gasglu gwastraff byd masnach yn llai aml, fydd hyn yn arwain at dipio yn anghyfreithlon?

Mae pob perchennog busnes yn gyfrifol am reoli a gwared â'u gwastraff/ailgylchu byd masnach mewn modd diogel. Rhaid iddyn nhw wared â'u gwastraff a/neu ailgylchu yn gyfreithlon.  Mae gyda nhw hefyd ddyletswydd gofal cyfreithiol i sicrhau fod eu gwastraff yn cael ei drin yn ddiogel ac ond yn cael ei drosglwyddo i 'bobl' sydd ag awdurdod i'w dderbyn.  Os ydy gwastraff/ailgylchu yn cael ei gasglu gan unrhyw un arall, cyfrifoldeb y busnes yw sicrhau eu bod nhw'n gwmni gwastraff cofrestredig a'u bod nhw'n mynd â’ch gwastraff i safle sydd ag awdurdod i'w dderbyn.

Os byddwch chi'n methu â chydymffurfio, efallai byddwch chi’n derbyn dirwy neu'n cael eich erlyn.

Sut ydw i'n canslo gwasanaeth casglu gwastraff gan Gyngor Rhondda Cynon Taf?

Os ydych chi'n dymuno canslo gwasanaeth casglu biniau gwastraff byd masnach ar olwynion gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, mae modd gwneud hyn drwy roi gwybod yn ysgrifenedig mis ymlaen llaw.  Gallwch chi wneud hyn drwy e-bostio: ailgylchuagwastraffbydmasnach@rctcbc.gov.uk

Beth sy'n mynd i ddigwydd os nad yw RhCT yn cyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70%?

Os nad yw Cyngor megis RhCT yn cyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70% erbyn 2024/25, bydd y Cyngor yn derbyn cosbau ariannol.    Mae'r rhain yn gosbau ariannol mae Cynghorau megis RhCT am eu hosgoi er mwyn gwarchod gwasanaethau hanfodol eraill. Dyna pam rydyn ni'n cyflwyno'r newidiadau yma.

Oes rhaid i fy ngwastraff gael ei gasglu gan Gyngor Rhondda Cynon Taf?

Nac oes, mae modd i'ch gwastraff gael ei gasglu gan unrhyw gasglwr cofrestredig, gan gynnwys Cyngor Rhondda Cynon Taf. 

Oes modd i ddarparwr arall gasglu fy ngwastraff cyffredinol a Chyngor Rhondda Cynon Taf gasglu fy ngwastraff ailgylchu yn unig?

Oes.  Gall cwsmeriaid presennol dderbyn gwasanaeth casglu cardfwrdd am ddim hefyd.

Oes modd i chi helpu gydag ymholiadau mewn perthynas ag ailgylchu neu leihau meintiau bin?

Oes.  Mae modd i chi drefnu apwyntiad gydag un o'n Swyddogion Ymwybyddiaeth profiadol i drafod sut mae modd i chi ailgylchu rhagor.