Mae angen trwydded cyn i unrhyw un yrru cerbyd hacni (tacsi) neu gerbyd hurio preifat. Dydy Awdurdod Trwyddedu Rhondda Cynon Taf ddim yn rhoi trwyddedau ar wahân ar gyfer gyrwyr cerbyd hacni / cerbyd hurio preifat. Rydyn ni'n rhoi trwydded ar y cyd yn unig.
NODWCH: O 1 Medi 2017 bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn gofyn i bob ymgeisydd newydd sy'n gwneud cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hacni / Cerbyd Hurio Preifat ar y cyd sefyll prawf gwybodaeth. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01443 425001 neu e-bostio Adran.Trwyddedau@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Os ydych chi'n ymgeisydd newydd, cliciwch isod i drefnu eich prawf gwybodaeth a rhifedd:
Mae modd gweld manylion y gofynion sydd eu hangen i ddal trwydded trwy glicio ar y ffurflen gais ar-lein isod. Ar ôl i chi gwblhau eich cais am drwydded newydd neu i adnewyddu trwydded , rhaid i chi drefnu apwyntiad i ymweld â'n swyddfeydd. Bydd y ffurflen yn eich galluogi chi i ddewis eich dyddiad ac amser ar ôl i chi nodi'r holl wybodaeth ofynnol.
Cliciwch yma i gwblhau eich ffurflen gais a threfnu eich apwyntiad:
Ar ôl trefnu eich apwyntiad, paratowch y dogfennau canlynol a dewch â nhw gyda chi i'ch apwyntiad:
- Trwydded Yrru gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (‘DVLA’) (gwreiddiol – nid llungopi) sy'n dangos eich cyfeiriad presennol
- Eich pasbort / tystysgrif geni / tystysgrif priodas / trwydded gwaith
- Manylion eich Rhif Yswiriant Gwladol
- Dau lun lliw (maint pasbort) wedi'u tynnu yn ystod y mis diwethaf
- Y ffi ofynnol:
O gyflwyno'r uchod yn y swyddfa drwyddedu, bydd gofyn ichi lenwi ffurflen er mwyn ein galluogi i wirio gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer unrhyw gofnodion sy wedi'u cadw yn eich erbyn. Fel arfer, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn anfon y gwiriad yma atom ni ymhen tua 4 wythnos ar ôl i ni dderbyn eich cais.
Cyn i chi gael trwydded, bydd rhaid i chi hefyd gyflwyno tystysgrif meddygol gyfredol os:
- Rydych chi'n ymgeisydd newydd
- Os ydych chi'n 45-65 oed - bydd rhaid i chi gyflwyno tystysgrif meddygol bob 5 mlynedd
- Os ydych chi dros 65 oed - bydd rhaid i chi gyflwyno tystysgrif meddygol bob blwyddyn
Os ydych chi'n ymgeisydd newydd, byddwn ni'n rhoi copi o'r ffurflen feddygol i chi pan fyddwch chi'n ymweld â'n swyddfeydd. Os bydd angen i chi adnewyddu eich trwydded a bod angen prawf meddygol arnoch chi, dylech dderbyn y ffurflen yn y post fel rhan o'ch llythyr atgoffa.
Bydd modd i chi aros nes bod y gwiriadau angenrheidiol wedi'u hanfon atom ni cyn i chi lenwi'r ffurflen. Cofiwch, os byddwch chi'n penderfynu tynnu eich cais yn ôl, neu os byddwn ni'n gwrthod rhoi trwydded i chi am unrhyw reswm, fydd dim modd i chi hawlio'r arian yn ôl gan eich Meddyg Teulu. Eich penderfyniad chi, felly, yw dewis pryd yn ystod y broses ymgeisio y dylech chi gael prawf meddygol.
Pwyllgor Trwyddedu
Mae'n bosib bydd eich cais chi yn cael ei gyfeirio at Bwyllgor Trwyddedu'r Cyngor er mwyn gwneud penderfyniad. Mae modd cael rhagor o gyngor am yr uchod gan Swyddogion Trwyddedu.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig cyfarpar diogelu personol (CDP) am ddim
https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-cyfarpar-diogelu-personol-am-ddim-ar-gyfer-gyrwyr-tacsis-cherbydau-hurio
Mae'r pecyn yn cynnwys CDP a deunyddiau glanhau sy’n ddigonol ar gyfer chwe mis o ddefnydd. Mae'n cynnwys y canlynol:
- 5 litr o hylif diheintio at bob diben
- 1 botel chwistrellu
- 6 photel o hylif diheintio dwylo sy’n ewynnu (500ml yr un)
- 2 becyn o glytiau wedi'u plygu (50 ym mhob pecyn)
- 2 orchudd wyneb o safon feddygol mae modd eu golchi
- 1 bocs o 50 gorchudd wyneb untro
- 6 phecyn o gadachau Detox (80 ym mhob pecyn)
Bydd y pecynnau'n cael eu hanfon am ddim i gyfeiriad anfon o ddewis y gyrrwr.
Manylion a'r ddolen i wneud cais: https://llyw.cymru/canllawiau-ar-dacsis-cherbydau-hurio-preifat. Mae'r broses ymgeisio ar agor tan 5 Mawrth 2021 a dim ond 1 pecyn sydd ar gael i bob unigolyn.
Manylion Cyswllt
Carfan Trwyddedu
Tŷ Elái
Dwyrain Dinas Isaf
Trewiliam
Tonypandy
CF40 1NY
Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301