Skip to main content

Safleoedd tacsis

Dyma restr o safleoedd tacsis yn y Fwrdeistref:
TrefLleoliad

Pontypridd

Taff Street - tu allan i adeilad Trefnidiaeth Cymru 

Pontypridd

Taff Street - yn y mannau dynodedig tu allan i Tesco Express hyd at   B&M Bargains

Y Porth

Station Street

Tonypandy

Dunraven Street – gyferbyn â Domino's Pizza

Tonysguboriau

Yr orsaf fysiau

Aberdâr

Yr orsaf fysiau a Cardiff Street – mae'r safle tacsis yn Cardiff   Street yn gweithredu saith diwrnod yr wythnos, 9pm–6am

Dim ond cerbydau hacni trwyddedig sydd â'r hawl i ddefnyddio safleoedd tacsis. Mae gan y cerbydau hyn arwydd ar eu to ac mae rhaid iddyn nhw arddangos plât melyn ar y tu cefn, plât llai ar y tu mewn, a sticeri drws melyn crwn ar y ddau ddrws blaen.

Mae rhaid i yrwyr cerbydau hacni gael eu trwyddedu gan y Cyngor. Mae rhaid iddyn nhw hefyd wisgo bathodyn adnabod, wedi'i roi gan y Cyngor, sy'n cynnwys llun y gyrrwr.

Bydd Marsialiaid Tacsis tu allan i Tesco Express, Taff Street, Pontypridd ar ôl 10pm ar nos Wener a nos Sadwrn.

Sylwch fod y Tariff Ceryd Jacmo mewudd um ddo i rym am 00:01am ar 31 Awst 2022. Mae copi o'r tabl prisiau newydd ar gael ar waelod y dudalen er gwybodaeth.

Bydd y tariffau canlynol yn berthnasol mewn Cerbydau Hacni:

TariffPris1–4 o deithwyr5–8 o deithwyr

Tariff 1

£4.00 (hyd at 1 filltir) – 10c am bob 1/18 milltir

Prisiau'n berthnasol yn ystod yr oriau 7am–7pm

Ddim yn Berthnasol

Tariff 2

£4.50 (hyd at 1 filltir) – 10c am bob 1/20 milltir

Prisiau'n berthnasol yn ystod yr oriau 7pm–7am

Ddim yn Berthnasol

Tariff 3

£5.00 (hyd at 1 filltir) – 10c am bob 1/20 milltir

Ddim yn Berthnasol

Prisiau'n berthnasol yn ystod yr oriau 7am–7pm

Tariff 4

£5.40 (hyd at 1 filltir) – 20c am bob 1/12milltir

Ddim yn Berthnasol

Prisiau'n berthnasol yn ystod yr oriau 7pm–7am

Dydy cerbydau hurio preifat ddim yn cael gwneud cais am hurio ar safleoedd tacsis nac ar y stryd. Mae rhaid i deithiau gael eu trefnu ymlaen llaw, fel arfer dros y ffôn neu yn bersonol yn y swyddfa.

Os oes unrhyw gwestiwn gennych chi, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Carfan Trwyddedu

Tŷ Elái,

Dwyrain Dinas Isaf

Trewiliam

Tonypandy

CF39 1NY

Tel:Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301