Skip to main content

Cerbyd Hurio Preifat

Rhaid i Gerbydau Hurio Preifat gael trwydded gan yr Awdurdod Trwyddedu, a rhaid iddyn nhw arddangos plât glas ar gefn y cerbyd, plât mewnol llai, a sticer siâp   triongl glas ar bob drws blaen bob amser; bydd pob un o'r rhain yn dangos   rhif plât y cerbyd. Pan fydd cerbyd hurio preifat wedi cael ei drwyddedu, cerbyd hurio preifat fydd ef hyd nes y daw'r drwydded i ben.

Rhaid i Gerbydau Hurio Preifat gael trwydded gan yr Awdurdod Trwyddedu, a rhaid iddyn   nhw arddangos plât glas ar gefn y cerbyd, plât mewnol llai, a sticer siâp   triongl glas ar bob drws blaen bob amser; bydd pob un o'r rhain yn dangos rhif plât y cerbyd. Pan fydd cerbyd hurio preifat wedi cael ei drwyddedu, cerbyd hurio preifat fydd ef hyd nes y daw'r drwydded i ben.

Ni chaiff Cerbydau Hurio Preifat geisio hurio allan yn y stryd neu ar arosfannau tacsi. Rhaid archebu teithiau   ymlaen llaw, fel arfer ar y ffôn neu yn bersonol mewn swyddfa. Mae methu â   gwneud hynny felly yn dramgwydd troseddol ac yn annilysu yswiriant y cerbyd Nid yw'r Cyngor yn rheoleiddio prisiau teithio ar gyfer cerbydau hurio   preifat. Fe ddylid, fel arfer, gytuno ar gost y daith gyda'r cwmni cyn y daith.

Rhaid i yrwyr hurio preifat gael trwydded gan y Cyngor, a gwisgo bathodyn adnabod.

Gan weithredu o 1 Medi 2014, caiff   trwyddedau cerbydau newydd eu rhoi ar gyfer y canlynol yn unig:

Manyleb y Cerbyd

Math o GerbydMath o DrwyddedIsafswm OedranUchafswm Oedran
   

Cerbydau  Hygyrch i Gadair Olwyn; (i gynnwys Cerbydau wedi eu Hadeiladu'n Bwrpasol neu Rai Wedi'u Haddasu gyda Lifft     Cynffon Cefn neu hebddo)

   

Cerbyd Hacni/Cerbyd Hurio Preifat

   
   

Llai na 7 oed (o ddyddiad y cofrestriad cyntaf)

(Oedran Derbyniad)

   
   

12 mlynedd (ar yr amod bod pob trwydded ddilynol yn dod i rym ar unwaith pan ddaw'r drwydded flaenorol i ben).

   
   

Cerbydau nad ydyn nhw'n Hygyrch i Gadair Olwyn

   
   

Cerbyd Hacni/Cerbyd Hurio Preifat

   
   

Llai na 3 oed

   

(o ddyddiad y cofrestriad cyntaf)

   

(Oedran Derbyniad)

   
   

10 mlynedd (ar yr amod bod pob trwydded ddilynol yn dod i rym ar unwaith pan ddaw'r drwydded flaenorol i ben).

   

Dylai darpar ddeiliaid trwydded,  neu rai cyfredol, ystyried  Safonau Technegol Cerbydau sy mewn   grym cyn prynu neu gyflwyno cerbyd i'r Awdurdod Trwyddedu: gweler y Fanyleb   Dechnegol isod.

Rhaid i Gerbydau Hurio Preifat fod   yn wyn.

Cyn i gerbyd gael ei drwyddedu, rhaid iddo lwyddo mewn prawf/archwiliad yn nepo profion yr Awdurdod, ac mewn   Prawf MOT (lle bo hynny'n briodol). Yn ogystal â hynny, rhaid i'r cerbydau   gael yswiriant addas ar gyfer cludo teithwyr a nwyddau am dâl neu wobr er   mwyn sicrhau safonau diogelwch uchel.  Rydyn ni'n cyfeirio deiliaid trwydded at y gyfrol

Hackney Carriage and Private Hire Vehicles National inspection standards.

Ni chaiff cerbyd hurio preifat   dderbyn unrhyw archebion oni bai fod gan y gyrrwr drwydded bwrpasol neu'i fod   yn gweithio i weithredwr hurio preifat trwyddedig. Mae manylion sut i wneud   cais am drwydded gweithredwr hurio preifat i'w cael drwy'r ddolen isod.

Sut mae gwneud cais

Cyn i chi brynu cerbyd, mae modd i chi gael cyngor gan Swyddogion Trwyddedu ynglŷn â pha gerbydau sy'n debygol o gael eu derbyn i'r cerbydau trwyddedig.

Gwneud profion ar gerbydau 

Dewch 10-15 munud cyn amser eich apwyntiad fel bod modd i'r car gael ei ddihentio cyn iddo gael ei archwilio.  Mae hawl gyda'r garej wrthod cynnal yr archwiliad os fydd y cerbyd ddim yn cael ei gyflwyno ar yr amser penodedig.  Rhaid i fanylion y cerbyd fod yn gywir ar eich cais. 

I wneud cais am drwydded cerbyd hurio preifat, cwblhewch y ffurflen gais ar-lein isod:

Bydd angen hefyd bod gennych chi:

  • Dogfen llyfr log V5 / bil gwerthu'r cerbyd
  • Tystysgrif yswiriant neu nodyn yswiriant ar gyfer y cerbyd "at ddefnydd cyhoeddus a/neu breifat" ar eich cyfer chi a/neu'ch gyrwyr
  • Tystysgrif Brawf MOT (os yw'n berthnasol)
  • Y ffi briodol (gweler isod)

Costau

Os ydych chi am weld manylion costau trwydded cyfredol, dylech fwrw golwg ar y ddogfen ffioedd sydd i'w chael o dan ddogfennau perthnasol.

Cysylltu â ni

Adran Trwyddedu
Tŷ Elái
Dwyrain Dinas Isaf
Trewiliam
Tonypandy
CF40 1NY

Ffôn: 01443 425001 
Ffacs: 01443 425301 
E-bost:  Adran.Trwyddedau@rhondda-cynon-taf.gov.uk