Dewis o ystafelloedd dwbl, pâr ac ar gyfer teulu mewn amgylchion prydferth sy'n agos at dref boblogaidd Pont-y-clun.
Wedi ei leoli yng nghanol hen dref hanesyddol Llantrisant. Mae tair ystafell: ystafell ddwbl, ystafell bâr ac ystafell en-suite ar gyfer teulu o dri.
Dewis o ystafelloedd sengl, dwbl a phâr ar odre mynydd prydferth y Rhigos. Wedi'i leoli mewn man canolog ar gyfer crwydro Cwm Rhondda a Chwm Cynon, a chyrchfannau ymhellach i ffwrdd.
Dewis o ystafelloedd pâr ac ar gyfer teulu mewn amgylchedd cysurus a chroesawgar. Mae'r gwesty'n sefyll ar odre Mynydd y Rhigos ac mae'n agos at fynydd ysblennydd Pen-pych.
Mae Gwesty Miskin yn cynnig ystafell sengl, dwbl a phâr mewn tafarn draddodiadol yng Nghwm Rhondda.
Mae Parc Gwledig Cwm Dâr yn sefyll mewn 500 erw o goetiroedd, tir pori a rhostir mynydd, a chyda dau lyn prydferth, mae ganddo ddigon i'w gynnig.
Dewis o ystafelloedd dwbl ac en-suite cyffredin a moethus yng nghefn gwlad prydferth Pysgodfa Tri-nant.
Mae ein gwesty ni yn sefyll ar ei dir ei hun mewn cwm toreithiog yng nghefn gwlad Cymru, gyferbyn ag Afon Aman. Rydyn ni'n rhoi croeso cynnes i bawb o'n gwesteion ac yn eich gwahodd chi i ymuno â'r trigolion lleol yn ein bar croesawgar.
Dewis o ystafelloedd en-suite dwbl, triphlyg, pâr ac ar gyfer teulu gyda golygfeydd prydferth o Gwm Cynon sydd yn gartref i dref enwog Aberdâr.
Tŷ Andrew yw'r tŷ llety hynaf yn Aberdâr. Mae'n darparu llety o safon ers dros 30 o flynyddoedd ac mae e mewn lleoliad cyfleus; dim ond 5 munud o gerdded sydd i gyrraedd yr orsaf bysiau a threnau ganolog.
Dewis o ystafelloedd en-suite sengl, dwbl a phâr yng nghanol tirwedd prydferth Cwm Cynon sydd nid nepell o Ddistyllfa enwog Wisgi Penderyn.
Dewis o ystafelloedd sengl, dwbl, pâr ac ar gyfer teulu yn nhref hanesyddol Pontypridd; sef cartref Tom Jones a'r siop fyd enwog, Teyrnas y Grogiaid.
Dewis o ystafelloedd dwbl, pâr ac ar gyfer teulu, a dim ond taith gerdded funud o hyd i ganol tref hanesyddol Aberdâr. Mae modd parcio ar y safle ac mae gwasanaeth bysiau a threnau (sy'n dod yn aml) i Gaerdydd a'r ardal gyfagos.
Dewis o ystafelloedd sengl a dwbl ag en-suite ar odre mynydd trawiadol y Rhigos sydd ger tref hanesyddol Aberdâr.