Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Llety hunanddarpar

 

266 – Bwthyn Calon y Cymoedd

Mae gan y bwthyn yma dân coed, twba twym â gasebo, barbeciw, man chwarae ar wyneb rwber a lle cadw beiciau dan glo (hyd at saith o feiciau).

La Cala

Bwthyn mawr sengl ar wahan yw La Cala, ym mhentref Penderyn ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Llantrisant Holiday Cottage

Mae Bwthyn Bach yn lle hyfryd i aros ynddo yn nhref fechan hanesyddol Llantrisant.

Llia Cysglyd – Y Rhigos

Dyma randy hyfryd sy'n rhan o gartref y perchnogion ym mhentref bach Cefn y Rhigos. Mae'r llety yn sefyll ar dir uchel gyda golygfeydd panoramig ar draws Bannau Brycheiniog.

Llwynau Farm Pine Lodges – Pont-y-clun

Casgliad o gabanau pîn sy'n cynnig dihangfa berffaith o brysurdeb bywyd bob dydd. Mae pob un o'r pedwar caban yn cynnig amgylchedd cyfforddus ac ymlaciol.

Penybryn Cottages – Aberdâr

Mae'r ddau fwthyn sy'n sefyll yng Nghwm Cynon, yn cynnig cip traddodiadol ar gefn gwlad Cymru gyda thân coed a golygfeydd godidog.

Tunnel Cottages – Aberdâr

Casgliad o fythynnod a stiwdios traddodiadol gyda chyfleusterau coginio ac ardal eistedd tu allan yn edrych dros brydferthwch Cwm Cynon.

Sunnyside Lodge Self Catering

Bwthyn hyfryd a saif ym mhentref Cwm-bach, tua dwy filltir o Aberdâr yng Nghymoedd y De.

Swn Y Gwynt

Rhandy llawr gwaelod swynol yw Sŵn y Gwynt, ynghlwm wrth gartref y perchnogion yng Nghefn Rhigos, yng Nghymoedd y De.

Tylcha Fach Farm

Bwthyn sengl ar wahan croesawus yw Fferm Tylcha Fach, yn sefyll ar fferm brysur y perchennog, ar ymyl tref Tonyrefail.

Cwm Garn Meadows

Rhandy unllawr hyfryd yw Cwm Gran Meadows, ynghlwm wrth cartref y perchnogion. Saif filltir a hanner o bentref Llanhari, a naw milltir o dref Pen-y-bont.

Troedrhiwtrwyn Farm

Mae'r bwthyn hanesyddol yma o'r 17eg Ganrif sydd wedi'i leoli yng Nghwm Rhondda, tua milltir o Bontypridd, yn llawn cymeriad, waliau carreg trwchus, grisiau troellog prydferth a'r trawstiau derw gwreiddiol

Victorian House, Graigwen

Dyma gartref o'r oes Fictoria sydd â nodweddion pensaernïol hyfryd wedi'i lloli mewn cul-de-sac yn ardal gadwraeth Graigwen. Mae'r tŷ yn agos i orsaf drenau Pontypridd ac yn cynnig parcio oddi ar y stryd.