Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Parc Gwledig Cwm Dâr

 

Trecynon, Aberdâr CF44 7PS

Telephone-Icon 01685 874672

Beicio. Cerdded. Chwarae. Aros. Bwyta. Chwilio

Parc Gwledig Cwm Dâr yw un o'r cyrchfannau mwyaf cyffrous ac amrywiol yn ne Cymru, gyda thros 200 erw o fannau agored yn llawn pethau i'w gwneud.

Mae'n gartref i Barc Beiciau Disgyrchiant ar gyfer Teuluoedd, sy’n newydd sbon, lle mae modd i feicwyr fynd ar lwybrau ar ochr y mynydd, gan brofi eu sgiliau ar y traciau pwmp ar hyd y ffordd.

Cewch ddod â'ch beic eich hun neu logi un o'n beiciau ni ar y safle.

Yn ogystal, mae gwasanaeth codi i fynd â chi a'ch cit i fan dechrau'r llwybrau er mwyn i chi arbed eich egni ar gyfer y daith i lawr!

Mae modd aros yn y llety ar y safle, sydd ag ystafelloedd wedi'u moderneiddio a'u hadnewyddu yn ddiweddar ar gyfer teuluoedd, defnyddwyr cadeiriau olwyn a hyd yn oed cŵn.

Os yw'n well gyda chi, dewch â'ch carafán neu'ch cartref ar olwynion a gwersylla o dan y sêr yng nghanol golygfeydd godidog y Cymoedd. Mae'r parc gwledig yn safle Awyr Dywyll Cymru, sy'n golygu ei fod yn cynnig amodau perffaith gyda'r nos ar gyfer syllu ar y sêr a gweld cytserau.

Bydd plant wrth eu bodd â'r maes chwarae antur enfawr, sydd â digon o sleidiau, siglenni a fframiau dringo i bawb. Yn ogystal â hynny, mae yna ardal chwarae lai i blant bach ger y ganolfan ymwelwyr a'r dderbynfa.

Ewch ar daith o amgylch y parc gwledig, ei lynnoedd, ei fynyddoedd a'i olygfeydd yn eich amser eich hun, neu gymryd canllaw am ddim o'r dderbynfa a mynd ar un o'r teithiau cerdded ag arwyddion. O deithiau ar ben mynydd i grwydro hamddenol sy'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio, mae rhywbeth i bawb yma.

Os yw'n mynd â'ch bryd, cewch hefyd ymweld ag Ysgol Farchogaeth Green Meadow gerllaw, sy'n cynnig gwersi a theithiau cefn gwlad.

Mae Parc Gwledig Cwm Dâr hefyd yn gartref i Gaffi Black Rock, sy'n gweini ystod o ddiodydd a byrbrydau oer a phoeth, yn ogystal â phrydau bwyd mwy ffurfiol sy'n cael eu paratoi gan ddefnyddio'r cynhwysion lleol mwyaf ffres.

Mae'r parc hefyd yn safle Porth Darganfod Parc Rhanbarthol y Cymoedd. Mae hyn yn golygu ei fod yn cael ei ystyried yn atyniad twristiaeth hanfodol, ac yn gyrchfan i ddechrau ar anturiaethau ehangach yng nghanol Cymoedd de Cymru.

Rhagor o wybodaeth: www.darevalleycountrypark.co.uk.