Mae Llwybr Cerdded y Bwllfa yn daith gerdded gylchol o gwmpas gwaelod y cwm ym Mharc Gwledig Cwm Dâr ar dir sy wedi'i adfer ar ôl dros ganrif o gloddio am lo.
Mae hon yn daith berffaith ar gyfer prynhawn hamddenol, gyda golygfeydd syfrdanol o'r llyn a digonedd o fywyd gwyllt, gan gynnwys bronwennod y dŵr ar y nant, gwyachod bach, cotieir ac ieir bach y dŵr.
Mae'r daith gerdded 3.5km o hyd ac yn cychwyn ac yn gorffen yn y Ganolfan Ymwelwyr. Mae arwyddion coch ar golofnau â band coch yn dangos i chi'r ffordd i fynd. Ar ôl y daith, cewch chi fwynhau paned a chacen yn y caffi ar y safle, gêm o 'laser tag' yn Combat Zone Live neu farchogaeth yng nghanolfan marchogaeth Greenmeadow.
Nodwch fod y llwybr yn rhannu'n ddau ger y llyn, gyda llwybr tarmac byrrach (2km) hygyrch yn caniatáu i'r rhai sydd â chadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn fwynhau'r llyn.