Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Ynglŷn â'r Parc

 
Mae llawer o bethau i'w gweld a'u gwneud ym Mharc Aberdâr gan gynnwys elyrch, dreigiau, gwifren wib a ffynhonnau.

Yng nghalon y parc mae yna lyn cychod hyfryd sydd wedi cael ei adnewyddu'n ofalus iawn. Hwyliwch eich cychod eich hunain neu mae croeso i chi logi un o'r cychod olwyn traddodiadol sydd wedi dychwelyd i'r parc. Dewiswch gwch alarch neu ddraig a mwynhau'r dŵr yn y ffordd orau posibl.

Treuliwch amser yn bwydo'r gwyddau a'r adar a chofiwch ymweld â'r Ffynnon Goroni. Dim ond tair ffynnon o'r math yma sydd - mae'r ffynnon yn union yr un fath â'r ffynnon sydd wedi'i lleoli y tu allan i ysbyty enwog Raffles yn Singapore.

Mae gan Barc Aberdâr aceri o dir y mae modd ei archwilio, yn ogystal â chyrtiau tennis, bowlio a man chwarae antur sy'n addas i bobl o bob oed - gan gynnwys siglenni a chwyrligwgan, gwifren wib a ffrâm ddringo.

Planhigion, blodau a bywyd gwyllt yn y parc:

Cafe---Lake---Bandstand---Fountains---Flowers---Birds---2018-49
Rhagor o wybodaeth am y gerddi blodau trawiadol a'r planhigion, coed, pryfed ac adar sydd i'w gweld ym Mharc Aberdâr.

Hanes y parc:

Cafe---Lake---Bandstand---Fountains---Flowers---Birds---2018-31
Mae Parc Aberdâr yn barc cyhoeddus o Oes Fictoria sydd wedi'i gadw mewn cyflwr da. Mae'r Parc yn barc rhestredig Gradd II* ar Gofrestr Tirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol yng Nghymru (CADW-ICOMOS).
Cafe---Lake---Bandstand---Fountains---Flowers---Birds---2018-25

Ym 1911, roedd yr Arglwydd Merthyr wedi cyflwyno ffynnon haearn bwrw i drigolion Aberdâr i goffáu coroni Brenin Siôr V a Mary. 

Cafe---Lake---Bandstand---Fountains---Flowers---Birds---2018-7
Ym 1980, cafodd y safle seindorf wreiddiol ei adeiladu allan o bren a heb do. Cafodd ei leoli ar ochr y llyn gyda diogon o le ar gyfer hyd at 30 o bobl. 
Cafe---Lake---Bandstand---Fountains---Flowers---Birds---2018-28
This statue depicts a standing lady dressed in classical robes, holding in one hand a hammer resting on an anvil and the other nestled under her chin with a wheel on the ground at the back of the figure. 
Cafe---Lake---Bandstand---Fountains---Flowers---Birds---2018-32

Cafodd y cerflun ei greu gan Syr Thomas Brock a chafodd ei ddadorchuddio yn ystod seremoni ym mis Ionawr 1913 gan Syr T. Marchant Williams (Ynad cyflogedig).

Motobike
Sawl blwyddyn yn ôl, aeth grŵp o bobl angerddol ati i sefydlu clwb cerbydau modur ysgafn a beiciau modur Aberaman a'r cylch.
Cafodd yr Eisteddfod Genedlaethol ei chynnal yn y parc ym 1956 a chafodd cylch yr Orsedd ei osod i gofio'r achlysur hwn. 
Cafodd mainc ei gosod a choeden ei phlannu'n agos i'r gatiau ym Mharc Aberdâr i gofio marwolaeth 10 person mewn damwain bws.