Skip to main content
 

Treftadaeth

Mae enw'r parc yn cyd-fynd ag enw'r pentref lleol, Cwmdâr, sydd ar gyrion Aberdâr.

DVCP in 2021Parc Gwledig Cwm Dâr heddiw

Er mai ffyniant y diwydiannau mwyngloddio glo a haearn yn y 1850au a arweiniodd at y twf yn y boblogaeth a datblygiad yr ardal (cyn hynny roedd yn ardal amaethyddol gyda ffermydd gwasgaredig), credir bod llawer o'r dirwedd wedi'i siapio gan rewlifoedd yn ystod yr Oes yr Iâ diwethaf.

Daw’r enw Cwmdâr o "Afon Dâr", yr afon sy'n llifo o Fynydd y Darren i'r cwm, trwy Gwmdâr ac ymlaen i Aberdâr, lle mae'n ymuno ag Afon Cynon.

Cafodd yr ardal ei ddiwydiannu oherwydd ei gyfoeth o adnoddau naturiol. Arweiniodd datblygiad pyllau glo a gweithfeydd haearn i gynnydd anferth yn y boblogaeth - cynyddodd i ddeng gwaith cymaint o fewn 50 mlynedd!

Cofnodwyd pyllau glo yn swyddogol yng Nghwm Dâr o 1851, ond credir fod cloddio am lo ar raddfa fach wedi dechrau rhai blynyddoedd cyn hynny.

Bwllfa Colliery, where DVCP is now situatedFe wnaeth defnyddio glo stêm Cymru yn llongau’r Llynges Frenhinol ledled y byd hybu enw da ein “aur du”  a sbarduno masnach allforio ryngwladol. Bu pedwar pwll glo yn gweithredu yn ardal Cwmdâr.

Yn yr 120 mlynedd ers agor y pyllau glo cyntaf, defnyddiwyd y gwythiennau'n raddol a chaeodd y pwll olaf, Bwllfa Dare, ym 1997.

How DVCP looked before land reclamationGosodwyd dwy linell reilffordd i Gwmdâr ym 1857. Eu diben oedd gwasanaethu diwydiant glo anferth yr ardal. Byddai'r injans godidog yma'n cludo tunelli o lo i Gaerdydd a'r dociau dros draphontydd a adeiladwyd gan yr enwog Isambard Brunel..

Brunel's Dare Valley ViaductMae'r hen draphontydd pren trawiadol yma, a adeiladwyd pan oedd  y chwyldro diwydiannol gan yr athrylith Brunel yn ei anterth, bellach yn rhan o'r fynedfa i Barc Gwledig Cwm Dâr.

Yn fuan ar ôl cau'r pwll olaf ddiwedd y 1990au, penderfynwyd y dylid adfer y dirwedd i'w chyflwr gwreiddiol.

Before land reclamationCymerodd ddwy flynedd i glirio’r tomenni glo a sorod a symudwyd cwrs  Afon Dâr. Cafodd y ddau lyn yn y parc eu creu. 

Construction of the upper lake at Dare Valley Country ParkDysgwch ragor am hanes diwydiannol cyfoethog Rhondda Cynon Taf a stori’r glo a bwerodd y byd yn Nhaith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda.

Yma, mae’r dynion a fu unwaith yn gweithio yn y pyllau glo yn eich tywys. Byddwch chi'n gwisgo helmed glöwr ac yn mynd ar daith o dan y ddaear ac yn ôl mewn amser. Mae'n ddiwrnod allan i'r teulu sy wedi ennill gwobrau.

Miners at Bwllfa Colliery - find out more at Welsh Mining Experience