Skip to main content
Bird-in-tree

Bioamrywiaeth

Ym Mharc Gwledig Cwm Dâr, fe welwch y Cymoedd Rhewlifol mwyaf deheuol yn Ynysoedd Prydain.

Byddai'n rhaid i chi deithio miloedd o filltiroedd ymhellach i'r De, i fynyddoedd y Pyrenees a'r Alpau, cyn i chi ddod o hyd i enghreifftiau eraill o'r fath.

Mae ei dolydd llydan, agored, ei choetir, rhostir a'i chlogwyni yr un mor ddramatig â'i mynyddoedd rhewlifol a'i chreigiau.

DVCP - Lake - Ducks - Robin - Heron - Trees - Water-30

Mae modd i chi archwilio Tarren y Bwllfa (a'i chwaer Craig Yr Esgol) ar ein llwybrau cerdded.

Oherwydd ei bod hi'n graig dal, ddi-haul sy'n agored i'r rhew, mae'r Bwllfa yn gartref i blanhigion alpaidd Arctig, rhedyn a mwsogl.

Dywedir ei fod yn un o'r lleoedd tawelaf yng Nghymoedd De Cymru!  

Mae gwenoliaid ac adar y to yn nythu yn y buarth, a hebogau tramor yn hela o uchder – dyma'r lle delfrydol i wylio adar.

 

27972927_444467539301487_6160881501430731169_n

Cewch chi wylio bwrdd bwydo'r adar o'r ganolfan i ymwelwyr, chwilio am flychau nythu ymhlith y coed neu fynd â'ch binocwlars i'r llwyfan wylio. Mae hebogau tramor a chigfrain yn nythu yn y coed aethnenni a cherddin sy'n glynu wrth wynebau ei chreigiau. Mae dau lwyfan gwylio wedi'u hadeiladu, sy'n caniatáu i ymwelwyr wylio'r hebogau tramor.

Gwrandewch yn astud am alwad y gog yn y cwm neu gael cipolwg ar fflach liwgar glas y dorlan ger y nant.

Mae adar cân, adar dŵr, adar ysglyfaethus, adar duon a'r aderyn prin, mwyalchen y mynydd. Mae'n lle gwych ar gyfer gwylwyr adar newydd a'r rheini sy'n arbenigwyr.

P'un ai'ch bod chi wrth eich bodd â choed neu flodau, cennau neu ffyngau, madfallod neu nadroedd defaid, pry cop neu grethyll, gwyfynod neu bili-palaod, ystlumod neu wenyn; maen nhw i gyd i'w gweld yma. Ymhlith y pleserau sydd ar gael i naturiaethwyr mae triawd o bili-palaod – britheg berlog fach, brithribin porffor a gweirlöyn llwyd – a rhostir cennau ar y tomenni glo gwastraff.

Ewch am dro drwy glytwaith cyfoethog o goetir, yn amrywio o goedwigoedd a oroesodd y cloddio am lo i goetir diweddar a blannwyd i helpu byd natur i wella ar ôl degawdau o ddiwydiant.

Mae coetir hynafol ar bob ochr i'r ffyrdd wrth i chi ddynesu at y parc gwledig ac mae hyn yn cynnal carpedi o glychau'r gog a rhedyn toreithiog.  Mae pili-palaod ac adar cân yn heidio i'r canopi hirsefydlog yma.

Gwaith cadwraeth

Mae Parc Gwledig Cwm Dâr hefyd yn gartref i lawer o ddolydd sy'n ardaloedd pwysig ar gyfer bywyd gwyllt lle mae adar, pryfed a blodau gwyllt yn ffynnu.

Yn draddodiadol byddai dolydd gwlyb wedi cael eu pori i annog rhywogaethau mwy amrywiol o blanhigion ac anifeiliaid.  Mae gwartheg yn pori rhai rhannau o'r parc yn ystod yr haf felly cofiwch gau'r gatiau y tu ôl i chi, cadw rheolaeth ar eich ci a cherdded yn ddiogel i ffwrdd oddi wrthyn nhw.

Lakes - Views - Camping - Walks - Birds - Flowers - DVCP-28

Mae dolydd eraill yn cael eu rheoli drwy dorri'r glaswellt i gan ddefnyddio peiriannau i wneud gwair.  Dyma lle mae'r glaswellt yn cael ei dorri unwaith y flwyddyn (ddiwedd yr haf) a'i gasglu i annog rhagor o flodau gwyllt i dyfu'r flwyddyn nesaf.

Cadwch olwg am fywyd gwyllt

Pethau i'w gweld a'u clywed ym Mharc Gwledig Cwm Dâr

  • Tymor y gwanwyn – degau o ganeuon yr adar gwahanol (gan gynnwys y gog), hebogau yn nythu, pili-palaod gwyn blaen oren a britheg berlog fach, clychau'r gog a llaeth y gaseg.
  • Tymor yr haf – iâr ddŵr, gwyach fach a chwtiar ifainc ar y llynnoedd, gwas y neidr, gweirlöyn llwyd a brithribin porffor, tegeirian brych y rhos a thegeirian y gors deheuol.
  • Tymor yr hydref – cap cwyr yn y dolydd, rhostir cennau ar y domen ddwbl, mwyalchen y mynydd yng nghoed cerddinen.
  • Tymor y gaeaf – hwyaid yn gaeafu ar y llynnoedd, heidiau o adar coch dan-aden a socan eira, adar bach ar offer bwydo'r Ganolfan, adar bod tinwen, gwalch marth a chudyll bach yn ymweld dros y gaeaf.

Rydyn ni bob tro yn awyddus i gael gwybod am y pethau rydych chi'n eu gweld. Efallai y byddwch chi'n gweld rhywbeth nad oes unrhyw un wedi sylwi arno o'r blaen.  Beth am roi gwybod i ni drwy anfon e-bost aton ni: CylchlythyrCofnodwyr@rctcbc.gov.uk. Mae modd i chi ddarganfod rhagor am fioamrywiaeth RhCT trwy ymweld â'n gwefan.