Skip to main content
 

Babanod (0-5 oed)

Cyngor ar gyfer y grŵp oedran yma

Mae ymchwil yn dangos bod plant segur yn debygol o ddod yn oedolion segur, gan eu rhoi mewn perygl o ddatblygu cyflyrau sy'n peryglu bywyd fel clefyd y galon a chanser.

Babanod: Dylai babanod fod yn weithgar bob dydd drwy weithgareddau megis cropian. Os nad ydyn nhw'n cropian eto, dylech chi eu hannog i fod yn weithgar yn gorfforol drwy ymestyn a gafael, tynnu a gwthio, symud eu pennau, cyrff, coesau a breichiau yn rhan o'r pethau arferol rydych chi'n eu gwneud bob dydd ac wrth chwarae ar y llawr o dan oruchwyliaeth. Ceisiwch gynnwys 30 munud o orwedd ar eu boliau drwy gydol y dydd. Unwaith y bydd babanod yn gallu symud o gwmpas, anogwch nhw i fod mor weithgar â phosibl mewn amgylchedd diogel o dan oruchwyliaeth.

Plantos bach: Dylai plantos bach fod yn weithgar yn gorfforol bob dydd am o leiaf 180 munud (3 awr). Dylai hyn gael ei ymestyn drwy gydol y dydd a chynnwys gweithgareddau ysgafn megis sefyll, symud o gwmpas, rholio a chwarae, yn ogystal â gweithgareddau mwy egnïol megis sgipio, neidio ar un goes / dwy goes a rhedeg. Y ffordd orau i'r grŵp oedran yma fod yn weithgar yw drwy chware mewn modd egnïol, er enghraifft, defnyddio ffrâm ddringo, reidio beic, chwarae mewn dŵr, rhedeg ar ôl rhywun/rhywbeth a gemau pêl.

Plant cyn-oedran ysgol: Dylai'r plant yma dreulio o leiaf 180 munud (3 awr) y diwrnod yn gwneud amrywiaeth o weithgareddau corfforol wedi'u hymestyn drwy gydol y dydd, gan gynnwys chwarae gweithgar a chwarae yn yr awyr agored. Ceisiwch gynnwys 60 munud o weithgareddau corfforol sy'n lled egnïol neu'n egnïol iawn. Ddylai plant o dan 5 oed ddim bod yn segur am gyfnodau hir. Dydy hyn ddim yn llesol i'w hiechyd a'u datblygiad.

I gael rhagor o wybodaeth sy'n ymwneud â gweithgaredd corfforol ar gyfer plant o dan 5 oed, ewch i: www.nhs.uk/live-well/exercise/physical-activity-guidelines-children-under-five-years/

Llythrennedd Corfforol

Helpwch eich plentyn i fod yn llythrennog yn gorfforol. Helpwch eich plentyn i fod yn heini am oes.

Plentyn sy'n Llythrennog yn Gorfforol

Mwynhau ac Ysgogi ei hun – mae'r plentyn yn mwynhau gweithgarwch corfforol ac mae'n ysgogi ei hun i gymryd rhan (rydyn ni'n ei wneud yn hwyl ac yn cyflwyno llawer o gyfleoedd fel bod modd iddo ddod o hyd i weithgareddau mae'n eu hoffi)

Hyder – mae'r plentyn yn hyderus i gymryd rhan (rydyn ni'n ei annog ac yn creu amgylchedd diogel fydd yn meithrin ei hunan-barch a'i helpu i deimlo'n hyderus)

Gallu – mae ganddo'r sgiliau corfforol sydd eu hangen i gymryd rhan (trwy ymarfer ac addysgu, rydyn ni'n ei gefnogi i ddatblygu a meithrin sgiliau sy'n ei alluogi i gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau)

Gwybodaeth a Dealltwriaeth – mae'n parchu gweithgarwch corfforol ac yn deall y manteision o ran iechyd (rydyn ni'n ei helpu i ddeall sut i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn ddiogel a pham ei bod hi'n bwysig yn rhan o ffordd iach o fyw)

Syniadau ar gyfer gweithgareddau

Rhowch gyfle i'ch plentyn wneud llawer o weithgareddau gwahanol. Bydd hyn yn datblygu ystod o sgiliau ac yn rhoi'r cyfle iddyn nhw roi cynnig ar bethau newydd. Dyma rai gweithgareddau gwych ar gyfer y grŵp oedran yma:

  • gorwedd ar y bol
  • chwarae gyda blociau a gwrthrychau eraill
  • neidio
  • cerdded
  • dawnsio
  • nofio
  • gweithgareddau mewn mannau chwarae (parciau)
  • dringo
  • chwarae gweithgar megis chwarae mig
  • taflu a dal
  • mynd ar sgwter
  • reidio beic
  • gweithgareddau awyr agored
  • sgipio


Mae gennym rai adnoddau teuluol ar gael yma. Rydyn ni'n rhannu enghreifftiau o weithgareddau cyffrous ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd. Edrychwch ar @chwaraeonRhCT @sportrct ar Facebook, Twitter ac Instagram! Mae App gyda ni sy'n rhoi llawer o syniadau ar gyfer gweithgareddau dan do ac yn yr awyr agored, ynghyd â chyfarwyddiadau a fideos. Lawrlwythwch yr App Hamdden am Oes AM DDIM ac ychwanegu ChwaraeonRhCT/Sportrct fel 'clwb'.


Rhaglen Chwaraeon yn y Gymuned

Nod ein Rhaglen Chwaraeon Cymunedol yw darparu ystod o gyfleoedd i bobl o bob oedran a gallu, ledled Rhondda Cynon Taf. Mae’r rhaglen isod wedi’i datblygu ar y cyd ag amrywiaeth o bartneriaid gan gynnwys Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol a chlybiau/grwpiau cymunedol. Ni sy'n cynnal rhai o'r sesiynau ac mae sesiynau eraill yn cael eu cynnal gan ein partneriaid. Cliciwch yma am y rhaglen lawn.


Clybiau Chwaraeon Cymunedol

Os oes diddordeb gan eich plentyn mewn chwaraeon, mae dros 300 o glybiau chwaraeon yn Rhondda Cynon Taf. Mae rhai o'r clybiau yma'n cynnig cyfleoedd i blant o dan 5 oed. Mae Chwaraeon megis Gymnasteg yn cynnig sesiynau i blant o oedran ifanc iawn.

CLICIWCH YMA i weld ein Map Clybiau Chwaraeon a dod o hyd i glybiau chwaraeon yn eich ardal chi.

Yn ogystal â hynny, mae nifer o fusnesau sy'n cynnig sesiynau chwaraeon i blant o dan 5 oed. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.

Clybiau chwaraeon ysgolion cynradd

Rydyn ni'n cynorthwyo ysgolion cynradd i ddatblygu clybiau allgyrsiol yn ystod amser cinio ac ar ôl ysgol. Mae gan fwyafrif yr ysgolion cynradd amserlenni clybiau sy'n newid bob tymor. Mae'r clybiau hyn yn ffordd wych i'ch plentyn roi cynnig ar chwaraeon newydd a dysgu sgiliau sylfaenol. Mae sesiynau i blant o dan 5 oed ar gael mewn rhai ysgolion. Mynnwch air gydag ysgol eich plentyn i gael rhagor o wybodaeth.

Symud sy'n Bwysig

Mae Symud sy'n Bwysig yn adnodd rydyn ni wedi ei gynllunio i gefnogi teuluoedd a chymunedau. Nod yr adnodd yw bod plant yn symud mwy, a hynny'n fwy aml. Mae'n cynnig ystod o gemau hwyl sy'n canolbwyntio ar fwynhau a datblygu sgiliau. Mae'r gemau'n cael eu cyflwyno trwy chwe thema megis gofod ac ar lan y môr.

CLICIWCH YMA i gael y manylion llawn.

Camau i Famau

Mae cynllun 'Camau i Famau' wedi'i ddatblygu gan Chwaraeon RhCT a Hamdden am Oes i helpu menywod sy'n dymuno cadw'n heini yn ystod eu beichiogrwydd ac ar ôl rhoi genedigaeth. Mae yna ystod o sesiynau ymarfer corff cyn ac ar ôl geni ar gael yn holl ganolfannau hamdden Rhondda Cynon Taf, wedi'u darparu gan weithwyr ymarfer corff proffesiynol sydd wedi'u hyfforddi'n llawn. Rydyn ni wedi ffilmio 13 llwybrau cerdded sy'n addas i bramiau, er mwyn hyrwyddo llwybrau sy'n berffaith ar gyfer mamau newydd. CLICIWCH YMA i gael y manylion llawn. 

Gwersi Nofio

Mae nofio yn sgìl bywyd wych. Bydd mynd â'ch plentyn i gael gwersi nofio o oedran ifanc yn datblygu ei hyder, lleihau ei ofn o ddŵr a'i baratoi ar gyfer gwersi nofio yn yr ysgol. Mae Hamdden am Oes RhCT yn cynnig gwersi nofio i fabanod a phlantos bach, a sesiynau sblash, canu a dysgu i fabanod sy'n 4 mis a hŷn. I gael rhagor o fanylion, CLICIWCH YMA.

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas