Skip to main content
 

Adnoddau i'r Teulu

Mae cefnogaeth y teulu yn ddylanwad mawr ar p'un a yw'r sgiliau, yr hyder a'r cymhelliant gyda phlant i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol yn ystod eu bywyd.

Cliciwch isod i lawrlwytho adnoddau teuluol.

Hwyl yn yr awyr agored

Mae gyda ni 27 o weithgareddau llawn hwyl! Rhowch gynnig ar rywbeth newydd. Cadwch yn heini. Dysgwch am fyd natur. Mynnwch olwg ar ein llyfryn Hwyl yn yr awyr agored.
 

Cerdyn Bingo

Helfa Sborion

Symud sy'n bwysig

Oeddech chi'n gwybod bod modd llogi pecynnau adnoddau a bagiau offer Symud sy'n Bwysig o lyfrgelloedd Pontypridd, Aberdâr a Threorci? Rhagor o fanylion: www.rctcbc.gov.uk/symudsynbwysig

Fideos Hyfforddi Chwaraeon RhCT

Mae gyda ni ystod o fideos hyfforddi ar y wefan yma. Mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw ar gyfer grwpiau o blant. Fodd bynnag, mae modd addasu rhai ohonyn nhw a'u chwarae gyda 2 neu 3 o blant. Rydyn ni'n argymell Oxo (Noughts a Crosses), Cestyll Tywod, Domes and Dishes, Rasys Cyfnewid Coconyt a Gêm Precision Passing

Gweithgareddau Newid am Oes

Mae'r GIG yn ariannu cynllun Newid am Oes, sydd â gweithgareddau gwych i blant ar ei wefan. Mae wedi cydweithio â Disney er mwyn creu ymarferion 10 munud o hyd. Mae modd i chi eu gweld nhw yma.

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas