Skip to main content

LIDO PONTY, LIDO CENEDLAETHOL CYMRU – NOFIO

 

Mae tocynnau ar gyfer sesiynau gaeaf nofio mewn dŵr oer ar werth nawr

TOCYNNAU

 

MAE GAN LIDO PONTY RYWBETH I BAWB!

Mae yma dri phwll nofio – prif bwll, pwll gweithgareddau a phwll sblash. Heb os, mae Lido Ponty yn cynnig cyfleoedd nofio gwych i bawb o bob oed a gallu.

Bydd modd i ymwelwyr fwynhau teganau gwynt, Aqua Scooterz a Water Walkerz am £2.50 yn unig!

Mae'r pwll sblasio wedi'i anelu at ymwelwyr llai. Mae ganddo ffynnon ymbarél y byddan nhw'n dwlu arni. Beth am ddod â bwcedi a chaniau dŵr eich plant er mwyn iddyn nhw chwarae yn y dŵr cynnes mewn amgylchedd diogel a hapus?

Pan mae'r haul yn gwenu, beth am dorheulo wrth ymyl y pwll ar ein teras haul?

Mae'n bwysig bod pawb yn mwynhau mas draw yn Lido Ponty, Lido Cenedlaethol Cymru. Rhaid i bawb fod yn ddiogel.

Rhaid ichi ddilyn y canllawiau canlynol bob amser.

Nodwch fod pobl yn manteisio ar y tocynnau yma yn gynnar iawn.

Mae mynediad i Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, AM DDIM i blant dan 16 oed neu £3 i oedolion.

 

 
cadw logo RCT CBC Logo lottery fund logo erdf logo