Skip to main content
 

DIWRNODAU I'W COFIO

 

Tref farchnad yng nghanol Cymoedd y De yw Pontypridd. Mae hi'n ardal sydd â gorffennol diwydiannol balch, ac mae hi'n denu miliynau o ymwelwyr o bedwar ban byd bob blwyddyn.

Mae Cymru yn wlad hynod o hardd ac yn enwog am ei pharciau cenedlaethol, ei chestyll hanesyddol a'i harfordir prydferth. Wrth gwrs, mae hi hefyd yn enwog am Wisgi Penderyn, ac mae'i ddistyllfa ychydig o filltiroedd o Lido Ponty.

Mae gan Lido Ponty gysylltau arbennig o dda i rwydwaith yr M4, ac mae'n hawdd ei gyrraedd o Gyffordd 32 yr M4, gan ddilyn arwyddion i'r A470 ac i Bontypridd.

Lido Ponty yw'r atyniad i dwristiaid mwyaf diweddar i agor yng Nghymru. Mae'n mynd law yn llaw ag atyniadau eraill i deuluoedd fel Parc Oakwood, Folly Farm ac Amgueddfa Sain Ffagan.

Mae Cymru yn cynnig rhywbeth i bawb – llefydd arbennig i ymweld â nhw a phobl anhygoel, ynghyd ag amrediad eang o leoedd i fwyta ac yfed, a lleoedd i aros. Heb os, bydd angen mwy na diwrnod arnoch i weld a gwneud pob dim!

Am ragor o wybodaeth am ddiwrnodau i'w cofio yn Rhondda Cynon Taf ac am ein gwestai, ewch i Visit Rcht

visit-wales-banner

rhondda-heriatge-park-700x400px
PARC TREFTADAETH CWM RHONDDA

Prawf byw i gymunedau glofaol Cymoedd y Rhondda sy’n adnabyddus ym mhedwar ban byd.

YMWELD Â'R PARC

ponty-park-700x400px
ATYNIADAU

Mae amrywiaeth o ddewis ar gael i ymwelwyr yn Rhondda Cynon Taf...

CAEL EICH YSBRYDOLI

 
dare-valley-country-700x400px
PARC GWLEDIG CWM DÂR

Llai na milltir o Aberdâr, mae 500 erw o gefn gwlad, teithiau cerdded a llwybrau i'r holl deulu eu mwynhau

DARGANFOD CWM DÂR

walking-activities-700x400px
GWEITHGAREDDAU

Mae bryniau'r rhanbarth yn berffaith ar gyfer cerdded, beicio a marchogaeth

DARGANFOD BETH SYDD AR GAEL

 
ponty-museum-700x400px
AMGUEDDFA PONTYPRIDD

Mae Amgueddfa Pontypridd, sy mewn hen gapel a gafodd ei adeiladu yn 1861 a'i addasu'n ddiweddarach, yn adrodd hanes y dref.

YMWELD Â'R AMGUEDDFA

accommodation-700x400px
LLETY

Dewis da o lety i gyd-fynd â'r croeso cynnes yn y Cymoedd.

CHWILIO AM LETY

 
cadw logo RCT CBC Logo lottery fund logo erdf logo