Skip to main content

Gwybodaeth Gyffredinol am Ganolfan Hamdden Sobell

ORIAU AGOR Y GANOLFAN

(Nodwch, mae mynediad i'r dosbarthiadau a mynediad cyntaf/olaf i'r pwll nofio neu'r gampfa yn dibynnu ar amserlenni'r cyfleusterau penodol hynny, nid oriau agor y ganolfan).

DYDDIAU AMSEROEDD
Dydd Llun 6.15am - 10pm
Dydd Mawrth 6.15am - 9pm
Dydd Mercher 6.15am - 9pm
Dydd Iau 6.15am - 9pm
Dydd Gwener 6.15am - 9pm
Dydd Sadwrn 7.15am - 5pm
Dydd Sul 7.15am - 6pm

MYNEDIAD I'R GANOLFAN A'I CHYFLEUSTERAU

  • Mynediad i bobl anabl.
  • Lifft i bob lefel.
  • Teclyn codi a grisiau ar gyfer mynediad i'r pwll

CYMORTH CYNTAF AC IECHYD A DIOGELWCH

  • Aelod o staff sydd wedi cael hyfforddiant Cymorth Cyntaf ar y safle ar bob adeg.
  • Rhieni sy'n gyfrifol am eu plant drwy'r amser – rhaid dilyn y gymhareb pwll nofio.
  • Chi sy'n gyfrifol am eich eiddo personol yn y loceri neu rywle arall yn y ganolfan.

Y GAMPFA

Gofynnwch i aelod o staff am yr offer sydd wedi'u haddasu fel bod modd i bobl sydd mewn cadair olwyn ddefnyddio'r gampfa.

CYFLEUSTERAU NEWID

  • Dwy set o ystafelloedd newid i ddynion, i fenywod ac i deuluoedd, un set ar gyfer y pwll nofio a set arall ar gyfer gweithgareddau sych.
  • Ciwbiclau yn yr ystafelloedd newid.
  • Cawodydd.
  • Ystafell newid a chawodydd i bobl anabl.
  • Loceri.
  • Sychwyr gwallt.
  • Cyfleusterau newid cewynnau.

POLISI MYNEDIAD I'R PRIF BWLL A'R PWLL BACH

Rheolau ar gyfer plant dan 8 oed:

1 oedolyn yn gwmni i bob plentyn dan 5 oed.

1 oedolyn yn gwmni i bob dau o blant rhwng 5 ac 8 oed.

Caiff plant 8 oed neu'n hŷn fynd i'r pwll heb gwmni (y prif bwll yn unig).

Rydyn ni'n atgoffa rhieni/gwarcheidwaid bod rhaid i blant 8 oed neu'n hŷn ddefnyddio ystafelloedd newid sy'n briodol i'w rhyw.

LLUNIAETH

Mae peiriannau ar gael sy'n gwerthu byrbrydau a diodydd poeth ac oer i'w mwynhau yn yr eisteddle.

CYFLEUSTERAU CYFARFOD

Mae neuaddau ac ystafelloedd ar gael ar gyfer achlysuron, cyfarfodydd neu gynadleddau. Am ragor o wybodaeth, lawrlwythwch ein canllaw prisoedd.