Skip to main content

Clybiau a Sefydliadau Allanol

Mae Canolfan Chwaraeon  Cwm Rhondda Fach yn falch o groesawu ystod o glybiau a grwpiau allanol sy'n defnyddio'r ganolfan a'i chyfleusterau i ymarfer eu campau chwaraeon a gweithgareddau arbenigol neu gynnal dosbarthiadau penodol fel dawnsio a chrefft ymladd.

Gan eu bod nhw'n cael eu trefnu'n allanol, nid yw'r ganolfan yn gyfrifol am gadw lle ar gyfer y grwpiau a dosbarthiadau hyn, neu am daliadau. 

Dydy'r dosbarthiadau neu weithgareddau wedi'u cynnal gan grwpiau allanol ddim yn rhan o'r cynllun Aelodaeth Hamdden am Oes.

Cysylltwch â'r trefnwyr i gael y manylion diweddaraf ac i wirio argaeledd. Bydd y grwpiau yn cadw aelodau'n hysbys ynglŷn â phryd bydd sesiynau yn cael eu canslo.

Os ydych chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, yn ystyried cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgareddau – gan gynnwys golff, cerdded, beicio, gymnasteg ac eraill – beth am gysylltu â'r garfan Chwaraeon RhCT?

Mae'r garfan wrth law i gynnig gwybodaeth a chyngor am gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden, ac mae'r wefan yn cynnwys cyfeirlyfr gwych sy'n caniatáu i chi ddod o hyd i weithgareddau a chlybiau lleol.

Mae Chwaraeon RhCT hefyd wrth law i helpu clybiau, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr sy'n ystyried cychwyn neu estyn cyfleoedd chwaraeon trwy fanteisio ar ffrydiau ariannu, gwybodaeth a rhagor.

Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalennau gwybodaeth Chwaraeon RhCT!

External Clubs
DYDD LLUNAmseroedd
RSD Dance  17:00 - 18:00
Côr Pendyrus  19:00 - 21:00
DYDD MAWRTH 
Carate Little Dragons (4+) 16:30 - 17:30
Carate WCKA 17:30 - 20:00
DYDD MERCHER 
Côr Pendyrus  19:00 - 21:00
DYDD SADWRN 
Pêl Fasged Missy Lender  10:00 - 11:00
DYDD SUL 
Clwb Codi Hwyl Rhondda Rockets  10:00 - 13:00