Skip to main content

Gwybodaeth Gyffredinol am Ganolfan Hamdden Llantrisant

Oriau agor Canolfan Hamdden Llantrisant

Oriau agor Canolfan Hamdden Llantrisant
DYDD LLUN Amser
Dydd llun 6.15am - 10pm
Dydd mawrth 6.15am - 10pm
Dydd mercher 6.15am - 10pm
Dydd iau 6.15am - 10pm
Dydd gwener 6.15am - 9pm
Ddydd sadwrn 7:15am - 4pm
Dydd sul 8:15am - 5pm

Mynediad i'r ganolfan a'i chyfleusterau

  • Mynediad â ramp wrth flaen yr adeilad.
  • Lifft i bob lefel.
  • Teclyn codi a grisiau ar gyfer mynediad i'r pwll.

Cymorth Cyntaf ac Iechyd a Diogelwch

  • Aelod o staff sydd wedi cael hyfforddiant Cymorth Cyntaf ar y safle drwy'r amser.
  • Rhieni sy'n gyfrifol am eu plant drwy'r amser – rhaid dilyn y gymhareb pwll nofio.
  • Chi sy'n gyfrifol am eich eiddo personol yn y loceri neu rywle arall yn y ganolfan.

Cyfleusterau newid

  • Ystafelloedd newid ar gyfer pobl sy'n defnyddio dosbarthiadau, cyrtiau a'r gampfa sy'n cynnwys ciwbiclau newid a chawodydd.
  • Ardal newid ar wahân ar gyfer defnyddwyr y pwll sydd â chiwbiclau arferol, cawodydd a chiwbiclau mwy ar gyfer teuluoedd.
  • Cyfleusterau newid cewynnau.
  • Ystafelloedd mwy ar gyfer pobl ag anableddau. Mae teclyn codi 'Oxford Midi' ar gael o ofyn amdano. Dewch â'ch gwregys eich hun a rhaid i'r cynhaliwr/gofalwr ddefnyddio'r teclyn codi.
  • Sychwyr gwallt.
  • Loceri.

Polisi mynediad i'r prif bwll

Rhaid i blant sydd dan 8 oed fod yng nghwmni fel a ganlyn:

  • 1 oedolyn yn gwmni i bob plentyn dan 5 oed.
  • 1 oedolyn yn gwmni i bob dau o blant rhwng 5 ac 8 oed.
  • Caiff plant 8 oed neu'n hŷn fynd i'r pwll  heb gwmni.

Rydyn ni'n atgoffa rhieni/gwarcheidwaid bod rhaid i blant 8 oed neu'n hŷn ddefnyddio ystafelloedd newid sy'n briodol i'w rhyw. 

NODWCH: FYDDWN NI DDIM YN CANIATÁU MYNEDIAD I'R PWLL YN HWYRACH NA 45 MUNUD CYN DIWEDD Y SESIWN.

Polisi Mynediad i'r Pwll Bach

RHAID i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn ar BOB adeg yn y pwll bach.

  • Rhaid i blant sydd dan 8 oed fod yng nghwmni fel a ganlyn:
  • 1 oedolyn yn gwmni i bob tri o blant rhwng 5 a 8 oed.
  • 1 oedolyn yn gwmni i bob dau o blant dan 5 oed.

NODWCH: FYDDWN NI DDIM YN CANIATÁU MYNEDIAD I'R PWLL YN HWYRACH NA 45 MUNUD CYN DIWEDD Y SESIWN.

CYFLEUSTERAU CYFARFOD

Mae neuaddau ac ystafelloedd ar gael ar gyfer achlysuron, cyfarfodydd neu gynadleddau. Am ragor o wybodaeth, lawrlwythwch ein canllaw prisoedd.