Skip to main content

Cwestiynau Cyffredin i Rieni/Gwarcheidwaid Awst 2024

1.  Oes angen talu am ddarpariaeth brecwast cynradd?

Nid oes angen talu; caiff brecwast ei ddarparu'n rhad ac am ddim. Er mwyn gallu mynychu clwb brecwast, rhaid cael cais llwyddiannus.

2. Oes rhaid gwneud cais ar gyfer pob plentyn fydd yn mynychu clwb brecwast?

Oes. Rhaid gwneud cais ar gyfer pob plentyn cyn iddyn nhw fynychu clwb brecwast.

Dim ond 1 cais sydd ei angen ar gyfer pob aelwyd hyd yn oed os yw eich plant yn mynychu ysgolion gwahanol (mae'r ffurflen yn caniatáu i chi nodi ysgol pob plentyn).

I gwblhau cais, ewch i: Clybiau brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd

3. Does gen i ddim yr adnoddau i lenwi ffurflen gais ar-lein. Sut gallaf i wneud cais am le?

Dylai staff gweinyddol eich ysgol fod ar gael i’ch cefnogi, ond yn eu habsenoldeb, ffoniwch Gymorth Addysg ar 01443 281141.

4.  Sut mae'r broses ymgeisio'n gweithio?

Unwaith y bydd y cais wedi’i gwblhau, byddwch chi'n derbyn e-bost yn cadarnhau bod y plentyn/plant wedi’u cofrestru’n llwyddiannus i fynychu’r clwb brecwast.

Os nad oes modd i'r ysgol ddarparu ar gyfer y plentyn/plant ar hyn o bryd, fydd y system ddim yn caniatáu i'r cais gael ei gwblhau.

 5. Mae’n rhan o’r ffordd drwy’r tymor, ac mae newid mewn amgylchiadau personol bellach yn golygu bod angen i mi anfon fy mhlentyn i’r clwb brecwast. A oes modd i mi wneud cais o hyd?

Oes, mae modd gwneud cais, ac os oes lle ar gael, bydd y plentyn yn cael ei dderbyn i'r clwb brecwast.

6. Beth os oes gan fy mhlentyn ofyniad dietegol wedi’i ragnodi gan feddyg?

Gwneir pob ymdrech i gefnogi disgyblion sydd â gofynion dietegol wedi’u rhagnodi gan feddyg, ond does dim modd darparu brecwast nes bod y dystiolaeth feddygol briodol wedi’i chyflwyno a bwydlen bwrpasol yn cael ei chreu ar gyfer y disgybl (sylwer, mae'n bosibl bydd hyn yn cymryd hyd at 21 diwrnod i’w drefnu, neu hirach os yw'r deiet yn gymhleth). 

Os oes angen deiet wedi’i ragnodi gan feddyg ar eich plentyn, a dydy'r trefniadau angenrheidiol ddim ar waith gyda’r Gwasanaethau Arlwyo, rydyn ni’n eich annog chi i wneud cais am hwn nawr yn: https://www.rctcbc.gov.uk/DietRhagnodiMeddygol

Does dim rhaid i chi aros nes bydd y broses ymgeisio ar gyfer clwb brecwast yn agor. Bydd gwneud cais nawr am y deiet wedi’i ragnodi gan feddyg yn helpu i leihau oedi wrth ddarparu'r gwasanaeth.

7. Rydw i wedi gwneud cais am ddeiet wedi’i ragnodi gan feddyg, ond dydy'r cais ddim wedi'i awdurdodi eto, a dydw i ddim wedi cael hysbysiad ei fod wedi'i roi ar waith. A oes modd i fy mhlentyn fynychu sesiynau clwb brecwast?

Oes, mae modd i'ch plentyn fynychu clwb brecwast. Serch hynny, does dim modd i ni fwydo’ch plentyn nes bod y trefniadau angenrheidiol ar waith. Rhowch frecwast i'ch plentyn gartref cyn i chi ddod ag ef/hi i'r sesiwn/sesiynau clwb brecwast.

8. Faint o'r gloch mae'r clwb brecwast yn dechrau ac yn gorffen?

Gwiriwch yr wybodaeth yma'n uniongyrchol gyda'r ysgol.

 9. Pam nad oes modd i bob plentyn sy'n mynychu'r ysgol gofrestru’n awtomatig ar gyfer clwb brecwast am ddim?

Caiff sawl ffactor ei ystyried ar gyfer cynllunio a threfnu clwb brecwast am ddim yn ddiogel.

Caiff clwb brecwast am ddim ei gynnal cyn y diwrnod ysgol felly cynhelir asesiad risg pwrpasol i sefydlu nifer y disgyblion (ar gyfer plant sy’n hŷn ac yn iau na 5 oed), y mae modd eu bwydo a’u goruchwylio’n ddiogel yn ystod y cyfnod yma yn y lle sydd ar gael.

 10. A yw'r broses gwneud cais am glwb brecwast am ddim wedi cau?

Nac ydy, nid yw'r broses gwneud cais am glwb brecwast am ddim wedi cau.

Os ydych chi wedi llwyddo i sicrhau lle mewn clwb brecwast am ddim, byddwch chi'n derbyn e-bost yn cadarnhau eich bod chi wedi llwyddo i sicrhau lle.

Os bydd clwb yn cyrraedd ei gapasiti llawn, fe welwch y neges ganlynol pan fyddwch chi'n dewis enw ysgol eich plentyn.

'Cysylltwch â'r ysgol yn uniongyrchol; byddan nhw'n gosod eich plentyn/plant ar restr aros wrth gefn ac yn trafod darpariaeth brecwast am ddim arall gyda chi'.

Ni fydd y system yn caniatáu ichi symud ymlaen ymhellach ar gyfer yr ysgol honno; os byddwch chi'n cysylltu â'r ysgol, dylai allu cymryd eich manylion ar gyfer eich rhoi ar restr aros wrth gefn. Unwaith y bydd lle ar gael yn y clwb brecwast am ddim, bydd lle yn cael ei ddyrannu.

 11. Pam mae pwysau o ran capasiti yn y clwb brecwast am ddim?

Yn anffodus, mae'n ymddangos bod nifer uwch yn gwneud cais am y ddarpariaeth na nifer y lleoedd sydd ar gael gan fod rhai rhieni/gwarcheidwaid wedi gwneud cais fel mesur rhagofalus.

Bydd presenoldeb yn y clwb brecwast am ddim yn cael ei adolygu'n rheolaidd a gall diffyg presenoldeb arwain at dynnu’r hawl i’r lle wedi’i neilltuo. Mae lle sydd ddim yn cael ei ddefnyddio yn atal plentyn arall rhag manteisio ar ddarpariaeth brecwast.

Mae’n bwysig nodi mai bwriad y ddarpariaeth yw rhoi'r cyfle i blant sydd ei angen fanteisio ar frecwast iach am ddim ar ddechrau’r diwrnod ysgol.

 12. A fydd lleoedd ar gael ym mis Medi?

Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion gapasiti. Serch hynny, mewn nifer fach o ysgolion mae'r clwb brecwast am ddim yn llawn ac mae'n annhebygol y bydd lle ar gael ym mis Medi. Bydd pob ysgol yn monitro presenoldeb y rhai sydd wedi cofrestru i fynychu, a byddwn ni'n cysylltu â'r rhai nad ydyn nhw'n mynychu'n rheolaidd i sefydlu a oes angen y lle neu a oes modd ei ryddhau i rywun ar y rhestr aros/wrth gefn.

Mae’n bwysig nodi y byddwn ni’n cysylltu hefyd â theuluoedd plant nad ydyn nhw'n bwyta brecwast am ddim yn y ddarpariaeth, gan fod y ddarpariaeth wedi’i sefydlu gyda’r bwriad clir o ddarparu brecwast am ddim i’r disgyblion sydd ei angen.

 13. Fe wnes i geisio gwneud cais ar gyfer dau o blant, ond dim ond ar gyfer un plentyn y gallwn i gwblhau cais. Beth yw'r rheswm dros hyn?

Pan rydych chi'n dechrau'r cais a dewis yr ysgol ar gyfer y plentyn cyntaf, bydd y system yn lleihau’r capasiti sydd ar gael yn yr ysgol i’ch galluogi chi i gwblhau’r broses gofrestru. Os nad oeddech chi'n gallu cofrestru ail blentyn, mae'n golygu nad oedd unrhyw argaeledd pellach.

 14. Roeddwn i'n siarad â ffrind a ddywedodd eu bod nhw wedi cwblhau cais yn llwyddiannus ar ôl i mi fod yn aflwyddiannus. Beth yw'r rheswm dros hyn?

Nid yw'n amhosibl i hyn ddigwydd, ond byddai hyn yn annhebygol iawn. Pan fydd cais yn cael ei gychwyn, a’r ysgol yn cael ei dewis, mae’r lle yn cael ei dynnu oddi ar y rhestr o leoedd sydd ar gael nes bod y ffurflen yn cael ei chyflwyno i’w chwblhau (mae terfyn amser i’r broses yma). Pe bai rhiant/gwarcheidwad arall yn rhoi’r gorau i’w cais, ac yn methu â'i gwblhau, byddai’r lle’n cael ei ryddhau a byddai ar gael i rywun arall ei gadw. Serch hynny, byddai hon yn sefyllfa eithriadol.

 15. Ar ôl cofrestru fy mhlentyn/plant, derbyniais e-bost yn dweud: -

‘Diolch am gofrestru'r plentyn/plant ar gyfer Clwb Brecwast am ddim’.

 neu

'Rydych chi wedi cofrestru'ch plentyn/plant yn llwyddiannus i fynychu'r clwb brecwast am ddim yn yr ysgol wedi'i nodi isod'.

 A yw hyn yn golygu bod fy mhlentyn/plant yn cael lle mewn clwb brecwast am ddim ym mis Medi?

Ydy, mae'r e-bost yma'n cadarnhau bod gan eich plentyn/plant le yn y clwb brecwast am ddim wedi’i ddewis. Bydd yr e-bost yn nodi manylion yr ysgol, a phob plentyn rydych chi wedi'i gofrestru'n llwyddiannus. Bydd hefyd yn darparu cyfeirnod unigryw y mae modd i staff gweinyddol eich ysgol ei ddefnyddio i chwilio yn erbyn eich gwybodaeth os oes angen.

 16. Fe wnes i gwblhau a chyflwyno'r ffurflen gais i gofrestru fy mhlentyn/plant ar gyfer clwb brecwast am ddim, ond nid ydw i wedi gweld unrhyw e-bost, pam?

Mae’n bosibl eich bod wedi anghofio ticio blwch sy’n gofyn am gytundeb i’ch data gael ei ddefnyddio. Rhaid ticio'r blwch yma.

Ar ddiwedd eich proses gofrestru, byddech chi wedi gweld sgrin a oedd yn darparu tudalen yn cynnwys crynodeb o wybodaeth, a blwch ticio ar gyfer cytuno i ddefnyddio data. Unwaith y bydd tic yn y blwch yma, byddwch chi wedyn wedi cyflwyno'r cais. Ar y pwynt yma, caiff e-bost awtomataidd ei gynhyrchu gyda'r pennawd:

'Diolch am gofrestru'r plentyn/plant ar gyfer Clwb Brecwast am ddim.'

 neu

'Rydych chi wedi cofrestru'ch plentyn/plant yn llwyddiannus i fynychu'r clwb brecwast am ddim yn yr ysgol wedi'i nodi isod'.

Ni fydd rhai e-byst wedi cyrraedd eu cyrchfan arfaethedig oherwydd efallai eu bod wedi cael eu hidlo'n awtomatig i ffolderi SPAM neu JUNK, neu heb eu danfon oherwydd gwall yn y cyfeiriad e-bost wedi’i ddarparu. Gwiriwch y ffolderi yma.

 17. Rydw i dal yn ansicr os ydw i wedi llwyddo i gofrestru fy mhlentyn/plant ar gyfer y clwb brecwast am ddim. Sut y mae modd i mi wirio'r wybodaeth yma?

Mae gan bob ysgol fynediad at wybodaeth fyw am bob cofrestriad llwyddiannus ar gyfer eu clwb brecwast am ddim. Gofynnwch i'ch ysgol wirio dangosfwrdd data ei chlwb brecwast am ddim.

 18. Cofrestrais fy mhlentyn/plant oed Meithrin, ond mae'r ysgol wedi dweud nad oes modd iddi dderbyn plant meithrin yn y clwb brecwast am ddim ar hyn o bryd. Beth yw'r rheswm dros hyn?

Mae angen goruchwyliaeth ychwanegol ar blant oed meithrin yn ystod clwb brecwast am ddim; os yw’r ysgol wedi dweud nad yw’n derbyn y plant iau yma ar hyn o bryd, bydd y penderfyniad wedi’i seilio ar ei hasesiad risg a lefelau staffio i fodloni gofynion cyfreithiol i’w cefnogi’n addas.

 19. Mae fy mhlant yn defnyddio clwb brecwast am ddim fel bod modd i mi fynd i'r gwaith, ond nid oes lle ar gael.

Rydyn ni’n cydnabod y bydd llawer o rieni/gwarcheidwaid yn elwa o ddod â’u plant i’r safle cyn dechrau’r diwrnod ysgol. Serch hynny, pwrpas clwb brecwast am ddim yw darparu brecwast am ddim i blant ar ddechrau'r diwrnod ysgol.

Os nad oes angen brecwast iach am ddim ar eich plentyn cyn dechrau’r diwrnod ysgol, yna mae disgwyl i rieni/gwarcheidwaid wneud eu trefniadau gofal plant eu hunain cyn dechrau’r diwrnod ysgol.

 20. Cofrestrais fy mhlentyn/plant ar gyfer y clwb brecwast am ddim, oherwydd efallai y bydd angen i mi ei ddefnyddio un diwrnod yn y dyfodol, ond rwy’n sylweddoli bellach fod yna deuluoedd eraill sy’n defnyddio’r clwb yn rheolaidd ac nad ydyn nhw wedi llwyddo i sicrhau lle. Sut mae tynnu fy nghofrestriad yn ôl?

Mae modd i chi gysylltu â charfan weinyddol eich ysgol drwy e-bost (neu wyneb yn wyneb) a rhoi’r manylion sylfaenol iddyn nhw (a’r rhif archebu os yw’n bosibl), byddan nhw wedyn yn cysylltu â’r awdurdod lleol i drefnu bod y lle’n cael ei ryddhau i’r rhai ar y rhestr aros/rhestr wrth gefn. Efallai y bydd oedi byr cyn y mae modd rhyddhau'r lleoedd ychwanegol yma a chadarnhau lleoedd gyda rhieni/gwarcheidwaid newydd. 

 21. Os byddaf yn tynnu’r lle/lleoedd rydw i wedi'u cadw ar gyfer fy mhlentyn/plant yn ôl, a oes modd i mi ei drosglwyddo/eu trosglwyddo’n awtomatig i fy ffrind?

Nid yw'n bosibl trosglwyddo lle. Unwaith y caiff ei ryddhau, bydd yr ysgol yn ailddyrannu lle maes o law ar sail y rhestr aros sydd ganddi. Serch hynny, bydd hyn yn gofyn am rai prosesau gweinyddol a chysylltu â'r awdurdod lleol er mwyn sicrhau bod cofnodion digidol yn cael eu diwygio a'u diweddaru'n briodol.

 22. A oes cronfa wrth gefn/rhestr aros y mae modd i mi roi fy mhlentyn/plant arni?

Oes, cysylltwch yn uniongyrchol â'r ysgol. Bydd gofyn i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:

  • Enw'r Rhiant/Gwarcheidwad
  • Cyfeiriad cartref
  • Cyfeiriad e-bost
  • Rhif ffôn
  • Enw'r plentyn/plant
  • Dyddiad geni'r plentyn/plant
  • A oes gan y plentyn/plant sgiliau Cymraeg
  • A oes gan y plentyn/plant ddeiet wedi’i ragnodi gan feddyg?

 23. Rydw i'n credu nad yw rhai o'r teuluoedd sydd wedi cofrestru'n llwyddiannus byth yn defnyddio'r gwasanaeth. A fydd lleoedd yn cael eu rhyddhau os nad yw pobl yn defnyddio'r clwb brecwast am ddim?

Bydd pob ysgol yn monitro presenoldeb y rhai sydd wedi cofrestru i fynychu, a byddwn ni'n cysylltu â'r rhai nad ydyn nhw'n mynychu'n rheolaidd i sefydlu a oes angen y lle neu a oes modd ei ryddhau i rywun ar y rhestr aros/wrth gefn.

 24.  Rydw i wedi anghofio gwneud cais ar-lein ar gyfer y clwb brecwast am ddim. Beth ddylwn i ei wneud os ydw i wedi anghofio?

Os nad yw eich plentyn/plant wedi cofrestru ar-lein i fynychu clwb brecwast am ddim, ond bod yr ysgol yn dal i fod â lleoedd ar gael, mae’n hanfodol eich bod chi'n eu cofrestru ar-lein cyn dod â nhw i’r clwb brecwast am ddim.

 25. Rydw i wedi cael gwybod bod y clwb brecwast am ddim yn llawn. Beth os byddaf yn gollwng fy mhlentyn/plant yn y clwb brecwast?

Rydyn ni’n gofyn i chi beidio â dod â phlant i'r clwb brecwast am ddim os nad ydych chi wedi llwyddo i sicrhau lle.