Skip to main content

Llyfrgell i Blant

Mae gan bob Llyfrgell adran i blant a phobl ifainc er mwyn eu cynorthwyo nhw ym mhob elfen o’u dysgu.
Edrychwch ar ba wasanaethau sydd ar gael yn eich llyfrgell leol.
Er mwyn manteisio ar eich llyfrgell leol, bydd rhaid i chi ymaelodi. Ymaelodwch ar-lein.

Mae croeso i blant o unrhyw oed ymaelodi â’r llyfrgell a benthyg llyfrau a straeon llafar yn rhad ac am ddim.

Mae straeon yn amrywio o lyfrau bwrdd i blant bach a nofelau i bobl yn eu harddegau. Mae gennym ni adrannau ‘Darllen Cyflym’ i blant sydd newydd ddechrau darllen ar eu pennau eu hunain.

Os oes angen help arnoch chi gyda’ch gwaith cartref neu brosiect ysgol, mae gan bob llyfrgell ystod eang o lyfrau gwybodaeth.

Caiff casgliadau Cymraeg eu cadw ym mhob Llyfrgell. Mae llyfrau lluniau mewn dewis o ieithoedd o Arabeg i Urdu ar gael ac mae modd eu harchebu yn y llyfrgelloedd eraill.

Casgliadau arbennig a chymorth gwaith cartref

Casgliad ‘Wordwise’

Mae casgliad o lyfrau ar gyfer plant sy’n ei chael hi’n anodd darllen ar gael yn Llyfrgelloedd Aberdâr, Pontypridd a Threorci. Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys gwybodaeth i rieni ynghylch dyslecsia ac anawsterau dysgu eraill.

Casgliad i Rieni

Caiff casgliad o lyfrau sy’n ymdrin â phob elfen o ddatblygiad plant, gan gynnwys straeon a llyfrau gwybodaeth sy’n mynd i’r afael â phroblemau y gall eich plentyn eu hwynebu, eu cadw yn Llyfrgelloedd Aberdâr, Pontypridd a Threorci.

Gwaith Cartref

Yn ogystal â chynnig cyfrifiaduron a defnydd o’r rhyngrwyd yn rhad ac am ddim, mae gan holl lyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf gasgliadau o lyfrau gwybodaeth sy’n addas ar gyfer prosiectau gwaith cartref. Gall staff fod o gymorth i’r plant wrth ddechrau eu prosiectau.