Skip to main content

Chwilio'r archif a gwybodaeth hanesyddol

Efallai bod diddordeb gyda chi yn hanes De Cymru neu â diddordeb ymchwilio i hanes eich teulu. Gall eich llyfrgell leol fod yn adnodd defnyddiol iawn.

Mae gan bob llyfrgell lyfrau i roi hwb cychwynnol i chi.  Maen nhw’n esbonio’r dulliau y dylech chi eu defnyddio a lle ddylech chi edrych er mwyn dod o hyd i wybodaeth am eich ardal neu gyndeidiau.

Adnoddau Ymchwil ein Llyfrgelloedd:

Mae modd i chi ddod o hyd i ffynonellau manwl mewn rhai o’n llyfrgelloedd.  Mae croeso i chi edrych ar gofnodion microfilm neu gyfrifiadurol a gwybodaeth hanesyddol yn ogystal ag edrych ar bapurau newydd a ffurflenni cyfrifiad lleol.

Mae’r cyfleusterau yma ar gael o’r safleoedd canlynol:

Adnoddau Gwybodaeth Ar-lein

Mae i chi gyrchu nifer o adnoddau ar-lein drwy ddefnyddio cyfrifiaduron y llyfrgell yn rhad ac am ddim.

Cliciwch yma i weld Archif Lluniau Digidol Rhondda Cynon Taf

Cliciwch yma i weld pa adnoddau sydd ar gael ar-lein drwy amryw o ffynonellau.