Linda - Rheolwr y Garfan, Carfan Ymyrraeth Ddwys – Dwyrain 2

Ers pryd ydych chi wedi bod yn eich swydd a beth oeddech chi'n ei wneud o'r blaen?

Rydw i wedi gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf ers 1994.

Cafodd fy niddordeb mewn dod yn weithiwr cymdeithasol ei sbarduno pan roeddwn i'n gweithio gyda phlant a phobl ifainc agored i niwed yn y cartref i blant. Yn y rôl yna, roeddwn yn gweithio ochr yn ochr â nifer o Weithwyr Cymdeithasol ymroddedig ac angerddol ac roedd yr effaith sylweddol a gawson nhw ar fywydau plant sy'n agored i niwed yn gwbl amlwg. Drwy fy nghyflogaeth gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf roeddwn i'n gallu gwneud cais am secondiad a chwblhau fy Niploma mewn Gwaith Cymdeithasol wrth barhau i gyflawni rôl a chael fy nghefnogi trwy'r astudiaethau.

Ar ôl i mi gwblhau'r Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol roeddwn wrth fy modd i gael gwaith yn Weithiwr Cymdeithasol Gofal i Blant a mwynheais y rôl yma'n aruthrol, gan arwain at sicrhau rôl Uwch Ymarferydd dair blynedd ar ôl i mi ddechrau'n ymarferydd. Yna cefais swydd Swyddog Adolygu Annibynnol, a gwnes i hyn am 8 mlynedd, ac yn dilyn hynny cefais swydd Rheolwr Carfan yn Gwasanaethau i Blant yn 2012.

Beth mae eich swydd yn ei gynnwys a sut beth yw diwrnod arferol?

Rydw i'n mwynhau gweithio gyda charfan wych o weithwyr proffesiynol ymroddedig a chael y profiad rheoli er mwyn arwain y garfan yn ein swyddogaethau o ddydd i ddydd.  Mae'r swydd yma yn fy ngalluogi i ymgysylltu â'r uwch dîm rheoli a chynorthwyo i arwain y garfan i fodloni gofynion ein gwasanaeth a'n gofynion gweithredol. Mae fy nyddiadur yn aml yn newid o ddydd i ddydd ac mae bod yn hyblyg yn rhan greiddiol o'r rôl reoli yma.

Beth yw’r peth/pethau gorau am eich swydd?

Rydw i wrth fy modd â'r amrywiaeth o dasgau o ddydd i ddydd a gweithio ochr yn ochr â charfan o reolwyr a gweithwyr cymdeithasol ymroddedig. Rydw i'n dal i fwynhau gallu cwblhau elfennau o waith gyda phlant a theuluoedd. Rydw i hefyd yn hoffi bod yn rhan o grŵp rheoli sy’n ceisio cefnogi ei weithwyr. Mae hyn yn cynnwys fy ngalluogi i yn fy swydd fel rheolwr i ddatblygu’r garfan a gyrru ein targedau gweithredol ymlaen.

Beth wnaeth eich denu chi i wneud cais am swydd gyda Chyngor RhCT?

Rydw i'n hoff o ethos yr is-adran gwasanaethau i blant wrth ymdrechu i wella bywydau'r plant a'r teuluoedd rydyn ni'n gweithio gyda nhw. Roeddwn i eisiau bod yn rhan o grŵp rheoli sy’n ceisio cefnogi ei weithwyr – mae hyn yn cynnwys fy ngalluogi i yn fy swydd fel rheolwr i ddatblygu’r garfan a gyrru ein targedau gweithredol ymlaen.

Roedd y ffaith bod Cyngor RhCT yn fodlon fy nghefnogi’n llawn i gyflawni diploma mewn gwaith cymdeithasol yn atyniad mawr. Ers hynny, mae'r Cyngor wedi fy nghefnogi wrth i mi ennill cymhwyster Rhaglen Datblygu Rheolwr Carfan. 

Beth yw eich profiadau cadarnhaol yn ystod eich gyrfa gyda Chyngor RhCT? 

Cyfleoedd i gael hyfforddiant a datblygu fy ngyrfa.

Rheolaeth linell drwy heriau'r rôl.

Beth yw'r peth gorau am weithio i Gyngor RhCT?

Rydw i'n gallu byw a gweithio’n lleol sy'n fy ngalluogi i gyflawni'r cydbwysedd bywyd a gwaith rydw i yn ei geisio. Mae gen i ymreolaeth ond eto’n teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi yn hynny o beth ac yn cael fy annog i barhau i ddatblygu a chyflawni fy nghynlluniau gyrfa.

Rydw i'n gweithio gyda grŵp gwych o bobl sydd wir wedi ymroi ac ymrwymo i'w rolau ac sydd wir yn ceisio gwneud gwahaniaeth yn y gymuned rydyn ni'n gweithio ynddi.

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried gwneud cais am swydd ym maes gofal cymdeithasol yng Nghyngor RhCT?

Rydw i wir yn credu bod Cyngor Rhondda Cynon Taf yn un gwerth ymuno ag ef. Mae llawer o gyfleoedd yn yr Awdurdod Lleol yma ac mae modd i chi gael cyflogaeth sefydlog, sicr ac adeiladu gyrfa o'r gwaelod i fyny - fel rydw i wedi'i wneud.