Gwen - Gweithiwr Cymdeithasol, Carfan Ymyrraeth Ddwys - Dwyrain 2

Ers pryd ydych chi wedi bod yn eich swydd a beth oeddech chi'n ei wneud o'r blaen?

Rydw i wedi bod yn fy swydd ers tair mlynedd. Cyn hynny, roeddwn i'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd lle astudiais radd Meistr mewn Gwaith Cymdeithasol. Cyn i mi fynd i'r brifysgol, bûm yn gweithio fel Swyddog Datblygu Gwirfoddolwyr i fudiad lleiafrifoedd ethnig; sefydliad Women Connect First am chwe blynedd.

Beth mae eich swydd yn ei gynnwys a sut beth yw diwrnod arferol?

Mae fy swydd yn cynnwys cynnal asesiadau risg o deuluoedd a allai fod yn ei chael hi’n anodd cyflawni eu deilliannau llesiant a rhoi cymorth iddyn nhw, trwy lunio cynlluniau gofal a chymorth ar gyfer teuluoedd a gwneud atgyfeiriadau at asiantaethau a all eu cefnogi

Beth yw’r peth/pethau gorau am eich swydd?

Y peth gorau am fy swydd yw gweld teuluoedd yn ffynnu ac yn cyflawni eu deilliannau llesiant a gweld teuluoedd yn gwneud newidiadau cadarnhaol yn eu bywydau o ganlyniad i fy nghymorth i.

Beth wnaeth eich denu chi i wneud cais am swydd gyda Chyngor RhCT?

Rydw i'n hoffi gweithio i Gyngor RhCT oherwydd eu cefnogaeth enfawr i weithwyr y Cyngor. Rydw i hefyd yn mwynhau gweithio ar draws Gymoedd y Rhondda gyda'u golygfeydd daearyddol gwych a chefais fy nenu gan y buddion ariannol i Staff Cyngor RhCT.

Beth yw eich profiadau cadarnhaol yn ystod eich gyrfa gyda Chyngor RhCT? 

Rydw i wedi cael llawer o gyfleoedd i ddatblygu fy ngyrfa, ac rydw i wedi cael mynediad i lawer o gyrsiau hyfforddi defnyddiol.

Beth yw'r peth gorau am weithio i Gyngor RhCT?

A minnau'n dod o gefndir ethnig lleiafrifol, rydw i wedi cael llawer o gefnogaeth gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, yn enwedig yn ystod ymgyrch Black Lives Matter. Mae'r Cyngor yn gefnogol ac yn gwneud i mi deimlo fy mod yn cael fy nghynnwys fel aelod gwerthfawr o staff y Cyngor.

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried gwneud cais am swydd ym maes gofal cymdeithasol yng Nghyngor RhCT?

Mae Cyngor RCT yn gefnogol i'w staff gofal cymdeithasol ac mae gweithio i'r Cyngor yn rhoi boddhad. Mae llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol ac mae'r cyflog yn dda.