Ein Cynnig i Chi

 

Cyfleoedd Dysgu a Datblygu

Yma yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf rydyn ni'n credu ei bod hi'n bwysig i bob gweithiwr gyflawni ei botensial llawn. Os byddwch chi'n dewis gyrfa yng Ngwasanaethau i Blant Rhondda Cynon Taf, bydd gyda chi fynediad at ein Canolfan Dysgu a Datblygu fewnol bwrpasol, sy'n cefnogi ymarferwyr ar bob lefel i gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Mae hyn yn cynnwys:

  • Rhaglen gynhwysfawr ‘Blwyddyn Gyntaf o Ymarfer’ sy’n cefnogi gweithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso;
  • Ystod o raglenni ôl-gymhwysol noddedig ar gael ar gyfer Addysg a Dysgu Proffesiynol Parhaus;
  • Cyfleoedd ar gyfer gweithwyr cymdeithasol profiadol sy'n dymuno symud ymlaen i fod yn rheolwyr, i gofrestru ar y Rhaglen Datblygu Rheolwyr Carfan;
  • Cyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus wedi'u teilwra'n arbennig ar gael ar gyfer gweithwyr mewn rolau arbenigol er mwyn gwella eu gwybodaeth gyfredol a datblygu ymhellach;

 Cefnogi lles 

Rydyn ni'n blaenoriaethu lles ein hymarferwyr, gan ddarparu cymorth, llwythi gwaith hylaw, ac adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw er mwyn ffynnu. Mae Uned Iechyd Galwedigaethol y Cyngor yn cynnig cymorth a chyngor lles megis cwnsela, gwyliadwriaeth iechyd, nyrsys a gwasanaethau ffisiotherapyddion. Mae modd i weithwyr hefyd gael mynediad at 'Vivup', ein Rhaglen Cymorth i Gyflogeion gwbl Gyfrinachol.Yng Ngwasanaethau i Blant Rhondda Cynon Taf, rydyn ni hefyd wedi datblygu rhaglen i gefnogi lles ymarferwyr sy'n canolbwyntio ar feithrin carfanau cydnerth a chefnogol. Mae hyn yn cynnwys:

  • Mae sesiynau Rowndiau Schwartz  yn cael eu datblygu sy'n agored i bawb yn y Gwasanaethau i Blant ac sy'n ein hannog ni i gymryd awr o'n hamserlenni prysur i wrando ar brofiadau eraill ac ymuno â thrafodaeth ar themâu cysylltiedig â gwaith a phrofiadau sy'n atseinio i chi.
  • Rydyn ni wedi cyflwyno 'Mannau Myfyriol' i ymarferwyr y Gwasanaethau i Blant, sy'n cynnwys sgwrs gydweithredol rhwng carfan neu unigolion, wedi'i hwyluso gan seicolegydd sy'n cefnogi rhannu meddyliau, teimladau ac ymatebion i brofiadau yn y gwaith. Mae'r ymagwedd yn annog hunanymwybyddiaeth a myfyrio mewn man diogel cefnogol. I gael gwybod rhagor, gwyliwch y fideo isod

Buddion Cyngor RhCT

  • Rydyn ni'n cynnig 26 diwrnod o wyliau blynyddol, sy'n cynyddu i 31 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth. Mae cyfle hefyd i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at uchafswm o 10 diwrnod (pro rata) y flwyddyn.
  • A chithau'n gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf, bydd gyda chi fynediad at Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) hael.
  • Manteisio ar y polisi gweithio oriau hyblyg a'r hawl i ofyn am weithio'n hyblyg. Mae gyda ni hefyd bolisïau cefnogol i rieni sy'n cynnwys tâl mamolaeth, mabwysiadau a thadolaeth uwch. Rydyn ni hefyd yn gweithio mewn modd hyblyg, sy'n eich galluogi chi i weithio gartref neu yn y swyddfa.
  • Mae Staff Gofal Cymdeithasol yn gymwys i wneud cais am Gerdyn Golau Glas.
  • Mae buddion ychwanegol ledled y Cyngor yn cynnwys ein cynllun Beicio i'r Gwaith, aelodaeth Hamdden am Oes am bris gostyngol a cherdyn Vectis sy'n rhoi prisiau gostyngol i staff. Pam gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf

Byw a gweithio yn Rhondda Cynon Taf

  • Yn RhCT mae gyda ni dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog i chi ei harchwilio a thirweddau syfrdanol sy’n berffaith ar gyfer gweithgareddau megis beicio, cerdded, golff, marchogaeth, beicio cwad, dringo creigiau ac un o wifrennau gwib cyflymaf y byd yn Zip World Tower.
  • Mae yna atyniadau unigryw i ymweld â nhw, gan gynnwys theatrau hanesyddol, parciau gwledig, amgueddfeydd, Profiad y Bathdy Brenhinol a Lido Cenedlaethol Cymru.
  • Ac yntau dim ond yn dafliad carreg o Gaerdydd, prifddinas Cymru, mae gan Rondda Cynon Taf ystod o dai am brisiau fforddiadwy Mae hefyd o fewn pellter teithio i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Abertawe, sydd â rhai o draethau gorau'r DU.

Cyflog Gwaith Cymdeithasol

Gweithiwr Cymdeithasol: £40,221 (Gradd 11)

Rhaid meddu ar gymhwyster Gwaith Cymdeithasol Proffesiynol, hynny yw, gradd MA/gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster cyfatebol blaenorol, e.e. CQSW, DipSW, CSS.

Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol: £43,221 (Gradd 12)

Angen o leiaf 3 mlynedd o brofiad o waith ôl-gymhwyso. I'r rhai a gymhwysodd ar ôl 1 Ebrill 2016 yng Nghymru, rhaid eu bod wedi cwblhau gofyniad cofrestru Gofal Cymdeithasol Cymru sef 'Y Flwyddyn Gyntaf o Ymarfer' a'r Rhaglen Cydgyfnerthu ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso a'r ailgofrestriad cyntaf ar ôl 3 blynedd ar ôl cymhwyso. Mae'r rhai sydd wedi cymhwyso y tu allan i Gymru angen tystiolaeth o 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso ac mae angen iddyn nhw gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Blaen Weithiwr Cymdeithasol: £46,464 (Gradd 13)

Bydd angen i chi ddirprwyo ar gyfer Rheolwr y Garfan, rheoli achosion cymhleth a chyflawni rôl sicrhau ansawdd.

Mae'r holl staff yn ein Carfanau Ymyrraeth Gynnar - Ymholi ac Asesu a'n Carfanau Ymyrraeth Ddwys (y Dwyrain a'r Gorllewin, 1,2,3) yn gymwys i dderbyn atodiad y farchnad o £2000.00. Mae hyn waeth beth fo hyd y profiad ôl-gymhwyso a chaiff ei adolygu ym mis Mai 2025. Bydd y taliad yma'n cael ei dalu'n fisol ar sail pro rata.

Dysgwch ragor am ein Gwasanaeth Preswyl i Blant

Gwasanaeth Preswyl

Bwriwch olwg ar Swyddi Gwag Gwasanaethau i Blant

Swyddi Gwag

Tudalennau yn yr Adran Hon

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol.

Cysylltwch â Ni