Leanne - Carfan Gofal a Chymorth y Gorllewin 1

Ers pryd ydych chi wedi bod yn eich swydd a beth oeddech chi'n ei wneud o'r blaen?

Dechreuais weithio i awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf 20 mlynedd yn ôl pan oeddwn i'n 19 oed. Fy swydd gyntaf oedd Gweithiwr Gofal yn y Cartref wrth gefn. Roedd hyn yn cynnwys gweithio allan yn y gymuned gydag unigolion oedd angen cymorth yn eu cartrefi, gan gynorthwyo gydag ymolchi, gwisgo a pharatoi prydau bwyd. Yn ystod fy amser fel Gweithiwr Gofal yn y Cartref cwblheais fy NVQ lefel 2 mewn gwaith gofal. Teimlaf fod fy ngyrfa fel Gweithiwr Gofal yn y Cartref wedi gwreiddio gwerthoedd craidd gofal cymdeithasol, h.y. trin pawb fel unigolyn, parchu hawliau, cyfrinachedd, gweithio gydag agwedd anfeirniadol a pharchu urddas unigolyn.

Yna symudais ymlaen drwy’r sefydliad ac ymgymerais â rolau fel Cynlluniwr Gofal yn y Cartref wrth Gefn a Swyddog Gwasanaethau Cleient cyn i mi gael fy mhenodi ar gyfer fy ‘swydd ddelfrydol’ yn Rheolwr Materion Asesu Gofal yn y Garfan Iechyd Meddwl Pobl Hŷn. Roeddwn i'n angerddol am y gwerthoedd craidd, eu hyrwyddo, cwblhau asesiadau ond hefyd y cyswllt wyneb yn wyneb â'r unigolion roeddwn i'n gweithio gyda nhw. Rydw i'n dal i fod yn angerddol dros weithio gydag unigolion sy'n byw gyda dementia ac anawsterau iechyd meddwl. Llwyddais hefyd i gwblhau secondiad blwyddyn yng Ngharfan Cyswllt Iechyd Meddwl a oedd wedi'i leoli yn yr Uned Iechyd Meddwl, Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Rhoddodd hyn gyfle gwych i mi ennill rhagor o wybodaeth a sgiliau gweithio ar y cyd gyda gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n gweithio yn rhan o garfan amlddisgyblaethol.

Rydw i bellach yn gweithio'n rhan o garfan generig yn y gwasanaeth gofal a chymorth. Rydw i'n Ymarferydd Gofal a Chymorth Er hynny, rydw i newydd ddechrau ar fy siwrnai gyda'r Cyngor. Cefais secondiad ddwy flynedd yn ôl i gwblhau fy Ngradd mewn Gwaith Cymdeithasol drwy'r Brifysgol Agored. Rydw i'n dechrau fy nhrydedd flwyddyn a'm blwyddyn olaf, ac rydw i'n ddiolchgar iawn am y cyfleoedd a gefais yn ystod fy ngyrfa yn RhCT ac yn gobeithio parhau i ddatblygu a symud ymlaen o fewn yr awdurdod yn y dyfodol. Rydw i'n teimlo'n ffodus iawn ac yn mwynhau fy swydd.

Beth mae eich swydd yn ei gynnwys a sut beth yw diwrnod arferol?

Mae pob diwrnod yn wahanol yn y Garfan Gofal a Chymorth, fel Ymarferydd Gofal a Chymorth. Rydw i'n gwneud asesiadau a chynlluniau gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n canolbwyntio ar ddeilliannau gydag unigolion a allai fod ag anhawster iechyd corfforol neu feddyliol, anabledd dysgu neu ddementia. Rydw i'n gweithio gyda chynhalwyr yr unigolion i’w cefnogi yn eu rolau cynnal ac yn gweithio ar y cyd â gweithwyr proffesiynol eraill.

Beth yw’r peth/pethau gorau am eich swydd?

Hyrwyddo hawliau unigolion, cyflawni deilliannau unigolion yn y ffordd orau bosibl, bod yn eiriolwr a chefnogi unigolion i gyflawni eu deilliannau personol, i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.

Beth yw'r peth gorau am weithio i Gyngor RhCT?

Y gallu i symud ymlaen a datblygu yn eich gyrfa. Y cyfleoedd sy’n codi i unigolion sydd eisiau symud ymlaen. Rydw i'n teimlo bod safonau uchel yn y gwasanaethau o ran cydraddoldeb a sut mae unigolion yn cael eu trin.

Mae gen i anabledd hefyd ac rydw i'n cael fy nghefnogi'n llwyr gan Gyngor RhCT. Rydw i'n teimlo bod y Cyngor yn ystyried fy nghyflwr ac yn sicrhau fy niogelwch.

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried gwneud cais am swydd ym maes gofal cymdeithasol yng Nghyngor RhCT?

Byddwn i'n annog unigolion i ymgeisio am swyddi, i anelu'n uchel gan fod cyfleoedd yn codi yn RhCT drwy'r amser.

Tudalennau yn yr Adran Hon