Cymorth i Wneud Cais am Swyddi

Rhaglenni Cyn-gyflogaeth RhCT

Rydyn ni’n cynnig nifer o raglenni cymorth cyflogaeth sydd wedi'u hariannu gan grantiau ym mhob rhan o Rhondda Cynon Taf. Mae’r rhain yn cynnig cymorth a chyngor i holl drigolion y Fwrdeistref Sirol sy'n hŷn nag 16 oed ac sy'n ceisio cyflogaeth, hyfforddiant neu gyfleoedd gwirfoddoli. Mae hefyd modd derbyn cymorth i ddatblygu eich sgiliau os ydych chi eisoes mewn cyflogaeth.

E-bost: caw@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Rhif ffôn: 01443 425761

Maen nhw'n cynnig:

  • Mentora wyneb yn wyneb mewn lleoliad lleol, fel caffi cymunedol, llyfrgell neu yn eich cartref eich hun
  • Llwybr wedi'i deilwra i'ch helpu i gyflawni'ch nodau o ran cyflogaeth
  • Mynediad at hyfforddiant am ddim a chymwysterau
  • Paratoi CV a chymorth i chwilio am swydd
  • Cymorth i gael lleoliad gwirfoddoli neu brofiad gwaith
  • Cymorth ariannol i'ch helpu wrth weithio neu gael hyfforddiant, e.e. dillad ar gyfer cyfweliad, gofal plant neu docynnau teithio

Defnyddio techneg STAR ar gyfer y ffurflen gais a chwestiynau cyfweliad

Mae rhoi enghreifftiau o sut rydych chi wedi gwneud rhai pethau yn y gorffennol yn ffordd dda o ateb cwestiynau ar ffurflen gais ac mewn cyfweliad. Bydd defnyddio'r dechneg STAR yn eich helpu i roi'r ateb gorau posibl: 

Sefylla neu Dasg

DDisgrifiwch y sefyllfa roeddech chi ynddi neu'r dasg roedd angen i chi ei chyflawni. Rhaid i chi ddisgrifio digwyddiad neu sefyllfa benodol. Peidiwch â rhoi disgrifiad cyffredinol o'r hyn rydych chi wedi'i wneud yn y gorffennol. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n rhoi digon o fanylion i'r cyfwelydd fel ei fod e'n deall. Mae'n bosibl i'r sefyllfa yma fod o swydd flaenorol, o brofiad wrth weithio fel gwirfoddolwr, neu unrhyw ddigwyddiad perthnasol

Camau a gymeroch chi

Disgrifiwch y camau a gymeroch chi a, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw'r ffocws arnoch chi. Hyd yn oed os ydych chi'n trafod prosiect neu ymdrech grŵp, disgrifiwch yr hyn a wnaethoch chi - nid ymdrechion y garfan. Peidiwch â dweud wrth y cyfwelydd beth y byddech chi'n ei wneud; dywedwch wrthyn nhw beth wnaethoch chi mewn gwirionedd

Canlyniadau cyflawnoch chi

Beth ddigwyddodd? Sut daeth y digwyddiad i ben? Beth gyflawnoch chi? Beth ddysgoch chi?

Tudalennau yn yr Adran Hon