Skip to main content

Beth yw Teleofal (Telecare)?

Teleofal yw'r enw sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer offer all gael eu cysylltu ag uned Gwifren Achub Bywyd er mwyn helpu pobl i fyw yn annibynnol ac yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain.  

Mae'r Cyngor yn darparu ystod eang o offer Teleofal sydd ar gael naill ai yn dilyn asesiad o'ch anghenion neu drwy ofyn am Becyn Diogelwch yn y Cartref Gwifren Achub Bywyd.

 Mae'r offer Teleofal sydd ar gael yn cynnwys synwyryddion cwympo, synwyryddion epilepsi, synwyryddion mwg, synwyryddion nwy, synwyryddion carbon monocsid a rhagor.

Dyma'r offer sydd ar gael all helpu gydag amrywiaeth o anghenion:

Drwy edrych ar y tudalennau cysylltiedig, bydd modd i chi weld rhagor o fanylion am osod larymau a'u cynnal.

Gwneud cais am Larymau Argyfwng Teleofal

Bydd modd i chi wneud cais am larwm cymunedol Teleofal drwy gysylltu â;

Gwasanaethau Teleofal
E-bost: GwasanaethauCymdeithasol@rhondda-cynon-taf.gov.uk 
Ffôn: 01443 425003