Skip to main content

Offer Teleofal ar gyfer symudedd

O osod yr offer isod, mae modd cefnogi pobl sydd â phroblemau symudedd neu sy'n cwympo’n aml.

Bydd angen i chi gael asesiad i gael defnyddio'r math yma o offer. 

Gall yr holl offer yma naill ai fod wedi'u cysylltu â'n canolfan fonitro Gwifren Achub Bywyd 24 awr neu â theclyn galw cynhalwyr.

Gall offer Teleofal eraill fod o fantais hefyd.

Table
Synhwyrydd Codi o Wely neu Gadair

Mae modd defnyddio'r synhwyrydd
yma i dynnu sylw at rywun sy'n codi
o'r gwely neu o gadair. Mae'n bosibl
ei gysylltu â switsh oedi neu i droi
lampiau ymlaen, i helpu i atal codymau
yn ystod y nos.

Synhwyrydd Cwympo

Bydd synhwyrydd cwympo yn rhoi
rhybudd yn awtomatig os yw'r person
sy'n ei wisgo yn cwympo.  Mae yna 3 math
gwahanol ar gael gan ddibynnu ar anghenion
y person.

Mat Pwysedd

Mae modd gosod matiau o amgylch y cartref i
roi rhybudd pan fydd rhywun yn dynesu at
ardal a allai beri risg. 

Os ydych chi o'r farn y byddech chi'n elwa o gael Gwifren Achub Bywyd neu offer Teleofal, dylech chi gysylltu â'n Carfan Ymateb ar Unwaith neu'ch Gweithiwr Cymdeithasol/Rheolwr Gofal os oes un gyda chi. 

Bydd y Garfan Ymateb ar Unwaith yn gofyn ychydig o gwestiynau i chi am eich sefyllfa, ac os ydyn nhw o'r farn bod eich cais yn briodol, byddan nhw'n ei drosglwyddo i Reolwr Gofal.

Cysylltwch â:
Carfan Ymateb ar Unwaith
Ffôn: 01443 425003
E-bost: GwasanaethauCymdeithasol@rhondda-cynon-taf.gov.uk