Skip to main content

Cofiwch eich Cymdogion

Mae'r Cyngor wedi cyflwyno'i ymgyrch Cofiwch eich Cymdogion.  Ei nod yw annog trigolion i fod yn 'gymdogion da' ac i wylio amdanyn nhw pan fydd y tywydd gaeafol yn brathu.

Your-Neighbours-Need-You-WOMAN-2-WELSH newMae'r dudalen yma'n cynnwys nifer o gamau allai fod o fudd i drigolion, yn enwedig y rhai bregus yn eu plith, pan fydd eira trwm yn cwympo – a allai hefyd olygu amodau rhewllyd, methu â defnyddio'r ffyrdd, a rhwystro gwasanaethau'r Cyngor.

Dyma rai camau cyffredinol y gallech chi'u cymryd – pan fydd hi'n ddiogel i wneud hynny – yn ystod tywydd garw iawn. Mae rhagor o wybodaeth wedi'i chynnwys yn y cysylltau isod. 

  • Cadw llygad ar eich cymdogion – yn enwedig hen bobl a phobl fregus.  Dyma'r bobl a allai fod yn ddibynnol ar wasanaethau pwysig neu gymorth nad oes modd eu darparu yn ystod cyfnodau o dywydd garw.
  • Dosbarthu halen o'r biniau halen – pan fydd y tymheredd yn disgyn, bydd y Cyngor yn rhoi halen ar y ffyrdd sydd â blaenoriaeth ac yn gofalu bod biniau halen yn llawn. Ond mae modd i drigolion chwarae eu rhan nhw hefyd, trwy roi halen ar lwybrau troed a gofalu bod eu lleiniau parcio nhw – a lleiniau parcio'u cymdogion – wedi'u gorchuddio pan fydd hi'n ddiogel i wneud hynny.
  • Clirio'r eira yn ddiogel – Bydd y Cyngor yn rhoi sylw i'r ffyrdd allweddol a chanol trefi, ac yn galw ar gontractwyr lle y bo'n bosibl. Serch hynny, mae'n amhosibl i'r Cyngor gyrraedd pob stryd yn Rhondda Cynon Taf. Mae modd i unigolion chwarae'u rhan nhw, trwy glirio'r eira pan fydd hi'n ddiogel i wneud hynny.
  • Mynnwch a rhoi'r newyddion diweddaraf i bobl eraill! – edrychwch ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Cyngor. Bydd y cyfrifon yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf gan gynnwys cyngor pwysig ar y sefyllfa deithio, ffyrdd ar gau, y diweddaraf am y tywydd a'r gwasanaethau. Bydd gwifren ffôn newydd i Aelodau Etholedig hefyd yn rhoi gwybodaeth hanfodol, felly cadwch lygad am negeseuon oddi wrth eich Cynghorydd lleol.
  • Trin/Cynnal a chadw cerbydau – os bydd hi'n ddiogel i yrru, dylai gyrwyr gymryd nifer o gamau cyn teithio. Er enghraifft, gofalwch fod digon o aer yn y teiars a rhoi pecyn 'rhag ofn' yn y car ar gyfer argyfyngau, gan gynnwys blancedi. Bydd sefydliadau megis yr AA a RAC yn rhoi rhagor o wybodaeth am y materion yma.
Home-Care

Efallai bydd rhai aelodau o'r gymuned yn cael eu heffeithio'n waeth na phobl eraill oherwydd eira – ac mae'n bwysig bod pawb yn gofalu am ei gilydd..

Grit-Bin

Bydd ein swyddogion Gofal y Strydoedd yn clirio eira a thaenu halen ar y llwybrau teithio sydd â blaenoriaeth, ond mae modd i drigolion chwarae eu rhan nhw yn ogystal. 

Snow-Gritting-Lorry
Pan fydd tywydd gaeafol difrifol yn taro, dylai trigolion ystyried a oes rhaid teithio o gwbl.
information

Mae cael yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â'r sefyllfa yn ystod eira trwm yn bwysig, ac mae rhoi gwybod i bobl eraill yn ffordd i chi fod yn 'gymydog da’.