Skip to main content

Teithio mewn car yn yr eira

Pan fydd tywydd gaeafol difrifol yn taro, dylai trigolion ystyried a oes rhaid teithio o gwbl. Efallai bydd ffyrdd yn beryglus bydd hi'n anodd gweld yn bell, tra bod posiblirwydd na fydd gyrwyr yn gallu symud yn yr eira.

all-4-WELSH-4Serch hynny, os bydd rhaid teithio, mae nifer o fesurau gall gyrwyr roi yn eu lle er mwyn sicrhau'u bod nhw'n aros yn ddiogel ar y ffyrdd:

  • Gwisgwch ddillad addas ar gyfer y gaeaf gan gynnwys esgidiau addas – a chario ffôn symudol â batri llawn.
  • Gwnewch yn siwr bod eich car yn iawn i deithio (rhagor o fanylion i ddilyn).
  • Byddwch yn barod – meddyliwch am yr hyn fyddai ei angen arnoch chi pe bai'r car yn torri i lawr. Dylech chi ystyried rhoi rhai eitemau pwysig yn eich car, gan gynnwys pecyn cymorth cyntaf, gwifrau cyswllt ar gyfer y batri, map teclyn lloeren â llyw, torsh, batris sbâr, blanced, arwydd rhybudd llachar, bwyd a diod, crafwr iâ, hylif toddi iâ, a rhaw.
  • Os bydd eich car yn torri i lawr neu'ch bod chi'n mynd yn sownd... a bydd raid i chi adael eich cerbyd, peidiwch â rhoi'r goleuadau rhybudd i weithio. Bydd y sylw yn cael ei ddenu at y goleuadau, yn hytrach na chi. Peidiwch â gadael i injan eich cerbyd i redeg am fwy nag ychydig funudau. Gofalwch nad yw'r eira yn tagu'r beipan fwg (ecsôst)
  • Defnyddiwch y brif ffyrdd ac osgoi'r strydoedd cefn lle y bo'n bosibl – blaenoriaeth y Cyngor yw cadw'r prif ffyrdd ar agor yn y lle cyntaf.
  • Mewn achos o argyfwng, ffoniwch 999.

Mae gan sefydliadau'r AA a RAC dudalennau penodol ar gyfer cyngor ar yrru yn y gaeaf a chynnal a chadw car.