Skip to main content

Nabod eich Rhifau! (2-8 Medi)

 
 
Date(s)
Dydd Llun 2 Medi 2024
Cyswllt

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau / pryderon, ffoniwch yr Uned Iechyd Galwedigaethol ar 01443 494003 neu e-bostio YmholiadauIechydaLles@rctcbc.gov.uk.

Disgrifiad

Mae'r Cyngor yn cefnogi ymgyrch Nabod eich Rhifau! y mis yma sy'n cael ei gynnal gan Blood Pressure UK.

Y thema eleni yw 'mae gennych chi'r gallu' - sydd yn ein hannog ni i gyd i fonitro ein pwysedd gwaed fel ein bod ni'n effro i’n lefelau pwysedd gwaed personol ac yn gallu gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol er budd ein hiechyd.

Wyddoch chi mai cael prawf pwysedd gwaed yw'r cam cyntaf i atal trawiad ar y galon a strôc?

Mae monitro pwysedd gwaed yn y cartref yn ffordd effeithiol a rhad o gadw pwysedd gwaed dan reolaeth, ac mae rhagor o dystiolaeth sy’n ategu hyn yn dod i’r amlwg yn barhaus. 

Mae'r Uned Iechyd Galwedigaethol hefyd yn cynnal clinigau drwy gydol mis Medi lle bydd modd profi’ch pwysedd gwaed a thrafod y canlyniadau gydag un o'n nyrsys.

Ymunwch â ni yn un o'r clinigau canlynol: 

  • 2 Medi 12pm–4.30pm Ysgol Garth Olwg, CF38 1DX
  • 4 Medi 1pm–3pm Tŷ Elái Elai, CF40 1NY
  • 6 Medi 9am-4.30pm: Adeiladau'r Cyngor, Pontypridd, CF37 2DP

Byddwn ni hefyd yn mynychu'r Sesiynau Gwybodaeth i Reolwyr os hoffech chi wirio’ch pwysedd gwaed bryd hynny: 

  • 17 Medi 9.30am - 1.30pm: Llys Cadwyn, CF37 4TH
  • 20 Medi 9.30am - 1.30pm: TBC

Nodwch, sesiynau galw heibio yw’r sesiynau yma, felly does dim angen cadw lle ymlaen llaw.  Dylai'r apwyntiad gymryd tua 5 munud.

Bwriwch olwg ar y wefan (mybloodpressure.co.uk) i gael rhagor o wybodaeth am bwysedd gwaed, neu mae modd lawrlwytho'r ap pwysedd gwaed AM DDIM i ddod o hyd i gyngor a chymorth.