Skip to main content

Noddwyr yr Achlysur

 

Noddwyr achlysur Nos Galan 2024

Cadwch lygad barcud am newyddion am noddwyr Nos Galan 2024 – mae eu cefnogaeth yn golygu bod modd i ni barhau i gynnal yr achlysur anhygoel yma yn Aberpennar.

Diolch i gwmnïau lleol mae Rasys Nos Galan yn llwyddiant flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Mae eu cefnogaeth yn golygu bod modd i ni groesawu miloedd o bobl i Aberpennar ar Nos Galan i fwynhau noson fythgofiadwy sy’n cynnwys ras elît, ras hwyl a ras i blant fythgofiadwy – yn ogystal â rhedwr dirgel enwog, tân gwyllt, hwyl i deuluoedd a llawer yn rhagor.

Wrth gwrs, canolbwynt y dathliadau yw Guto Nyth Brân, y chwedl. Credwyd, ar un adeg, mai fe oedd dyn cyflymaf y byd a allai redeg yn gynt nag ysgyfarnog a'i dal gyda'i ddwylo ei hun. Mae Rasys Nos Galan yn cael ei gynnal i anrhydeddu Guto, sydd wedi'i gladdu yn Eglwys Sant Gwynno yng nghoedwig Llanwynno.