Skip to main content

Ngŵyl Goffa Rhondda Cynon Taf

 
 
Lleoliad
Coliseum Theatre
Date(s)
Dydd Sul 6 Tachwedd 2022
Cyswllt
Events@rctcbc.gov.uk
Disgrifiad
Festival of Remembrance thmb

Y flwyddyn yma yng Ngŵyl Goffa Rhondda Cynon Taf bydd perfformiadau gan ddisgyblion talentog ifainc a Cardiff Military Wives Choir. 

Am y tro cyntaf erioed, bydd yr achlysur pwysig a theimladwy, mewn partneriaeth â'r Lleng Brydeinig Frenhinol, yn cael ei gynnal yn Theatr y Colisëwm, Aberdâr, ddydd Sul 6 Tachwedd. 

Mae croeso cynnes i bawb o bob oed ddod i'r achlysur yma. Dewch i weld y perfformiadau milwrol sy'n dangos cefnogaeth tuag at y rhai sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, a'r rhai sydd dal i wasanaethu hyd heddiw.

 Bydd disgyblion o Ysgol Uwchradd y Pant, Pont-y-clun, yn arddangos eu hangerdd dros gerddoriaeth a chanu yn ystod yr achlysur. Yn draddodiadol, mae gan yr ysgol enw da ym maes perfformio, ac mae'r disgyblion talentog sy'n cynrychioli'r ysgol yn yr achlysur yn gyffrous dros ben i berfformio. Bydd yr achlysur yn cynnig cyfle i gofio'r rhai fu farw a'u haberthion am well dyfodol. 

Mae Cardiff Military Wives Choir yn perthyn i gymuned o gorau, gyda miloedd o fenywod ledled Y Deyrnas Unedig yn canu fel rhan o gôr gwragedd milwrol. Yr elusen Military Wives Choir sy'n gyfrifol am ddod â menywod sydd â chysylltiadau i'r lluoedd arfog at ei gilydd i ganu, rhannu'u profiadau a chefnogi ei gilydd. Mae'r côr wedi perfformio mewn nifer helaeth o achlysuron, yn cynnwys perfformio ar Ddydd Gŵyl Dewi ac yn ystod Gwasanaeth Cofio Cenedlaethol Cymru. 

Efallai'ch bod chi wedi gweld pwysigrwydd y côr gwragedd milwrol, y dalent a'r emosiwn wrth i'r côr ymddangos yn y gyfres deledu 'The Choir': Military Wives gyda Gareth Malone, a aeth yn ei blaen i ysbrydoli'r ffilm “Military Wives”,sy'n cynnwys perfformiad gan Kristen Scott-Thomas. Mae'r ffilm yn adrodd y stori o sut dechreuodd yr elusen. 

Yn rhan o'r achlysur, bydd hefyd berfformiadau gan Fanerwyr a Band y Lleng Brydeinig Frenhinol a Band Catrodol y Cymry Brenhinol. 

Bydd cyfle i'r gynulleidfa gydganu yn ystod yr achlysur. 

Nid yn unig gwledd o gerddoriaeth, canu a pherfformiadau milwrol sydd i’w gweld yn yr achlysur, mae  Gŵyl y Cofio hefyd yn weledol brydferth. Bydd y gynulleidfa'n mwynhau gweld lliwiau'r baneri, y gwisgoedd, ac wrth gwrs y foment ysblennydd wrth i'r pabïau gwympo o do Theatr y Colisëwm.

 Yr arweinydd corawl adnabyddus John Asquith fydd yn arwain y côr. Ac yntau’n wreiddiol o Gwm Rhondda, mae John wedi perfformio ym mhedwar ban byd ac mae'n hyfforddwr Rwsiaidd i'r Opera Cenedlaethol Cymru. Mae e wedi perfformio yn 'The Bards of Wales' yn ninas Budapest, Hwngari, Romania a'r UDA, gan hefyd chwarae rhan allweddol yng Ngŵyl y Cofio ers nifer o flynyddoedd.  

Mae Gŵyl y Cofio yn cael ei chynnal ddydd Sul, 6 Tachwedd yn Theatr y Colisëwm, Aberdâr rhwng 6pm a 6.30pm (drysau'n agor 6pm). Pris y tocynnau yw £7 ac maen nhw ar gael i'w prynu o Theatr y Colisëwm, neu drwy ffonio'r Swyddfa Docynnau ar 03000 040 444 neu ar-lein ar https://rct-theatres.co.uk/cy/

 

 

 

Submit An Event

Cysylltwch â ni

Carfan Achlysuron Rhondda Cynon Taf

Ebost: achlysuron@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 424123

Join us on Facebook
Join us on Twitter