Amser: 19:00 - 22:00
NOSON YNG NGHWMNI AL WORDEN
Peilot Modiwl RheoliApollo 15
Wedi'i gyflwyno gan Awyr Dywyll Cymru gyda chymorth CBS Rhondda Cynon Taf.
Ymunwch â ni am brofiad penigamp wrth i Gyrnol Al Worden, Peilot Modiwl Rheoli Apollo 15, ddod â'i sioe unigryw i Theatr y Colisëwm, Aberdâr, am 7.00pm, ddydd Llun 9 Hydref.
Mae Al Worden yn un o 24 o bobl sydd wedi teithio i'r Lleuad, ac yn un o saith dyn a gafodd eu dewis i lywio modiwl rheoli Apollo.
Bydd yr achlysur yn cael ei gyflwyno gan Nick Howes, Cyfarwyddwr Aerolite Europe a chyn-ysgrifenydd gwyddonol ar gyfer yr European Space Agency.
"Rydw i'n argymell eich bod chi'n cwrdd ag Al Worden! Mae ei bersonoliaeth, ei gyfeillgarwch a'i egni yn gwneud i'w atgofion ddod yn fyw. Roeddwn i'n teimlo fel fy mod i wedi bod i'r Lleuad gydag ef!"
Pris tocynnau yw £17.50, consesiynau £12.50. Mae tocynnau yn mynd ar werth ddydd Mawrth, 4 Gorffennaf o'r Swyddfa Docynnau. Prynwch docyn drwy ffonio 03000 040 444 neu ar-lein drwy fynd i www.rct-arts.co.uk. Rydyn ni'n argymell eich bod chi'n prynu tocynnau'n syth er mwyn osgoi cael eich siomi.
Bydd cyfle i brynu llyfrau a lluniau ar ôl y sioe, bydd Al Worden yn aros i'w llofnodi. Pris llyfr yw £30 a phris lluniau yw £10