Amser:- 12pm tan 4pm
Bydd y diwrnod yn dechrau am 11am gan ddadorchuddio hysbysfwrdd newydd tu allan i Ganolfan Adnoddau Tegfan, Aberdâr. Roedd y canolfan yn Ysbyty Milwrol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a gafodd ei redeg gan nyrsys Y Groes Goch.
Yn dilyn yr orymdaith bydd naid barasiwt wedi'i pherfformio gan dîm byd-enwog y Red Devils, Tîm Arddangos Catrawd Parasiwt Byddin Prydain @ 12:00, Yn ddibynnol ar y tywydd, , ac wedyn seremoni codi'r faner.
Bydd modd i ni i gyd ddathlu gwaith y Lluoedd Arfog gyda llawer o hwyl ac atyniadau i'r teulu cyfan o gwmpas Parc Aberdâr.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn parhau i goffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r Cyngor hefyd yn falch o’r Cyfamod Cymunedol. Mae’n dangos ymrwymiad at gyn-aelodau ac aelodau presennol y Lluoedd Arfog a’u teuluoedd, boed yn gymorth ariannol neu arwain y ffordd at wasanaethau cymorth.
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch achlysuron@rhondda-cynon-taf.gov.uk neu ffoniwch 01443 424123
Parcio AM DDIM ar gael yn Coleg y Cymoedd, Cwmdare Road, CF44 8ST, a Theatr y Colisëwm, Aberdâr, CF44 8NG – y ddau’n agos i Barc Aberdâr. Mae cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus yn dda ac mae arosfannau bysiau lleol yn dafliad carreg o’r mynedfeydd.