Skip to main content

Eisteddfod Genedlaethol 2024

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru, un o wyliau diwylliannol mwyaf Ewrop, yn ymweld â Rhondda Cynon Taf ym mis Awst.

Helpwch ni i 'Harddu' ein strydoedd, pentrefi a threfi ac estyn croeso cynnes i'r Eisteddfod gan bobl Rhondda Cynon Taf. Mae modd i ysgolion, trigolion, grwpiau cymuned, a chartrefi gofal fynd ati - beth am greu baneri hardd, cerfluniau trawiadol, crefftau lliwgar neu arwyddion difyr i'w harddangos?

Bydd angen caniatâd gan y Cyngor i osod rhai addurniadau. Llenwch ein ffurflen i wirio a yw hyn yn berthnasol i chi.

 

Gwybodaeth am Deithio i'r Achlysur

Cyrraedd yr Eisteddfod a'i gadael.

Gwybodaeth am Deithio'n Lleol

Newidiadau o ran teithio i drigolion a chymudwyr.

Cyfryngau Cymdeithasol

Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf am deithio.

Map Teithio

Gwybodaeth am deithio a thrafnidiaeth yn ystod yr achlysur.

Pethau i'w gwneud yn Rhondda Cynon Taf

Mae gan Rondda Cynon Taf dirwedd anhygoel sy'n cynnwys atyniadau a phethau i'r teulu cyfan eu gwneud.

Ymweld â Rhondda Cynon Taf

Mae Rhondda Cynon Taf, sy'n drysor cudd yn Ne Cymru, yn cynnig anturiaethau a phrofiadau i bawb.

Eisteddfod 2024

Ewch i wefan swyddogol yr Eisteddfod.

 

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol  yn ddathliad o ddiwylliant Cymreig, cymysgedd o gystadlaethau talent a chyngherddau gyda'r nos, gigiau, dramâu, arddangosfeydd a llawer yn rhagor. Mae hi'n ŵyl ar gyfer y teulu oll, sy'n annog pawb (siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg fel ei gilydd) i brofi'r cyfuniad unigryw o gystadlu ac adloniant byw. Mae’r Eisteddfod yn achlysur cynhwysol sy’n croesawu pawb, ni waeth beth fo’ch sgiliau Cymraeg. Mae rhywbeth at ddant pawb ar y Maes!

Gallwch chi ddysgu rhagor am yr Eisteddfod a beth i'w ddisgwyl ar y Maes drwy glicio ar y ddolen isod: Canllawiau'r Eisteddfod Genedlaethol

Pwyllgorau Apêl Lleol

Mae Pwyllgorau Apêl Lleol bellach wedi cael eu sefydlu yng nghymoedd Rhondda, Cynon a Thaf-elái, ac mae gwirfoddolwyr lleol wedi bod yn cwrdd er mwyn codi ymwybyddiaeth am yr Eisteddfod a thrafod syniadau am weithgareddau cymunedol ledled Rhondda Cynon Taf. Dyma gyfle gwych i'ch clwb, ysgol neu'ch sefydliad CHI i gymryd yn rhan yn y paratoadau i ddathlu'r Eisteddfod. Mae holl gyfarfodydd y pwyllgorau'n ddwyieithog ac mae croeso cynnes i unrhyw un ymuno, e-bostiwch  eisteddfod2024@rctcbc.gov.uk am ragor o wybodaeth!

Noddi

Mae noddi neu gyfrannu gwobr yn yr Eisteddfod yn ffordd wych o gefnogi'r pwyllgorau apêl lleol drwy gydnabod unigolyn, busnes neu sefydliad yn gyhoeddus. Mae rhestr o Wobrau'r Eisteddfod i'w gweld yma. Bydd pob ceiniog yn cael ei defnyddio er mwyn cynnal yr ŵyl ac mae'r Eisteddfod yn ddiolchgar iawn am bob cyfraniad.

Dysgu'r Gymraeg

Os ydych chi'n dysgu Cymraeg, ddim wedi'i ddefnyddio ers tro neu wedi bod yn ystyried dechrau dysgu, does dim lle gwell i ymarfer na'r Eisteddfod! Sicrhewch eich bod chi'n ymweld â Maes D (pentref dysgwyr Cymraeg yr Eisteddfod) yn ystod eich amser ar y Maes er mwyn dod o hyd i gwrs sy'n gweithio i chi.

Mae ystod eang o gyrsiau dysgu Cymraeg ar gael yn lleol gyda Dysgu Cymraeg, ac mae modd i chi ddod o hyd i restr o foreau coffi Cymraeg ar dudalen gweithgareddau Menter Iaith Rhondda Cynon Taf lle mae modd i chi ddefnyddio eich sgiliau Cymraeg mewn amgylchedd anffurfiol.