Skip to main content

Cyrraedd yr Ŵyl

Mae Eisteddfod 2024 yn cael ei chynnal ar safle hardd Parc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, lle cafodd yr anthem genedlaethol, Hen Wlad Fy Nhadau, ei chyfansoddi bron i 200 o flynyddoedd yn ôl.

Mae cymaint i'w wneud a'i fwynhau yn y dref a'r Fwrdeistref Sirol ehangach, gan gynnwys mynediad arbennig i atyniadau sydd wedi ennill gwobrau ar gyfer Eisteddfodwyr. Rhagor o wybodaeth yma:

Mae Eisteddfod 2024 yn cael ei chynnal yng nghanol tref felly mae hi'n mynd i fod yn ŵyl wahanol a threfol.

Er bod modd cyrraedd atyniadau Pontypridd, gan gynnwys bwytai, siopau a mannau cymdeithasu gwych, ar droed o'r Maes, dyma ychydig o wybodaeth allweddol am sut i gyrraedd yr ŵyl a theithio o gwmpas yr ardal leol.

 

Argymhellion ac Awgrymiadau Teithio

  1. Trefnwch eich trafnidiaeth a'ch llety ymlaen llaw a defnyddiwch opsiyniau trafnidiaeth cynaliadwy os oes modd.  Nodwch: Mae galw mawr am lety lleol felly ewch ati i drefnu llety yn gynnar.
  2. Cynlluniwch eich taith trwy Traveline Cymru (chwiliwch am 'Eisteddfod') a darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf ar y cyfryngau cymdeithasol. Bwriwch olwg ar y rhestr o gyfrifon cyfryngau cymdeithasol arferol yma.
  3. Os ydych chi'n byw yn lleol, beiciwch, cerddwch neu defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus. Mae disgwyl i'r ffyrdd fod yn brysurach na'r arfer.
  4. Os ydych chi'n teithio o bell, arhoswch yn lleol a gwnewch y mwyaf o'ch ymweliad. Trefnwch lety nawr i osgoi cael eich siomi.  Bwriwch olwg ar faes gwersylla'r achlysur neu lety lleol arall. Os ydych chi'n gyrru, defnyddiwch y cyfleusterau parcio a theithio am ddim (7am - 12am). Does dim maes parcio ger safle'r wŷl felly defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus. Rhannwch gar os oes modd!
  5. Bydd y trên yn ddewis cyfleus ond mae disgwyl i wasanaethau i Bontypridd fod llawer yn brysurach na'r arfer. Cofiwch ganiatáu rhagor o amser ar gyfer eich taith a phrynu tocyn ymlaen llaw er mwyn osgoi ciwiau mewn gorsafoedd/ger peiriannau tocynnau. Prynwch docyn nawr.
  6. Dewch i'r ardal cyn yr achlysur ac aros ar ôl iddo ddod i ben er mwyn manteisio ar yr hyn sydd gyda'r Eisteddfod a Phontypridd i'w gynnig. Mae'r Maes yn agor am 8am felly mae modd osgoi adeg brysuraf y bore. Ar ddiwedd eich ymweliad, ceisiwch osgoi gadael yn ystod yr adegau prysuraf (4pm-7pm ac ar ôl 10pm) er mwyn osgoi oedi diangen. Gwiriwch amser y trên/bws olaf, gan gynnwys bysiau gwennol i'r cyfleusterau parcio a theithio, ymlaen llaw.
  7. I gael gwybodaeth ychwanegol am yr achlysur, gan gynnwys gwybodaeth am bethau y mae modd i chi fynd â nhw, a phethau nad oes modd i chi fynd â nhw, i'r ŵyl ar wefan yr Eisteddfod.

Cyrraedd Pontypridd

Mae'r Eisteddfod mewn lleoliad hawdd ei gyrraedd.  Defnyddiwch yr wybodaeth isod i gynllunio'ch taith a defnyddiwch opsiynau trafnidiaeth cynaliadwy lle bo modd.

Trên

Mae modd cerdded o Orsaf Drenau Pontypridd i'r Maes (5 munud) ac i safle Maes B (25 munud). Cynlluniwch eich taith ar y trên trwy Traveline Cymru (chwiliwch am 'Eisteddfod').

Mae modd dal trenau uniongyrchol o orsaf Caerdydd Canolog i Ferthyr Tudful, Aberdâr a Threherbert, gyda phob un o’r rhain yn galw ym Mhontypridd.

Os ydych chi’n bwriadu teithio i Bontypridd o ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr, Ynys y Barri neu Rhymni, bydd angen i chi newid yng ngorsaf Caerdydd Heol y Frenhines neu yng ngorsaf Caerdydd Canolog.

Chwiliwch am drenau i Ferthyr Tudful, Aberdâr neu Dreherbert – mae’r rhain oll yn galw ym Mhontypridd.

Os byddwch chi’n teithio o orsaf Caerdydd Heol y Frenhines neu Fae Caerdydd, bydd modd i chi hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth uniongyrchol newydd o’r Bae i Bontypridd. Mae gorsafoedd Trefforest a Threhafod yn weddol agos at y safle hefyd.

Darperir sawl trên yr awr ar wasanaethau llinellau’r Cymoedd yn ystod penwythnosau a gyda’r nos ar nosweithiau Sadwrn. Cadwch lygad am yr wybodaeth ddiweddaraf – mae’n bosibl y bydd yr amserlenni yn newid rhywfaint cyn yr achlysur.

Prynwch eich tocyn yma.

Bws

Mae gwasanaethau bysiau lleol a rhanbarthol yn teithio trwy ardal Pontypridd. Mae modd i chi gynllunio'ch taith ar fws trwy Traveline Cymru (chwiliwch am ‘Eisteddfod’).

Y cwmnïau bws lleol yw Adventure Travel, Edwards Coaches, Harris Coaches a Stagecoach ynghyd â Rhwydwaith TrawsCymru T4, a T14.

O'r tu allan i'r ardal leol, mae modd cyrraedd Pontypridd yn uniongyrchol o Ben-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful a Blaenau Gwent.

Cofiwch fynnu’r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd – mae’n bosibl bydd yr amserlenni yn newid.

Cerdded a Beicio

Os ydych chi'n byw neu'n aros yn lleol, ystyriwch gerdded neu feicio i Barc Coffa Ynysangharad gan ddefnyddio'r llwybrau cerdded a beicio penodol o gwmpas y dref.

Mae Llwybr Taith Taf, sy'n dilyn glannau'r Afon Taf o Gaerdydd i Bontypridd ac sy'n cysylltu â threfi cyfagos, yn llwybr cerdded/beicio gwych. Os ydych chi'n mynd â'ch beic ar y trên neu'r bws, gwiriwch gyda'r gweithredwr ymlaen llaw a fydd lle i'ch beic.

Bydd hi'n cymryd llai na 5 munud i chi gerdded o Orsaf Drenau Pontypridd i'r Maes, a llai nag 20 munud o'r Maes i safle Maes B. Gweler y map isod am lwybrau cerdded allweddol.

Rydyn ni wrthi'n cadarnhau lleoliad cyfleuster parcio beiciau ar gyfer yr achlysur (dewch yn ôl i gael rhagor o wybodaeth).

Bydd llwybrau beicio ar gael o safle cyfleuster parcio a theithio deheuol yr achlysur (Y Ddraenen-wen) felly os ydych chi'n dymuno dod â'ch beic gyda chi, mae'n ffordd wych o gyrraedd yr ŵyl.  Mae angen cadw lle mewn cyfleuster parcio a theithio ymlaen llaw er mwyn osgoi cael eich siomi. Rhagor o wybodaeth yma.

 

Car

Nodwch nad oes maes parcio ar gyfer yr achlysur yn agos i'r Maes, ac eithrio maes parcio i bobl anabl. Defnyddiwch y cyfleusterau parcio a theithio am ddim. 

(Mae’r ddolen yma’n mynd â chi i wefan yr Eisteddfod lle bydd modd i chi gymryd rhan mewn archwiliad o’r galw am leoedd parcio a theithio. Bydd llenwi’r ffurflen yn ein helpu ni i gynllunio ymlaen llaw a rhagweld y galw.)

Mae disgwyl i'r ffyrdd o gwmpas ardal Pontypridd fod yn brysurach na'r arfer yn ystod yr wythnos. Rydyn ni'n eich cynghori chi i beidio â gyrru i mewn i ganol y dref. Os ydych chi'n byw neu'n aros yn lleol, beiciwch, cerddwch neu defnyddiwch y bysiau lleol.

Os ydych chi'n teithio o bell a does dim modd i chi ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, rydyn ni'n eich cynghori chi'n gryf i ddefnyddio cyfleusterau parcio a theithio am ddim yr achlysur a rhannu car lle bo modd.

Mae disgwyl i’r ddarpariaeth fod yn boblogaidd. Cliciwch yma i fynegi’ch diddordeb mewn parcio a theithio er mwyn ein helpu ni i gynllunio a rhagweld y galw.

Cyfleusterau Parcio a Theithio

Rhannwch gar a defnyddiwch gyfleusterau parcio a theithio am ddim yr achlysur.

Mae’r ddolen yma’n mynd â chi i wefan yr Eisteddfod lle bydd modd i chi gymryd rhan mewn archwiliad o’r galw am leoedd parcio a theithio. Bydd llenwi’r ffurflen yn ein helpu ni i gynllunio ymlaen llaw a rhagweld y galw.

Does dim mannau casglu/gollwng penodol ar gyfer yr achlysur ger safle yr ŵyl. Peidiwch â gyrru i mewn i ganol tref Pontypridd.

Mae dau gyfleuster parcio a theithio (i'r gogledd ac i'r de o Bontypridd). Bydd amseroedd penodol y gwasanaeth parcio a theithio yn cael eu cadarnhau'n fuan, ond mae'n debygol o fod ar gael rhwng 7am-12am. Bydd bysiau gwennol yn teithio'n aml rhwng y meysydd parcio a'r Maes (a hynny'n ddi-stop).

Dylech chi gofrestru’ch diddordeb yn y ddarpariaeth parcio a theithio nawr:

  1. Penderfynu pa gyfleuster parcio a theithio sydd orau i chi (gweler yr isod).
  2. Meddwl am y diwrnodau/amseroedd y bydd angen i chi gadw lle ar eu cyfe
  3. Dylech chi gofrestru’ch diddordeb yn y ddarpariaeth parcio a theithio nawr.
  4. Cynlluniwch eich taith trwy ddefnyddio'r manylion isod. Cofiwch ganiatáu rhagor o amser gan fod disgwyl i ffyrdd lleol fod yn brysur iawn.
  5. Cofio pa gyfleuster parcio a theithio rydych chi wedi ei ddewis ac edrych am arwyddion wrth i chi gyrraedd yr ardal.
  6. Cofio amser y bws olaf yn ôl i'ch maes parcio – mae modd gofyn i'r gyrrwr ar eich ffordd i'r ŵyl os nad ydych chi'n siŵr.
  7. Dyma obeithio y byddwch chi'n cyrraedd yn ddiogel!
Dylech chi gofrestru’ch diddordeb yn y ddarpariaeth parcio a theithio nawr.

Nodwch: Fydd llenwi’r ffurflen ddim yn gwarantu lle i chi, ond bydd hyn yn helpu’r trefnwyr i sicrhau bod digon o le i bawb.. Mae rhagor o wybodaeth am gadw lle mewn cyfleuster parcio a theithio ar gael trwy ffonio canolfan alwadau'r Eisteddfod ar 0845 4090 900.

Bydd gwasanaethau parcio a theithio ar gael o ddydd Sadwrn 3 Awst tan ddydd Sadwrn 10 Awst 2024 o'r lleoliadau canlynol ar y ffordd i Bontypridd:

  • Os ydych chi'n teithio o ardal Merthyr Tudful/o'r gogledd, defnyddiwch gyfleuster parcio a teithio y gogledd (Abercynon). Cod post: CF45 4UQ. Dewch oddi ar yr A470 gan ddefnyddio slipffordd ymadael Abercynon a dilynwch arwyddion yr achlysur. Bydd taith y bws (di-stop) i'r ŵyl yn cymryd 20 munud, gan ddibynnu ar amodau traffig. Defnyddiwch y cyfleuster parcio a theithio yma os oes gyda chi ofynion hygyrchedd.
  • Os ydych chi'n teithio o Gaerdydd/o'r de, defnyddiwch gyfleuster parcio a theithio y de (Y Ddraenen-wen). Cod post: CF37 5AL. Dewch oddi ar yr A470 gan ddefnyddio'r slipffordd ymadael gyntaf ar gyfer Pontypridd a dilynwch arwyddion yr achlysur. Bydd taith y bws (di-stop) i'r ŵyl yn cymryd 20 munud, gan ddibynnu ar amodau traffig.
  • Os ydych chi'n teithio o gyfeiriad arall, osgowch yrru trwy ardal Pontypridd. Defnyddiwch y llwybr amgen gorau i un o'r cyfleusterau uchod a dilynwch arwyddion yr achlysur.

Tacsis

Mae trefniadau ar gyfer tacsis wrthi'n cael eu cadarnhau. Bydd manylion yn cael eu rhannu'n fuan.

Beiciau modur

Fydd dim meysydd parcio penodol i feiciau modur ar safle'r achlysur. Defnyddiwch gyfleusterau parcio a theithio.

Hygyrchedd

Dyma gynghori pobl â gallu cyfyngedig i symud sy'n teithio mewn car i ddefnyddio cyfleuster parcio a theithio y gogledd (Abercynon) lle bydd cerbyd â llawr isel yn mynd â chi i'r ŵyl. Gweler yr adran parcio a theithio am ragor o wybodaeth am gadw lle.

Os ydych chi'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, gwiriwch drefniadau gyda'r gweithredwr unigol.

Cyngor o Ran Teithio i Eraill

Os ydych chi'n cystadlu, yn masnachu neu'n perfformio, bydd pecynnau gwybodaeth yn cael eu hanfon atoch chi'n uniongyrchol gan aelodau o garfan yr Eisteddfod.