Skip to main content

Newidiadau Teithio Lleol - Gwybod beth i'w ddisgwyl

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn ymweld â Rhondda Cynon Taf o 3-10 Awst, gyda 160,000 o ymwelwyr yn heidio i Faes Parc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, yn ystod yr achlysur. Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn helpu'r Eisteddfod i gynnal yr ŵyl.


Mae'r Eisteddfod wedi bod yn gweithio'n agos gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf a phartneriaid eraill i sicrhau bod yr achlysur yn cael ei gynnal mewn modd diogel ac effeithiol, gan darfu cyn lleied â phosibl ar drigolion lleol.

Mae’r wybodaeth yma ar gyfer pobl sy’n byw ac yn gweithio yn ardal yr Eisteddfod, neu'n teithio drwy Bontypridd. Mae modd i'r bobl yma gynnwys:

  • Trigolion ac Ymwelwyr
  • Busnesau a'u cwsmeriaid/contractwyr/asiantau dosbarthu.
  • Gweithwyr a chymudwyr.
  • Y rheiny sy'n bwriadu teithio i/drwy dref Pontypridd yn ystod yr Eisteddfod, ond sydd ddim yn bwriadu ymweld â'r ŵyl.

Ein prif nod yw sicrhau bod modd i chi dderbyn yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi er mwyn gwneud penderfyniadau o ran teithio a thrafnidiaeth yn ystod yr ŵyl. Bydd hyn yn eich helpu chi i gynllunio'ch taith os oes angen i chi fynd i'r gwaith, siopa neu gymdeithasu. Mae gwybodaeth i'r rhai sy'n chwilio am gyngor o ran teithio i'r Eisteddfod ar gael yma.

Rydyn ni wedi nodi amseroedd, dyddiadau a lleoliadau pwysig sy’n debygol o fod yn brysurach nag arfer o ran cerddwyr, pobl mewn cerbydau neu ddefnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus.

Rydyn ni hefyd wedi amlinellu lleoliadau, cyfleusterau a gwasanaethau a fydd, o bosibl, yn newid eu trefniadau arferol yn ystod yr ŵyl. Felly, gallwch wirio hyn ymlaen llaw a gwybod beth i'w ddisgwyl.

Os ydych chi'n bwriadu mynd i’r Eisteddfod, cofiwch fod trefniadau arbennig ar eich cyfer, megis dau gyfleuster Parcio a Theithio pwrpasol. Mynnwch olwg ar yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â chyrraedd yr achlysur.

Rydyn ni'n annog y rheiny sy'n ymweld â’r Eisteddfod i beidio â defnyddio meysydd parcio yng nghanol y dref, oni bai am barcio hygyrch, gan y byddan nhw'n brysur iawn ac yn angenrheidiol ar gyfer pobl sy’n gweithio neu’n ymweld â chanol y dref ar gyfer apwyntiadau.

Dyddiadau Pwysig

Mynnwch olwg ar Fap yr Eisteddfod am fanylion penodol o ran y lleoliadau

  • 31 Gorffennaf. Cau Parc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, yn ei gyfanrwydd. Cynhelir sesiwn olaf Lido Ponty rhwng 5.45pm a 7pm ar 30 Gorffennaf a bydd gatiau’r parc yn cau am 8.45pm y diwrnod hwnnw. Ar ôl hyn, fydd dim modd i'r cyhoedd na cherddwyr ddefnyddio'r parc o gwbl. Mae hyn yn cynnwys ardaloedd Chwarae'r Lido a Lido Ponty. Gweler y fideo yma.
  • 1 Awst - 11 Awst. Bydd maes parcio Heol y Weithfa Nwy (Gas Road) yn cael ei gyfyngu i ddeiliaid trwyddedau yn unig. Cysylltwyd â busnesau yr effeithir arnyn nhw yng nghanol y dref a bydd trwyddedau'n cael eu darparu lle bo angen busnes yn galw.
  • 3-10 Awst. Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ar safle Parc Coffa Ynysangharad.
  • 3-10 Awst. Dim ond cerbydau a ganiateir a fydd yn cael mynediad at Stryd y Taf o'r gyffordd â Stryd y Bont, a hynny rhwng 9am-1am. Bydd y Safle Tacsis yn ystod y dydd wedi'i leoli ar ben uchaf Stryd y Taf y tu allan i Lys Cadwyn (hen safle Canolfan Siopa Dyffryn Taf/Taff Vale). O 1am, bydd y safle tacsis gyda'r nos wedi'i leoli y tu allan i B&M ar Stryd y Taf.
  • 3-10 Awst. Bydd Pwll Nofio'r Ddraenen Wen yn cau fel bod modd darparu cyfleuster Parcio a Theithio'r Eisteddfod ar y safle.
  • 3-11 Awst. Bydd Maes Parcio Stryd y Santes Catrin yn cau i'r cyhoedd ac yn cael ei ddefnyddio yn faes parcio hygyrch yn ystod yr ŵyl. Bydd angen tocyn Eisteddfod a Bathodyn Glas arnoch chi er mwyn parcio yno.
  • 3-11 Awst. Dim mynediad i Lwybr Taith Taf trwy Barc Coffa Ynysangharad. Bydd angen dilyn llwybr amgen ar hyd Heol Pentrebach i gyrraedd Llwybr Taith Taf.
  • 6-10 Awst. Bydd Maes B ar safle oddi ar Heol Berw.
  • 9 Awst. Bydd cyngerdd Billy Joel yn cael ei gynnal yn y stadiwm yng Nghaerdydd, sy'n golygu y bydd mwy o bobl yn teithio i'r brifddinas ac yn ôl. Cofiwch wirio pa effaith y gallai hyn ei chael ar eich taith arfaethedig mewn bws, trên neu gar.
  • 12 Awst. Dyma pryd y bydd y gwaith sylweddol yn dechrau er mwyn tynnu isadeiledd yr Eisteddfod i lawr. Byddwn ni'n ailagor y parc cyn gynted ag y bydd hi'n ddiogel i ni wneud hynny ar ôl y dyddiad yma.

Lleoliadau Pwysig

Bydd lleoliadau ym Mhontypridd a’r cyffiniau yn gweld cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy’n ymweld â’r ardal i fynychu’r Eisteddfod a threulio amser ym Mhontypridd.

Efallai y byddwch chi'n sylwi ar y canlynol:

  • Rhagor o gerddwyr a cherbydau yn nhref Pontypridd
  • Busnesau lleol yn newid eu horiau gwaith er mwyn darparu ar gyfer ymwelwyr ychwanegol a manteisio ar nifer yr ymwelwyr sydd wedi dod i'r Eisteddfod
  • Cyfyngiadau traffig yng nghanol y dref er mwyn cadw ymwelwyr â’r dref yn ddiogel a helpu'r Eisteddfod i fynd rhagddi'n ddidrafferth.

Cadwch y pethau yma mewn cof a pheidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd eich trefn arferol yn aros yr un fath. Gwiriwch unrhyw wybodaeth ymlaen llaw lle bo modd.

Mynnwch olwg ar y rhestr isod neu ar y map.

  • Parc Coffa Ynysangharad (Maes yr Eisteddfod)
  • Y ffyrdd o amgylch Parc Coffa Ynysangharad ac ardal ehangach Pontypridd
  • Tir rhwng Heol Berw ac Afon Taf (maes gwersylla a Maes B)
  • Cyfleuster Parcio a Theithio Trafnidiaeth Cymru yn Abercynon, sy'n bodoli eisoes
  • Tir ger cyfleuster Parcio a Theithio Abercynon (parcio a theithio ar gyfer yr achlysur)
  • Pwll Nofio'r Ddraenen Wen (parcio a theithio ar gyfer yr achlysur)
  • Maes Parcio Stryd y Santes Catrin, Pontypridd (maes parcio hygyrch)
  • Campws Glyn-taf Prifysgol De Cymru (parcio a llety ar gyfer staff yr achlysur a masnachwyr)
  • Maes Parcio Heol y Weithfa Nwy, Pontypridd (ardal isadeiledd yr achlysur)
  • Stryd y Taf, Pontypridd (prif dramwyfa drwy'r dref)
  • Gorsaf Drenau Pontypridd
  • Gorsaf Fysiau Pontypridd
  • Y Muni (lle bydd rhai achlysuron)
  • Yma (lle bydd rhai achlysuron)
  • Llwybr Taith Taf yn arwain o ogledd a de Parc Coffa Ynysangharad

Amseroedd Pwysig

Mae disgwyl i rai adegau o’r dydd fod yn brysurach nag arfer tra bod yr Eisteddfod yn ei hanterth rhwng 3 a 10 Awst.

Mae lleoedd yn debygol o fod yn brysurach drwy gydol yr Eisteddfod. Rydyn ni'n disgwyl i 160,000 o bobl ymweld â'r ardal yn ystod yr ŵyl. Bydd yr amseroedd yma'n brysur iawn rhwng 3 a 10 Awst:

  • 7am - 12am. Bydd gwasanaethau Parcio a Theithio'r Eisteddfod yn y Ddraenen Wen ac Abercynon ar waith yn ystod yr amseroedd yma.
  • 8am - 11am. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cyrraedd y Maes am y diwrnod rhwng yr amseroedd yma.
  • 4pm - 7pm. Mae llawer o bobl yn gadael y Maes rhwng yr amseroedd yma.
  • 10pm+. Bydd rhai o westeion yr Eisteddfod yn aros ar y Maes tan yn hwyrach (mae'r perfformiad olaf bob nos yn gorffen tua 10.15pm, ac mae'r bar olaf yn cau am 12.30am) neu'n symud ymlaen i leoliadau eraill ym Mhontypridd am y noson.

Yn ystod yr amseroedd yma:

  • Efallai y bydd ffyrdd, palmentydd, a thrafnidiaeth gyhoeddus ar bob llwybr i mewn ac allan o Bontypridd fod yn brysurach oherwydd bod rhagor o gerddwyr a cherbydau o gwmpas wrth i bobl deithio i'r Eisteddfod, y meysydd gwersylla neu'r arosfannau parcio a theithio.
  • Efallai y bydd mwy o alw am seddi a lle ar fysiau a threnau ar bob llwybr i mewn ac allan o Bontypridd.
  • Efallai y bydd ciwiau traffig neu oedi oherwydd niferoedd mawr o bobl mewn ceir, ar droed neu ar drafnidiaeth gyhoeddus sy'n ceisio mynd i mewn neu allan o ardal benodol, megis y Maes, y maes gwersylla neu ddau leoliad Parcio a Theithio’r Eisteddfod.

Argymhellion ar gyfer Eisteddfod wych:

  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n darllen yr wybodaeth uchod eto, fel eich bod yn effro i'r dyddiadau, amseroedd a lleoliadau a pwysig, ac yn deall pa wasanaethau a allai gael eu heffeithio gan yr ŵyl. Mynnwch olwg ar y map defnyddiol o ardal yr Eisteddfod.
  • Gwiriwch y cyngor a'r wybodaeth benodol isod. Os ydych chi'n teithio mewn car, trên, bws, neu dacsi, mae gyda ni wybodaeth benodol ar eich cyfer.
  • Bydd Pontypridd a'r cyffiniau yn eithriadol o brysur yn ystod y cyfnod yma. Rydyn ni'n annog y rheiny sy'n ymweld â’r Eisteddfod i beidio â defnyddio meysydd parcio yng nghanol y dref, oni bai am barcio hygyrch, gan y byddan nhw'n brysur iawn ac yn angenrheidiol ar gyfer pobl sy’n gweithio neu’n ymweld â chanol y dref ar gyfer apwyntiadau.
  • Cofiwch y gallai lleoliadau a gwasanaethau rydych chi'n eu defnyddio fel arfer newid rhywfaint ar eu trefniadau. Gwiriwch hyn ymlaen llaw.
  • Cofiwch fod disgwyl i ffyrdd, trenau a bysiau sy'n teithio i Bontypridd, ac yn ôl, fod yn brysurach nag arfer. Dewch o hyd i wybodaeth fanwl yma.
  • Gwnewch nodyn o unrhyw achlysuron eraill sy'n digwydd y tu allan i'r ardal, megis cyngherddau yng Nghaerdydd ac Abertawe. Mae'r rhain yn aml yn effeithio ar gludiant yn y cymoedd, ac mae modd i'r effaith yma fod yn fwy sylweddol oherwydd yr Eisteddfod.
  • Cofiwch, fydd dim modd i chi ddefnyddio rhai o'r cyfleusterau rydych chi fel arfer yn eu defnyddio yn ystod yr wythnos, er enghraifft, Parc Coffa Ynysangharad, Maes Parcio Heol y Weithfa Nwy, Maes Parcio Stryd y Santes Catrin a Stryd y Taf (ynghyd â'r trefniadau parcio y tu allan i oriau prysur).
  • Os ydych chi o'r farn y bydd hyn yn effeithio ar eich cynlluniau, ystyriwch newid eich trefniadau arferol - newidiwch eich amser teithio i osgoi amseroedd prysur, neu beth am gerdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus?
  • Ystyriwch weithio gartref os oes modd, neu ofyn am addasu'ch oriau gwaith i osgoi teithio yn ystod amseroedd prysur.
  • Ystyriwch ddefnyddio ffyrdd sy'n osgoi'r ardal os nad oes angen i chi ymweld â'r dref. Bydd hyn yn eich atal chi rhag cael eich dal mewn tagfeydd, ac yn cadw'r rhwydwaith ffyrdd yn gliriach i'r rhai sydd angen ei ddefnyddio.
  • Cadwch mewn cysylltiad! Gofynnwch gwestiynau! Rhannwch yr wybodaeth! Mae gyda ni gyfrifon cyfryngau cymdeithasol pwrpasol o'r enw Gwybodaeth Deithio'r Eisteddfod. Bydd y Cyngor, a’i bartneriaid yn defnyddio'r rhain i rannu newyddion, argymhellion a rhagor:

Facebook: Gwybodaeth Deithio'r Eisteddfod

X @GDEisteddfod

 

Yn olaf, mae hwn yn gyfle sy'n codi unwaith mewn oes. Does dim Eisteddfod wedi bod yn Rhondda Cynon Taf ers 1956. Dyma gyfle i ni ddisgleirio a dangos yr angerdd a’r dalent anhygoel sydd gyda ni yma yn Rhondda Cynon Taf i Gymru a gweddill y byd.

Gwybodaeth bwysig, yn dibynnu ar sut rydych chi'n teithio fel arfer.

Car

  • Ystyriwch adael eich car gartref a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus . Bydd trafnidiaeth gyhoeddus yn gyflymach ac yn fwy hwylus os ydych chi'n teithio i Bontypridd neu drwy'r dref.
  • Os nad oes angen i chi yrru i mewn i Bontypridd neu drwy'r dref, ystyriwch ddefnyddio ffordd arall i gyrraedd pen eich taith.
  • Os ydych chi'n ymweld â'r Eisteddfod, peidiwch â defnyddio meysydd parcio yng nghanol y dref, oni bai eich bod chi'n gymwys i ddefnyddio'r maes parcio hygyrch. Bydd y meysydd parcio sydd ar gael yn brysur iawn a bydd angen cadw lleoedd ar gyfer pobl sy'n gweithio yn y dref neu'n ymweld â chanol y dref ar gyfer apwyntiadau.
  • Bydd cyfleuster Parcio a Theithio Abercynon Trafnidiaeth Cymru, sy'n bodoli eisoes, ar waith yn ôl yr arfer. Serch hynny, efallai y bydd yr ardal gyfagos yn brysurach gan y bydd maes parcio a theithio dros dro ar gyfer yr Eisteddfod hefyd yn gweithredu o safle cyfagos.   
  • Os oes rhaid i chi yrru, gwiriwch yr amseroedd a’r lleoliadau prysur – rhannwch lifft os oes modd.
  • Dydyn ni ddim yn disgwyl y bydd nifer fawr o ffyrdd yn cael eu cau yn ystod yr Eisteddfod, ond bydd newidiadau i drefniadau parcio a mynediad lleol, er enghraifft ym meysydd parcio Heol y Weithfa Nwy a Stryd y Santes Catrin, ac ar Stryd y Taf.
  • Gwiriwch yr wybodaeth am leoliadau pwysig yr Eisteddfod, gan gymryd yn ganiataol y byddan nhw'n brysurach nag arfer, gyda rhagor o draffig, cerddwyr a chymudwyr. Ystyriwch newid yn eich dull trafnidiaeth neu addasu'ch cynlluniau yn unol â hynny.
  • Mae rhannu car gyda ffrind neu gydweithiwr yn ffordd wych o rannu cost tanwydd a chael sgwrs wrth i chi fynd yn ôl ac ymlaen i’r gwaith – mae’n lleihau nifer y ceir ar y ffordd hefyd.
  • Cofiwch wirio beth sy'n digwydd y tu allan i Bontypridd, fel cyngerdd yn y stadiwm yng Nghaerdydd, a fydd yn cynyddu'r traffig a'r galw am barcio.

Trenau

  • Mae teithio ar y trên yn ddewis gwych. Gyda'i gilydd, mae hyd at 12 trên yr awr yn rhedeg drwy Bontypridd. Bellach, mae gwasanaethau rheilffordd amlach ar Fetro De Cymru, gydag 8 trên yr awr rhwng Caerdydd a Phontypridd, a gwasanaethau amlach i Aberdâr, Treherbert a Merthyr Tudful.
  • Cofiwch fod disgwyl mwy o alw am y gwasanaethau yma a bydd Gorsaf Drenau Pontypridd yn brysurach, yn enwedig yn ystod  amseroedd pwysig.
  • Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynyddu nifer y gwasanaethau min nos yn ystod yr achlysur, gyda chyfanswm o 11 trên ar ôl i'r Eisteddfod gau ei drysau bob nos (22:15), 7 yn fwy na'r arfer. Bydd gwasanaethau ychwanegol ar ddydd Sul 4 Awst hefyd. Mae modd i chi gael rhagor o wybodaeth a phrynu eich tocyn trên drwy fynd i wefan Trafnidiaeth Cymru.
  • Prynwch docynnau ymlaen llaw i osgoi ciwiau yn y gorsafoedd trên.
  • Os ydych chi fel arfer yn defnyddio Parcio a Theithio Abercynon i gymudo, bydd y cyfleuster ar agor ac ar waith yn ôl yr arfer. Serch hynny, cofiwch y gallai'r ardal gyfagos fod yn brysurach nag arfer gan y bydd maes parcio a theithio ar wahân ar gyfer yr Eisteddfod gerllaw.
  • Efallai y bydd amserlenni trenau yn newid yn ystod yr ŵyl – mynnwch y newyddion diweddaraf am hyn drwy ein cyfrifon Gwybodaeth Deithio'r Eisteddfod ar Facebook a X.
  • Ystyriwch achlysuron sy'n cael eu cynnal y tu allan i Bontypridd - bydd cyngerdd Billy Joel yn cael ei gynnal yn y stadiwm yng Nghaerdydd ar 9 Awst, sy'n golygu y bydd mwy o bobl yn dal y trên i'r brifddinas ac yn ôl drwy Bontypridd.
  • Defnyddiwch Traveline Cymru i gynllunio ymlaen llaw.

Bws

  • Mae’n bosibl y bydd amserlenni rhai bysiau yn newid ac y bydd gwasanaethau ychwanegol ar gael gyda'r nos. Efallai y bydd angen newid pa arosfannau a gaiff eu defnyddio yn ystod yr ŵyl hefyd er budd ymwelwyr ac i gefnogi isadeiledd yr Eisteddfod. Yn ystod yr Eisteddfod, bydd cwmnïau bysiau lleol yn cynnig gwasanaethau bysiau yn fwy aml ac yn hwyrach (bydd gwasanaethau ar ddydd Sul yn aros yr un fath). Ewch i wefan Traveline Cymru i fwrw golwg ar amserlenni bysiau a chynllunio eich taith.
  • Efallai y bydd gorsafoedd ac arosfannau bysiau yn brysurach nag arfer ar adegau teithio poblogaidd.
  • Er mwyn eich helpu chi i deithio, bydd Cynllun Uchafswm o £1 am Docyn Bws Un Ffordd yn cael ei ail-gyflwyno ledled Rhondda Cynon Taf rhwng 22 Gorffennaf a 1 Medi! Mae modd bwrw golwg ar yr holl fanylion a thelerau teithio yma.

Tacsis

  • Bydd y safle tacsis yn ystod y dydd ar Stryd y Taf yn parhau i fod ar waith y tu allan i Lys Cadwyn (hen safle Canolfan Siopa Dyffryn Taf/Taff Vale).
  • Bydd y safle tacsis gyda'r nos ar ben deheuol Stryd y Taf, y tu allan i B&M, ar waith unwaith y bydd y ffordd yn ailagor am 1am.

Cerdded a Beicio

  • Os ydych chi'n ddigon ffodus i fyw'n agos at yr achlysur, yna cerdded neu feicio yw'r opsiwn gorau i chi o ran ymweld â Phontypridd. Sylwch na fydd modd i chi gael mynediad at Barc Coffa Ynysangharad ar hyd Llwybr Taith Taf rhwng 3 a 11 Awst.
  • Darperir cyfleusterau storio beiciau diogel yn y ddwy brif fynedfa i Barc Coffa Ynysangharad (ger y pontydd cerdded). Mae'r lleoliadau i'w gweld ar ein map defnyddiol.

Mae tri phrif lwybr teithio llesol sy’n rhan o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol sy’n cysylltu â Chanol Tref Pontypridd.

  • NCN8 (Llwybr Taith Taf) - Mae hwn yn llwybr ar y ffordd ac oddi ar y ffordd sy'n darparu mynediad i Ganol Tref Pontypridd trwy Abercynon a Thrallwng yn y gogledd a Glyn-taf, Rhydfelen a Ffynnon Taf yn y de.
  • NCN4 – Mae hwn yn llwybr ar y ffordd ac oddi ar y ffordd sy’n darparu mynediad i Ganol Tref Pontypridd o ardal Trefforest/Pentre'r Eglwys ac ardal Llantrisant, ac yn ymuno â NCN881 i’r gorllewin o Ganol y Dref.
  • NCN 881/4 – Mae hwn yn llwybr ar y ffordd ac oddi ar y ffordd sy’n darparu mynediad i Ganol Tref Pontypridd o'r gorllewin, o gyfeiriad y Porth drwy Faes-y-coed.

Sylwch y bydd y rhan o NCN 4 ac 8 drwy Barc Coffa Ynysangharad ar gau i’r cyhoedd rhwng 2 a 12 Awst, ac mae llwybr arall ar gael drwy ddilyn Heol Ynysangharad a Heol Pentrebach.

Ewch i wefan Sustrans i gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r llwybrau yma.

Cyngor i'r Gymuned Fusnes

  • Dechreuwch gynllunio ymlaen llaw nawr i ddiogelu eich trefniadau busnes.
  • Gwiriwch yr amseroedd, dyddiadau a lleoliadau pwysig fel bod modd i chi ystyried yr effaith bosibl ar eich staff, cwsmeriaid neu gleientiaid.
  • Ewch ati i addysgu eich hunan a'ch staff am yr ŵyl, yr effaith bosibl arnoch chi a'r trefniadau traffig a thrafnidiaeth mae modd i chi eu rhoi ar waith.
  • Sicrhewch fod cwsmeriaid, gyrwyr dosbarthu, cyflenwyr a phartneriaid rheoli gwastraff yn effro i'r achlysur, y lleoliadau pwysig a'r amseroedd prysur. Gweithiwch gyda nhw i wneud trefniadau eraill.
  • Ystyriwch aildrefnu rhai arferion, fel trefnu bod gwastraff yn cael ei gasglu y tu allan i amseroedd prysur, neu hyd yn oed ar ôl yr achlysur.
  • Ystyriwch weithio gartref, neu ofyn i'ch staff wneud hynny (neu rhowch oriau dechrau/gorffen hyblyg ar waith). Bydd hyn yn golygu bod modd osgoi teithio yn ystod amseroedd prysur neu drwy ardaloedd prysur.
  • Gwiriwch yr amseroedd, dyddiadau a lleoliadau pwysig fel bod modd i chi ystyried yr effaith bosibl ar eich staff, cwsmeriaid neu gleientiaid.
  • Defnyddiwch ein map i ddysgu rhagor am ôl troed yr Eisteddfod a’r ardaloedd/lleoliadau sy’n debygol o gael eu heffeithio (cau, lleihau gwasanaethau, tagfeydd)
  • Manteisiwch i'r eithaf ar yr ŵyl a chysylltu gyda'r garfan Canol Trefi i gael cymorth o ran syniadau a deunyddiau hyrwyddo  fel bod modd i chi elwa ar y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr. Mae modd i'r garfan helpu'ch staff i ddysgu rhywfaint o Gymraeg hefyd!