Roedd penwythnos y Pasg yn nodi wyth wythnos ers y llifogydd yn Rhondda Cynon Taf. Roedd Storm Ciara yn gyntaf, ac wrth gwrs Storm Dennis, wedi achosi difrod sylweddol yn ein cymunedau.  Storm Dennis, o bell ffordd, oedd y digwyddiad tywydd mwyaf dinistriol i ni ei brofi mewn cenhedlaeth. Roedd glaw sylweddol ar gopaon ein cymoedd wedi achosi i bob un o'n tair afon dorri recordiau - rhai'n mynd yn ôl dros 40 mlynedd, gyda chanlyniadau dinistriol.

Ar hyd a lled ein Sir, roedd dros 850 o gartrefi a 450 o fusnesau wedi dioddef difrod mewnol o ganlyniad i'r llifogydd. Darparodd Cyngor, ar y cyd â'r gwasanaethau brys, gwirfoddolwyr, sefydliadau cymunedol a Llywodraeth Cymru, gymorth i'r rhai a gafodd eu heffeithio trwy nifer o fentrau. Roedd y rhain yn cynnwys y rheiny a wnaeth ymateb ar unwaith ar lawr gwlad, a mentrau eraill gan gynnwys y Grant Adfer Llifogydd Cymunedol - Taliad Caledi, a oedd yn cynnig pedair wythnos o brydau ysgol am ddim i blant ysgol a gafodd eu heffeithio. Hefyd, roedd Cyfradd Annomestig i fusnesau a gafodd eu heffeithio er mwyn lleddfu rhywfaint o’r pwysau tymor canolig.  Yn ychwanegol at y difrod a gafodd ei wneud i eiddo preifat, yr amcangyfrif diweddaraf o'r gost i'n seilwaith cyhoeddus yw £60 miliwn.  Mae hyn yn swm syfrdanol, gyda nifer o briffyrdd, waliau afonydd, cylfatiau a phontydd yn dioddef difrod sylweddol. 

Ein blaenoriaeth llwyr ni bellach o safbwynt yr Awdurdod Lleol yw ymateb i'r coronafirws, sydd wedi'i ddatgan yn argyfwng cenedlaethol. Serch hynny, rydw i am sicrhau'r rheiny a gafodd eu heffeithio gan y llifogydd ein bod ni'n parhau i ddyrannu cynifer o adnoddau â phosib er mwyn dal ati i wella ein mesurau diogelwch rhag llifogydd. Rydyn ni'n gwneud hyn drwy adolygu a dylunio cylfatiau cyn dechrau eu hailadeiladu a’u hadnewyddu nhw. Rydyn ni hefyd yn darparu cymorth grant i rai o'r rheiny sydd angen help i atgyweirio eu heiddo.

Does dim seibiant wedi bod i’n cymunedau dros y ddeufis diwethaf. Hyd yn hyn, mae 2020 wedi bod yn flwyddyn heriol a dweud y lleiaf!  Yn anffodus, rydyn ni eisoes yn gweld effaith y coronafirws ar ein cymunedau, gyda nifer yr achosion sydd wedi’u cadarnhau yn RhCT yn agos at 1,000 ar adeg ysgrifennu'r blog yma, a mwy na 1,600 o achosion ledled ardal ein bwrdd iechyd. Heb os, bydd hyn yn golygu y bydd rhai o'n trigolion erbyn hyn yn adnabod rhywun sydd wedi dal y firws. Yn anffodus, bydd rhai wedi colli anwyliaid a hoffwn fynegi fy nghydymdeimlad am eu colled.

Mae hwn yn gyfnod hollol newydd y ni, a dydy'r rhan fwyaf ohonon ni ddim wedi gweld ei debyg erioed o'r blaen. Serch hynny, mae'n gwbl hanfodol ein bod ni i gyd yn chwarae ein rhan trwy ddilyn cyngor y Llywodraeth sef i aros gartref, ac eithrio er mwyn teithio i'r gwaith pan fo gweithio gartref ddim yn bosibl, siopa am anghenion sylfaenol, casglu cyflenwadau moddion hanfodol, gofalu am berson bregus, neu wneud ymarfer corff dyddiol - ar eich pen eich hun neu gydag aelodau o'ch cartref.

Fel Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Cymru, rwy’n rhan o alwadau cynhadledd rheolaidd gydag Arweinwyr bob un o’r 21 Cyngor arall ledled Cymru, ynghyd â Gweinidogion Llywodraeth Cymru. Rydw i hefyd wedi ymuno â Grŵp Covid-19 Llywodraeth Cymru gyda Gweinidogion Cabinet Llywodraeth Cymru, Penaethiaid y GIG a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, a hefyd Prif Swyddog Gwyddonol Cymru, yn bwydo i mewn i drafodaethau ac yn sicrhau bod barn a materion Cynghorau ledled Cymru’n cael eu codi. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan mai Awdurdodau Lleol sydd â’r dealltwriaeth gorau o anghenion a gofynion y cymunedau lleol rydyn ni'n eu  gwasanaethu. Yn ogystal â hynny, rydw i hefyd yn mynychu rhithgyfarfodydd dyddiol gydag Uwch Garfan Arweinyddiaeth Rhondda Cynon Taf i sicrhau bod y camau a'r mesurau sydd ar waith yn lleol yn cyd-fynd â hyn, a rhoi cyngor ar unrhyw faterion cenedlaethol sy'n codi o ran ymateb Cymru gyfan. Fel Cyngor, mae RhCT yn dal i gynnal y mwyafrif helaeth o'i wasanaethau ond mae rhai yn cael eu darparu mewn ffordd wahanol. Mae ein carfanau Cyllid er enghraifft, wedi cymeradwyo a thalu dros £35.5 miliwn mewn grantiau cymorth busnes erbyn hyn, gyda staff y carfanau’n gweithio gartref.  Mae carfanau hefyd wedi’u hadleoli i gefnogi gwasanaethau eraill fel gwastraff ac ailgylchu, tra bod staff eraill yn helpu i gefnogi'r rhai ar y rhestr gysgodi a'r nifer fawr o bobl eraill sydd angen cefnogaeth ar gyfer siopa bwyd a chasglu meddyginiaethau. Cawsom siom ar yr ochr orau o ran parodrwydd staff y Cyngor i wirfoddoli ar gyfer yr ymgyrch yma. Mae ymroddiad ein staff gofal cymdeithasol wedi bod yn rhyfeddol ac rwy'n gwybod eu bod nhw'n gwneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi'r rheiny sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymuned.

Er gwaethaf yr adfyd yma, mae ein cymunedau wedi dangos gwytnwch anhygoel ac rydw i wedi gweld rhai enghreifftiau gwych o bobl yn dod at ei gilydd trwy gydol yr amseroedd anodd hyn. Un thema sy’n sicr wedi uno pobl yw ein gwerthfawrogiad o ymrwymiad ac ymroddiad gweithwyr y GIG a gweithwyr gofal cymdeithasol, yn ogystal â staff ein Cyngor, gwirfoddolwyr, y trydydd sector a'r staff rheng flaen ar draws pob sector sy'n parhau i ddarparu'r gofal, y gefnogaeth a gwasanaethau rydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw.  Hoffwn achub ar y cyfle yma i ddiolch i bob un ohonoch chi am y rôl rydych chi'n ei chwarae wrth gadw pobl yn ddiogel a darparu ar eu cyfer.

Byddwn hefyd yn dweud wrth y rhai sy'n poeni am ddyfodol ein heconomi leol a swyddi yn ein cymunedau bod gwaith eisoes ar y gweill, i edrych sut y bydd modd i ni roi hwb i'n heconomi leol gyda phecyn ysgogi, pan fydd hi’n ddiogel i ni wneud hynny.  Er y byddwn yn gobeithio y bydd y llywodraeth genedlaethol yn gwneud hyn i raddau helaeth, rwy'n sicr bod angen i ni yma yn RhCT adeiladu ar y buddsoddiad cyfalaf enfawr rydyn ni wedi'i wneud mewn ysgolion, trafnidiaeth, cynhaliaeth ychwanegol, cefnogaeth ganol tref, gwelliannau tir cyhoeddus a thai cymdeithasol, ynghyd â'r buddsoddiad sylweddol mewn seilwaith a gwaith rhag llifogydd yn dilyn y difrod a gafodd ei achosi yn ystod y stormydd.

Yn olaf, os gwelwch yn dda, cofiwch ganllawiau'r Llywodraeth - Aros Gartref, Diogelu'r GIG ac Achub Bywydau.

Wedi ei bostio ar 27/04/2020