Dydy storm Brexit ddim am gilio'n fuan ac mae'n deg dweud dyma brif fater gwleidyddiaeth Prydain ar hyn o bryd. Mae'n edrych yn debyg y bydd y trafodaethau yma am gael eu cofio fel cyfnod diffiniol yn ein cenhedlaeth ni.  Er bod barn y wlad yn amlwg wedi ei rhannu ar y ffordd ymlaen i bawb, mae awydd gyda ni i gyd i sicrhau bod penderfyniad pendant yn cael ei wneud yn y pen draw.

Er mai dim ond Brexit sydd ar flaen ein papurau newydd yn ddyddiol, mae'n hanfodol nad ydyn ni'n anghofio rhai o'r materion eraill sy'n ein hwynebu ni.  Dydy'r pwysau ariannol sydd ar awdurdodau lleol ddim mor amlwg ar gyfer 2019/20. Eto i gyd rhaid nodi bod y llymder ariannol y mae'r sector cyhoeddus wedi'i wynebu dal yn bodoli ac yn y nawfed flynedd yn olynnol o doriadau ychydig iawn o'r baich ariannol sydd wedi ei leddfu.  Felly mae'n gwbl hanfodol bod yr Adolygiad o Wariant a addawyd gan Lywodraeth y DU yn cydnabod hyn ac yn dyrannu'r arian angenrheidiol i awdurdodau lleol.

Mae Arweinwyr y Cyngor ar draws Prydain wedi galw dro ar ôl tro i gyfnod o lymder ariannol i ddod i ben ac maen nhw wedi dangos yn glir i Lywodraeth y DU yr effaith y bydd parhau â'r polisi yma'n cael ar wasanaethau rheng flaen allweddol fel gofal cymdeithasol ac addysg.

Felly, mae'n angenrheidiol bod yr Adolygiad yn osgoi'r opsiwn hawdd o amlinellu cynllun ar gyfer yr isafswm o flwyddyn ond yn hytrach ceisio darparu rhagolwg cynhwysfawr ar gyfer y tair blynedd nesaf. Bydd modd wedyn i ystod o adrannau a chyrff sector cyhoeddus gynllunio'n strategol yn unol â hynny.  Rhaid i Lywodraeth y DU hefyd sylweddoli hefyd bod darparu cyllid digonol ar gyfer llywodraeth leol yn hanfodol i leddfu'r pwysau ar wasanaethau eraill sydd â blaenoriaeth fel gofal iechyd.  Rwy'n rhagweld bydd unrhyw beth yn llai na hyn yn llethol i awdurdodau lleol - yn enwedig dros Glawdd Offa lle na fu elfen o ddiogelu o du Llywodraeth Cymru gan arwain at fethiant gwasanaethau statudol.  Rydyn ni eisoes wedi gweld hyn yn digwydd, yn enwedig yn Swydd Northampton.

Y gobaith yw y bydd Adolygiad o Wariant cadarnhaol, cynhwysfawr a blaengar yn caniatáu i awdurdodau lleol ddechrau buddsoddi mewn gwasanaethau er budd y cymunedau lleol, yn hytrach na gwneud toriadau.

Mae'n benwythnos Gŵyl y Banc ac fel arfer, mae gyda ni ddigonedd o bethau i'w gwneud ar draws Rhondda Cynon Taf.  O ddydd Sadwrn ymlaen, ar gyfer tymor yr haf, bydd ein prif atyniad, Lido Ponty, ar agor bob dydd tan ddydd Sul 1 Medi.  Rwy'n falch iawn o gyhoeddi bod Lido Ponty wedi ennill Tystysgrif Rhagoriaeth gan Trip Advisor yn ddiweddar am dderbyn adolygiadau rhagorol y mae'r cyfleuster yn ei dderbyn yn gyson.  Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud mai ein penderfyniad i fuddsoddi ynddo unwaith eto oedd y peth cywir i'w wneud ac mae'r cynnydd blynyddol yn nifer yr ymwelwyr yn awgrymu ei fod yn mynd o nerth i nerth.

Mae Gŵyl flynyddol Aberdâr hefyd yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn rhwng 11am a 5pm ym Mharc Aberdâr. Mae llwyth o bethau i'r teulu cyfan eu gwneud ac mae modd i chi gael digonedd o hwyl yna! Bydd y deinosor bach sydd wedi ei animeiddio, Little Al i'w weld yn ogystal â nifer o grwpiau cerddoriaeth teyrnged yn perfformio yna eleni  Os ydych chi'n bwriadu ymweld, yna beth am archebu lle i ddefnyddio'r cychod ar y llyn?

Os ydych chi'n chwilio am rywbeth ychydig yn fwy hanesyddol, yna beth am brofi blas o fywyd tanddaearol ar Daith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda? Mae'r atyniad yn parhau i fod yn ddewis poblogaidd yn ystod gwyliau'r ysgol ac mae amrywiaeth o weithgareddau a phethau hwyliog i'w gwneud ar y safle!

I'r rhai sy'n chwilio am olygfeydd hyfryd neu rywbeth mwy hamddenol, ewch i ymweld â Pharc Gwledig Barry Sidings neu Barc Gwledig hardd Cwm Dâr.  Mae golygfeydd epig i'w gweld yn y ddau barc a digonedd o gyfleoedd i archwilio cefn gwlad y Cymoedd.

Wedi ei bostio ar 24/05/19