Roeddwn i wrth fy modd yn ymweld â Chanolfan Hamdden Rhondda Fach yr wythnos ddiwethaf. Mae'r ganolfan newydd ailagor ar ôl gorffen gwaith adnewyddu'r cyfleuster a oedd yn rhan o fuddsoddiad £1 miliwn. Mae rhaid i fi ddweud bod yr offer a'r cyfleusterau heb eu hail.  Rydw i'n gobeithio y bydd preswylwyr a defnyddwyr y Ganolfan yn deall y bydd ein buddsoddiad yn ddatrysiad cadarnhaol hirdymor. Bydd hyn yn sicrhau bod modd i Ganolfan Hamdden Rhondda Fach fod yn gartref i gyfleuster o'r radd flaenaf sy'n cynnig cyfle ffitrwydd ehangach er mwyn diwallu anghenion y gymuned leol a defnyddwyr y Ganolfan.

Dyma gampfa fwyaf ein naw canolfan hamdden. Mae ganddi rai o'r unig offer o'r fath yng Nghymru.  Mae Canolfan Hamdden Rhondda Fach hefyd wedi derbyn hwb pellach ar ôl i'r ddau gae chwaraeon 3G, a oedd yn rhan o'r buddsoddiad, gael statws wedi'i gymeradwy gan yr IRB. Mae hyn yn golygu mai dyma'r unig gyfleusterau o'r fath yn y Cymoedd - ac un o'r ychydig o gyfleusterau yng Nghymru gyfan.  O ganlyniad i hyn, bydd modd i glybiau chwaraeon lleol fanteisio ar gyfleusterau hyfforddi o'r radd flaenaf trwy gydol y flwyddyn, beth bynnag fo'r tywydd. Rydw i'n siŵr y bydd y cyfleusterau yma yn boblogaidd iawn.

Er mwyn cyflawni ein nod o greu RhCT sy'n iach ac yn heini, rydyn ni hefyd wedi penderfynu dileu ffioedd ymuno a sefydlu o'n haelodaeth Hamdden am Oes i annog cynifer o bobl i ddechrau'r Flwyddyn Newydd yn y ffordd orau bosibl.  Rydyn ni hefyd yn cynnig sesiwn gyntaf am ddim i bobl nad ydyn nhw'n aelodau ym mhob un o'n canolfannau. Bydd modd iddyn nhw gael blas ar y cyfleusterau rydyn ni'n eu cynnig.  Mae gan ein haelodaeth Hamdden am Oes nifer o fanteision, megis mynediad i dros 300 o ddosbarthiadau a chwe phwll nofio ledled y sir. Mae'r aelodaeth wedi bod yn boblogaidd iawn dros y blynyddoedd diwethaf.  Byddwn i'n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd y cam cyntaf tuag at wella ei iechyd a lles i gael rhagor o wybodaeth yma.

Rydyn ni wedi parhau i fuddsoddi'n sylweddol mewn gwella ein cyfleusterau hamdden mewn cyfnod lle mae nifer o Awdurdodau Lleol eraill yn defnyddio cyfleusterau allanol neu'n gwneud toriadau. Mae'r buddsoddiad diweddar yng Nghwm Rhondda Fach yn adeiladu ar y gwelliannau wedi'u cynnal yng Nghanolfan Hamdden Llantrisant ym mis Ionawr 2018.  Rydyn ni hefyd wedi symud rhaglen o waith i adnewyddu ystafelloedd newid mewn tair canolfan, sef Pwll Nofio Bronwydd, Canolfan Hamdden Rhondda a Chanolfan Hamdden Abercynon, yn ei blaen. Mae'r canolfannau yma wedi elwa ar fuddsoddiad pellach i ailosod unedau trin aer ac awyru a chwblhau gwaith paentio llinellau newydd ar waelod y pwll yn gynharach yn y flwyddyn.  Bydd y rhaglen yn cael ei hymestyn cyn bo hir i ddarparu cyfleusterau newid gwell yng Nghanolfan Hamdden Sobell, Aberdâr, dros y misoedd sydd i ddod.

Wedi ei bostio ar 22/01/19