Mae'r daroganwyr tywydd yn rhagweld mai eleni fydd haf mwyaf cynnes Y Deyrnas Unedig ers 12 mlynedd. Rydyn ni'n nodi ei bod hi'n bwysig bod gan breswylwyr a theuluoedd fynediad i gyfleusterau hamdden awyr agored mor agos i'w cartref ag sy'n bosibl.

Dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi ceisio buddsoddi'n sylweddol yn y maes yma. Mae'n deg i ddweud bod ein dull ni o weithredu yn talu ar ei ganfed.  Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol yma, bydd dros 100 o fannau chwarae ar hyd a lled y Fwrdeistref yn elwa o fuddsoddiad y Cyngor yn rhan o gynllun #buddsoddiadRhCT. Cyfanswm y buddsoddiad fydd tua £3miliwn. Rydyn ni wedi cwblhau gwaith ar sawl safle yn ddiweddar, gan gynnwys ym Muarth-Y-Capel yn Ynys-y-bŵl, Pant-Y-Dderwen ym Mhont-y-clun, Parc Lewistown yn Nhrefforest a Pharc Treorci yng Nghwm Rhondda.  Byddwn ni hefyd yn cychwyn gwaith yn ardal Y Drenewydd yn Aberpennar, Brynna ac ym man chwarae Victoria Street, Trealaw dros yr wythnosau nesaf. Mae hyn yn dangos ein bod ni'n cyflawni ein hymrwymiad o ddarparu cyfleusterau chwarae o ansawdd da i blant a theuluoedd dros y Fwrdeistref.  Mae'n bwysig nodi bod y gwaith gwella mannau chwarae sydd wedi cael ei gynnal yn RhCT yn cyfrif am dros hanner y gwaith gwella yng Nghymru gyfan dros y tair blynedd diwethaf.

Mae ein buddsoddiad mewn mannau chwarae hefyd wedi cael ei ategu gan fuddsoddiad sylweddol i gyfleusterau hamdden, yn rhan o ymrwymiad a gafodd ei wneud gan y Cyngor y llynedd. Ers 2016, rydyn ni wedi buddsoddi miliynau o bunnoedd er mwyn darparu 9 cae chwarae 3G o'r radd flaenaf er budd y gymuned ar draws RhCT.  Rydyn ni hefyd yn gweithio ar 2 gynllun ychwanegol yn Ysgol Sirol Cymuned y Porth ac Ysgol Gymunedol Glynrhedynog. Rydyn ni'n parhau i fwrw ymlaen ag ein hymrwymiad i fuddsoddi a gwella'n cyfleusterau chwaraeon awyr agored. Ein bwriad ni yw sicrhau bod gan bob preswylydd gae 3G o fewn tair milltir o'i gartref, lle bynnag mae'n byw.  Byddwn ni hefyd yn cychwyn gwaith ar ddau gyfleuster awyr agored pellach yn Ysgol Gyfun Rhydywaun ac Ysgol Gyfun Bryncelynnog, yn ogystal â gosod arwyneb 3G dan do yng Nghanolfan Chwaraeon Cwm Rhondda Fach.

Mae hyrwyddo Bwrdeistref Sirol sy'n byw mewn modd iachus a heini yn flaenoriaeth ar gyfer y Cyngor. Rydyn ni wedi buddsoddi £3miliwn er mwyn datblygu trac athletau'r Ynys, Aberdâr.  Mae'r buddsoddiad yn rhan o becyn ehangach gwerth £67miliwn ar gyfer cynlluniau gwella addysg a hamdden yn Aberdâr. Ar ôl cwblhau'r cynllun gwaith yma, bydd gan Gwm Cynon gyfleusterau athletau o'r radd flaenaf. Es i i ymweld â'r safle yn ddiweddar ac roeddwn i'n falch o ba mor gyflym mae'r cyfleuster yma'n datblygu. Mae'r man eistedd bron wedi'i gwblhau a bydd y wyneb coch yn cael ei osod ar y trac athletau cyn bo hir.

Yn olaf, efallai eich bod chi wedi gweld bod Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty wedi bod ar y newyddion cenedlaethol yr wythnos ddiwethaf wrth i ITV ddarlledu'r adroddiad tywydd o'r cyfleuster. Lido Ponty yw'r unig Lido awyr agored wedi'i gynhesu yng Nghymru. Ers ailagor y cyfleuster yn 2016 yn rhan o fuddsoddiad gwerth £6.3miliwn, mae'r Lido wedi mynd o nerth i nerth. Roedden ni'n ffodus iawn i allu croesawu ymwelydd rhif 200,000 tra'r oedd ITV yn ffilmio. Mae'n deg i ddweud bod yr ystadegau'n dangos bod ailagor y cyfleuster yma wedi bod yn llwyddiant ysgubol.

Wedi ei bostio ar 19/06/18