Yn ystod cyfarfod y mis diwethaf, aeth y Cabinet ati i drafod adroddiad sy’n bwriadu codi cyfraddau ailgylchu ledled y Fwrdeistref Sirol wrth i'r Cyngor geisio parhau i adeiladu ar gyflawniad cadarnhaol y sir dros y blynyddoedd diwethaf.

Cafodd 64% o holl wastraff y sir ei ailgylchu ym mlwyddyn calendr 2016 ac yn ystod blwyddyn ariannol 2016/17 roedd RhCT ymhlith y 10 Awdurdod Lleol gorau yng Nghymru. Fodd bynnag, rhaid gwella os ydyn ni am fwrw targed Llywodraeth Cymru o 70% erbyn 2024/25. Mae'r Llywodraeth Cymru yn bwriadu rhoi dirwyon sylweddol i Awdurdodau sydd ddim yn cyrraedd y nod. Mewn cyfnod o gyni a chyllidebau sy'n parhau i leihau, rydyn ni'n awyddus iawn i osgoi'r sefyllfa yma.

Mae'r cynigion a gafodd eu hystyried gan y Cabinet yn bwriadu targedu'r unigolion hynny sydd ddim yn ailgylchu ar hyn o bryd. Bydd y Cyngor o hyd yn ceisio ymgysylltu â phreswylwyr a'u haddysgu nhw cyn rhoi unrhyw fath o ddirwy. Mae mwyafrif o breswylwyr y sir yn chwarae'u rhan o ran ailgylchu a fyddan nhw ddim yn sylwi ar y newidiadau yma. Mae'r cynigion yma'n dangos bod y Cyngor yn mabwysiadu dull synnwyr cyffredin o ran ailgylchu. Dydyn ni ddim am gosbi pobl sydd, er enghraifft, yn rhoi can diod mewn bag du mewn camgymeriad.

Fel rhan o'n cyfrifoldeb i osod cyllideb cydbwyso cyfreithiol, bydd y cyngor llawn cyn gynted ag ystyried opsiynau strategaeth gyllideb ar gyfer 2018/19. Mae hyn yn cynnwys cynnig i gynyddu'r dreth gyngor o 3.3%. Gan ystyried dangosyddion gan awdurdodau lleol eraill, eto mae'n debygol o fod ymysg y cynnydd lleiaf yng Nghymru. Rydyn ni'n effro i'r pwysau sydd ar bawb o ran materion ariannol. Dyma pam rydyn ni'n ceisio cadw unrhyw gynnydd o ran Treth y Cyngor mor isel â phosibl.

Mae adborth ymgynghoriad eleni wedi dangos bod preswylwyr yn fodlon cefnogi cynnydd isel i Dreth y Cyngor os yw hyn yn golygu bod gwasanaethau allweddol yn derbyn cymorth. Mae ein dull ni yn ceisio sicrhau ein bod ni'n amddiffyn Gwasanaethau Rheng Flaen gwerthfawr rhag cyni parhaus yn y sector gyhoeddus.

Byddai'r gyllideb arfaethedig yn sicrhau buddsoddiad pellach gwerth £2miliwn mewn ysgolion. Mae hyn yn dyblu'r swm rydyn ni eisoes wedi ymrwymo i'w ddarparu.

Yn ddiweddar, cytunodd y Cabinet mewn egwyddor i raglen buddsoddi cyfalaf strategol gwerth £300miliwn er mwyn cyflawni buddsoddiad anferthol mewn Priffyrdd, Ysgolion, Tai, a Chanol Trefi dros y pum mlynedd nesaf. Mae hyn yn uwch na chynlluniau gwario arferol y Cyngor, ac yn cynrychioli'r buddsoddiad cyfalaf mwyaf yn hanes Rhondda Cynon Taf. Mae'r cynlluniau'n dilyn rhaglen #buddsoddiadRhCT, sy'n gwneud gwahaniaeth mawr i'n cymunedau.

Wedi ei bostio ar 21/02/18