Cafodd sawl mater sylweddol ei ystyried yn ystod cyfarfod y cabinet yr wythnos yma, gan gynnwys Buddsoddiad Cyfalaf ychwanegol er mwyn cefnogi gwelliannau mewn ysgolion, mannau chwarae, cyfleusterau chwaraeon a seilwaith ein priffyrdd.

Bydd yr ariannu yn ategu'r sylfeini cadarn sydd eisoes wedi'u gosod drwy'r Rhaglen BuddsoddiadRhCT gwerth £200m hyd yn hyn.

Yn rhan o'r rhaglen BuddsoddiadRhCT, mae'r Cyngor eisoes wedi ymrwymo i fuddsoddi £200m rhwng 2016 a 2019. Mae'r buddsoddiad yma wedi darparu gwelliannau sylweddol ledled y Fwrdeistref Sirol yn barod drwy fuddsoddi mewn meysydd blaenoriaeth a sicrhau bod isadeiledd allweddol yn barod ar gyfer y dyfodol.

Rydyn ni wedi gallu cynnal ein sylfeini ariannol cadarn, er gwaethaf y toriadau mawr i gyllid sector cyhoeddus yn ein hwynebu. Mae hyn yn golygu ein bod ni wedi gallu blaenoriaethu ein buddsoddiadau mewn prosiectau pwysig a chyfleusterau ledled y Fwrdeistref Sirol.

Mae Cabinet wedi cytuno i fuddsoddiad ychwanegol o £7m, a bydd hyn yn ategu'r cynnydd sydd eisoes wedi'i wneud yn y Fwrdeistref Sirol. Mae'r buddsoddiad yma wedi ein galluogi ni i gynnal gwaith gwella sylweddol i Ganolfannau Hamdden, ysgolion, cyfleusterau chwaraeon a chwarae newydd  a sicrhau bod isadeiledd allweddol yn barod ar gyfer y dyfodol.

Rydyn ni wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn meysydd a fydd yn gwneud gwahaniaeth gweledol a gwneud gwelliannau amlwg ar gyfer trigolion lleol. Bydd £7m yn cyflymu'r broses o wella yn ein cymunedau ledled Rhondda Cynon Taf dros y deuddeg mis nesaf.

Dros y flwyddyn ddiwethaf; mae'r cyllid yma wedi cynorthwyo prosiectau megis y prosiect Cyswllt ar draws y Cwm ac ailddatblygu Dyffryn Taf; mae'r ddau gynllun wedi gwneud cynnydd enfawr dros y flwyddyn ddiwethaf, diolch  i'r buddsoddiad hwn.

Bydd buddsoddiad mewn isadeiledd yn rhan allweddol o'r Cytundeb Dinas, sydd bellach wedi derbyn cefnogaeth gan y deg Awdurdod Lleol yn y De Ddwyrain. Bydd y Cytundeb yn cael ei lofnodi gan y deg Arweinydd ar 1 Mawrth ac felly bydd y Cabinet rhanbarthol sydd wedi'i ffurfio er mwyn gweithredu'r cynllun sylweddol yn dod i fodolaeth. Mae fy sywyddogion yn trafod gyda sawl ffigwr busnes er mwyn cynnal nifer o achlysuron cyhoeddus er mwyn amlygu potensial sylweddol y Cytundeb Dinas a sut bydd y Fwrdeistref Sirol yn buddio ohono.

Bu Cabinet hefyd yn trafod yr wythnos yma ein cyflwyniad ffurfiol i gynnal peilot o gynnig newydd Llywodraeth Cymru yn ymwneud â gofal plant. Mae'r rhaglen yn cynnig 30 awr yr wythnos, am 48 wythnos y flwyddyn, o addysg gynnar a gofal plant am ddim ar gyfer rhieni sydd yn gweithio ac mae ganddyn nhw blant 3 neu 4 oed.

“Rydyn ni wedi cymryd camau rhagweithiol i geisio rhoi'r cynllun gofal plant uchelgeisiol a radical yma ar waith yn Rhondda Cynon Taf. Rydyn ni'n croesawu'r cyllid sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru er mwyn caniatáu awdurdodau lleol i gynnig y ddarpariaeth gofal plant mwyaf hael yn Y Deyrnas Unedig gyfan.

“Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod mai gofal plant yw un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu teuluoedd sy'n gweithio. Cynnig darpariaeth gofal plant well yw un o'r blaenoriaethau ar eu cyfer nhw, ac rydyn ni wedi ceisio sicrhau hynny ar gyfer trigolion Rhondda Cynon Taf cyn gynted ag sy'n bosibl.  Yn amodol ar gymeradwyaeth derfynol y Gweinidogion, mae disgwyl bydd y cynllun arbrofol yn dechrau ym mis Medi 2017, a bydd y cynllun yn cael ei roi ar waith ar draws holl Awdurdodau Lleol Cymru erbyn 2020/21.

Mae'r ymgynghoriad bellach wedi cychwyn sydd yn trafod cyflwyniad arfaethedig y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus. Bydd y gorchymyn yn cynnwys sawl mesur sydd yn mynd i'r afael â'r broblem o bobl anghyfrifol sy'n berchen ar gŵn a chŵn sy'n baeddu mewn mannau cyhoeddus. Mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio'n galed am sawl mis er mwyn datblygu'r hyn y byddai'n cael ei gynnwys mewn ymgynghoriadau â thrigolion. Mae'n rhaid ymgynghori ar drefn gyfreithiol ffurfiol, felly mae'n cymryd amser i ddatblygu cynigion o'r fath.

Mae'r swyddogion wedi bod yn gweithio ac yn datblygu'r cynnig yma ers misoedd. Mae'n bosib bydd y cynnig yn cyflwyno mesurau megis Hysbysiad Cosb Benodedig ar gyfer y sawl sy'n mynd â chŵn am dro ac sydd ddim yn codi'r baw, yn ogystal â chyflwyno gwaharddiad i gŵn rhag unrhyw gae chwaraeon sy'n eiddo i'r Cyngor.

Bydd modd i drigolion gyflwyno eu barn ar-lein drwy arolwg. Fel arall, bydd cyfle i ddweud eu dweud mewn un o'r achlysuron ymgysylltu. Rhagor o wybodaeth yma: www.rctcbc.gov.uk/ymgynghoriadbawcwn

 

Wedi ei bostio ar 17/02/17